{"id":5733,"date":"2024-03-28T13:30:20","date_gmt":"2024-03-28T13:30:20","guid":{"rendered":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/?p=5733"},"modified":"2024-03-28T13:30:20","modified_gmt":"2024-03-28T13:30:20","slug":"craffu-ymatebion-pi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/2024\/03\/craffu-ymatebion-pi\/","title":{"rendered":"Craffu &#8211; Ymatebion PI"},"content":{"rendered":"<p>Tri aelod o Gyngor Ieuenctid Caerdydd yn rhannu eu barn ar fod yn rhan o Bwyllgorau Craffu<\/p>\n<p>Shifa Shahzad<\/p>\n<p>Hel\u00f4, fy enw i yw Shifa Shahzad-Khan. Rwy&#8217;n 16 oed a fi yw aelod ieuengaf Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd. Mae bod ym maes Craffu wedi dysgu sgiliau gwerthfawr i mi. Mae&#8217;r aelodau eraill i gyd wedi bod yn groesawgar er gwaethaf fy niffyg profiad, ac mae&#8217;n anrhydedd i mi gynrychioli pobl ifanc yn y ddinas. Rwy&#8217;n ymwybodol y gall ein diddordebau gael eu hanwybyddu, felly rwy&#8217;n gwybod pa mor wych o gyfrifoldeb yw bod yn llais i bobl ifanc ledled y ddinas &#8211; i gynrychioli eu holl ddymuniadau a&#8217;u credoau. Bydd y profiad hwn yn sicr yn rhywbeth fydd yn aros gyda mi am weddill fy mywyd, gan fy helpu i fagu hyder yn siarad ag oedolion a&#8217;r rhai sy&#8217;n gwneud penderfyniadau a rhoi profiad angenrheidiol i mi.<\/p>\n<p>Ar y cyfan, rwyf wedi mwynhau bod yn rhan o&#8217;r Pwyllgor Craffu, er fy mod wedi cael fy herio, ac rwy&#8217;n hynod ddiolchgar am yr holl help a\u2019r hyfforddiant yr wyf wedi eu cael.<\/p>\n<p>Diolch,<\/p>\n<p>Shifa<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Emily Gao<\/p>\n<p>Hel\u00f4, fy enw i yw Emily Gao, rwy\u2019n 16 oed. Rwyf wedi caru pob rhan o fod ym maes craffu ar ran plant a phobl ifanc. Mae wedi gwneud i mi sylweddoli cryn dipyn. Byddwn i&#8217;n dweud ei fod wedi fy newid fel person mewn ffordd dda. Mae&#8217;n gyfle unwaith mewn oes i gael profiad o graffu. Ni allwn ddiolch digon i bawb am groeso mor gynnes i&#8217;r pwyllgor. Pan ddechreuais roedd hi&#8217;n anodd ond roedd yr hyfforddiant wnes i wedi fy helpu gymaint i fagu hyder a gallu gofyn cwestiynau. Mae&#8217;n r\u00f4l enfawr fel person ifanc i eistedd yno a dweud eich dweud am hyn i gyd. Fel person ifanc, rwyf am i bob person ifanc gael dweud eu dweud, i fynegi sut maen nhw&#8217;n teimlo mewn gwirionedd. Weithiau rwy&#8217;n teimlo&#8217;r ofn, rwy&#8217;n teimlo pa mor fawr yw r\u00f4l hon ond os ydych am wneud gwahaniaeth mae&#8217;n rhaid i chi oresgyn yr ofnau hynny a dyna rydw i wedi&#8217;i wneud.<\/p>\n<p>Diolch<\/p>\n<p>Emily<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Zack Hellard<\/p>\n<p>Hoffwn ddechrau trwy ddweud bod gwasanaethu ar Bwyllgor Craffu&#8217;r Economi a Diwylliant wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint fawr. Mae wedi bod yn wych gallu cynrychioli fy nghyfoedion, i weithio gyda&#8217;r rhai mewn llywodraeth leol i sicrhau nad yw&#8217;r agwedd<\/p>\n<p>ieuenctid yn cael ei hanghofio a dysgu mwy am systemau&#8217;r economi a&#8217;r diwylliant sy&#8217;n sail i&#8217;n cymdeithas.<\/p>\n<p>Mae Caerdydd, fel bob amser, yn ddinas wych i fyw, gweithio a threulio amser ynddi. Rwy&#8217;n falch o allu dod \u00e2 chyfraniadau a syniadau ystyrlon i&#8217;r drafodaeth ynghylch dyfodol y ddinas gan anelu at fod yn Ddinas sy&#8217;n Dda i Blant gyntaf y DU. Bydd y cyflawniad hwn yn gam mawr ymlaen o ran diogelu safle Caerdydd fel &#8216;Dinas Yfory&#8217; sy&#8217;n gwneud cenedlaethau&#8217;r dyfodol yn ganolog i gynlluniau gydol oes ar gyfer newid a thwf.<\/p>\n<p>Er nad yw rhai o&#8217;r pynciau wedi bod yn hawdd eu trafod a chraffu arnynt, rwy&#8217;n hynod ddiolchgar i bob aelod o&#8217;r pwyllgor am fy nghroesawu \u00e2 breichiau cynnes ac agored; yn enwedig y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Wong, ac Angela Holt, Prif y Swyddog Craffu, am eu cefnogaeth barhaus i ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc a sicrhau bod pob cyfarfod yn hygyrch i bawb waeth beth yw eu hoedran. Yn yr amgylchedd hwn, rwyf wedi gallu datblygu sawl gallu sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r broses graffu gyda chymorth gan bawb sy&#8217;n gysylltiedig; gan gynnwys cynghorwyr a chynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol.