{"id":5581,"date":"2023-10-27T07:24:58","date_gmt":"2023-10-27T07:24:58","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=5581"},"modified":"2025-04-10T09:23:06","modified_gmt":"2025-04-10T09:23:06","slug":"cydnabyddiaeth-fyd-eang-i-gaerdydd-wrth-iddi-ddod-y-ddinas-gyntaf-yn-y-du-i-gael-ei-henwin-ddinas-syn-dda-i-blant-unicef","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/hawliau-plant\/cydnabyddiaeth-fyd-eang-i-gaerdydd-wrth-iddi-ddod-y-ddinas-gyntaf-yn-y-du-i-gael-ei-henwin-ddinas-syn-dda-i-blant-unicef\/","title":{"rendered":"Cydnabyddiaeth fyd-eang i Gaerdydd wrth iddi ddod y ddinas gyntaf yn y DU i gael ei henwi\u2019n Ddinas sy&#8217;n Dda i Blant UNICEF"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column][vc_column_text]Gan weithio gyda phlant a phobl ifanc y ddinas, mae Caerdydd wedi blaenoriaethu chwe maes allweddol: Arweinyddiaeth a Chydweithrediad; Cyfathrebu; Diwylliant; Iechyd; Teulu a Pherthyn; Addysg a Dysgu.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r blaenoriaethau a&#8217;r nodau hyn wedi&#8217;u hymgorffori yn Strategaeth sy&#8217;n Dda i Blant Caerdydd ers 2018. Gan weithio mewn partneriaeth \u00e2 sefydliadau ar draws y ddinas, cynhaliwyd nifer sylweddol o brosiectau, mentrau a chamau gweithredu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu manteisio ar eu hawliau, ffynnu a chyrraedd eu potensial, tra\u2019n mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r rhwystrau a allai gyfyngu ar eu cyfleoedd bywyd.<\/p>\n<p>Dywedodd <strong>y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd<\/strong>: &#8220;Ers lansio Strategaeth sy&#8217;n Dda i Blant Caerdydd, mae&#8217;r ddinas wedi cychwyn ar daith o drawsnewid gyda&#8217;r nod i bob plentyn, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed, deimlo&#8217;n ddiogel, bod ganddynt lais, eu bod yn cael eu meithrin a&#8217;u bod yn gallu ffynnu, i fod yn fan lle mae eu hawliau yn cael eu parchu gan bawb.<\/p>\n<p>&#8220;Trwy uchelgais gyffredin gwasanaethau cyhoeddus eraill, mae gwaith helaeth wedi&#8217;i wneud i sicrhau bod Caerdydd yn fan lle mae pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo&#8217;u cred, ethnigrwydd, cefndir neu gyfoeth, yn ddiogel, yn iach, yn hapus ac yn gallu rhannu llwyddiant y ddinas gyda chyfle cyfartal i wneud y gorau o&#8217;u bywydau a&#8217;u doniau.<\/p>\n<p>&#8220;Sylfaen y newid hwn oedd datblygu diwylliant sy\u2019n parchu hawliau ar draws y cyngor ac ymysg partneriaid ledled y ddinas i sicrhau bod ein staff yn wybodus ac yn hyderus ynghylch hawliau a&#8217;r broses o\u2019u harfer. Cefnogwyd hyn gan bolisi sydd wedi grymuso plant a phobl ifanc i gymryd rhan ystyrlon mewn penderfyniadau sy&#8217;n bwysig iddynt, gan alluogi gwasanaethau i fodloni eu hanghenion ac oedolion i fod yn fwy atebol am y ffordd y mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, eu diogelu a&#8217;u cyflawni.&#8221;<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h2>Mae rhai uchafbwyntiau hyd yn hyn<\/h2>\n<ul>\n<li>Mae 40,000 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn rhaglenni lles gan gynnwys digwyddiadau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles.<\/li>\n<li>Mae 42,254 o blant a phobl ifanc wedi cael cymorth a chefnogaeth gynnar drwy&#8217;r Porth Cymorth i Deuluoedd newydd ers mis Ebrill 2019.<\/li>\n<li>Mae 66,324 o blant 5-14 oed wedi manteisio ar ddarpariaeth chwarae\u2019r awdurdod lleol ers mis Ebrill 2020.<\/li>\n<li>Mae 73% o ysgolion Caerdydd yn gweithio i wreiddio hawliau plant fel rhan o Wobr Ysgolion sy&#8217;n Parchu Hawliau UNICEF UK.<\/li>\n<li>Mae 3,995 o blant a phobl ifanc wedi derbyn hyfforddiant cyfranogiad a hawliau.<\/li>\n<li>Mae bron i 14,000 o oriau dinasyddiaeth weithgar wedi cael eu rhoi gan bobl ifanc drwy grwpiau gan gynnwys y Panel Dinasyddion Plant a Phobl Ifanc, Dylanwadwyr Caerdydd a&#8217;r Cyngor Ieuenctid Plant.<\/li>\n<li>Mae 4,807 aelod o staff y Cyngor wedi derbyn hyfforddiant hawliau.<\/li>\n<li>Mae dros 700 o gyfleoedd wedi bod i blant a phobl ifanc gyfrannu\u2019n ystyrlon at y broses o