<\/p>\n<p>Roedd sawl prosiect unigol, yn enwedig rhai&#8217;r Felodr\u00f4m a Neuadd Dewi Sant yn arbennig o heriol; fodd bynnag, aeth y broses graffu i&#8217;r afael \u00e2 phryderon dinasyddion yn ogystal \u00e2&#8217;r rhai sy&#8217;n gysylltiedig ac roedd y canlyniadau yn hynod fuddiol. Fe wnaeth yr achosion hyn hefyd fy ysbrydoli ymhellach i ymchwilio i hanes anhygoel Caerdydd, prosiectau parhaus eraill ac i weithio&#8217;n agosach gyda&#8217;r gymuned ar bryderon a materion lleol sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;u hardaloedd; yn enwedig glanhau strydoedd ac addysg.<\/p>\n<p>Roedd y broses wirioneddol gan unigolion gwybodus sydd ag arbenigedd mewn gwneud penderfyniadau a&#8217;r gallu i graffu a herio ffactorau yn sicrhau bod yr opsiynau gorau ar gael ac yn glir cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol; sydd yn sicrhau mai dim ond y gorau mewn datblygiadau cymdeithasol ac economaidd a pholisi y mae dinasyddion Caerdydd yn eu derbyn. Heb os, mae cyfranogiad ieuenctid wedi sicrhau bod ystyriaeth ieuenctid o fewn pob dull sydd gan Gyngor Caerdydd, ac rwy&#8217;n falch o fod wedi bod yn gyfrwng ar gyfer datblygu &#8211; yn enwedig yn sicrhau bod prosiectau sy&#8217;n cael effaith ar blant a phobl ifanc yn cael Asesiad o&#8217;r Effaith ar Hawliau Plant.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cyfraniadau hyn yn gweithio i&#8217;r bobl, gan sicrhau bod ystyriaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn ein cymuned yn cael eu gwneud. Rwy&#8217;n fodlon ac yn dawel fy meddwl bod Caerdydd ar y trywydd iawn i ddod yn Ddinas sy&#8217;n Dda i Blant UNICEF gyntaf y Deyrnas Unedig gyda chymorth pob aelod o&#8217;r cyngor i anelu at y targed mawreddog a gwerth chweil hwn.<\/p>\n<p>Hoffwn ddiolch hefyd i d\u00eem Dinas sy&#8217;n Dda i Blant Caerdydd am y cyfle i gynrychioli ieuenctid Caerdydd yn ogystal \u00e2 chymorth i ddadansoddi&#8217;r gwir faterion sy&#8217;n wynebu ieuenctid ym mhrifddinas Cymru a thu hwnt, gan sicrhau bod eu buddiannau&#8217;n cael eu gwarchod. Mae&#8217;r ymdrech hon hefyd wedi cael ei galluogi trwy fy ymgysylltiad ag aelodau ifanc o&#8217;r gymuned sy&#8217;n hynod gyffrous i ddysgu bod eu barn yn cael ei hystyried yn weithredol.<\/p>\n<p>Gan edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf o graffu, rwy&#8217;n gobeithio gweld yr un lefelau ymgysylltu ag a welwyd rhwng 2022-2023 gyda ffocws ychwanegol ar weithio&#8217;n agosach ac yn fwy cydlynol gyda&#8217;n gilydd fel aelodau o&#8217;r un bwrdd craffu.y<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Tri aelod o Gyngor Ieuenctid Caerdydd yn rhannu eu barn ar fod yn rhan o Bwyllgorau Craffu Shifa Shahzad Hel\u00f4, fy enw i yw Shifa Shahzad-Khan. Rwy&#8217;n 16 oed a fi yw aelod ieuengaf Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd. Mae bod ym maes Craffu wedi dysgu sgiliau gwerthfawr i mi. Mae&#8217;r aelodau eraill i gyd wedi&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/2024\/03\/craffu-ymatebion-pi\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":4,"featured_media":5492,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-5733","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5733","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5733"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5733\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5734,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5733\/revisions\/5734"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5492"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5733"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5733"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5733"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}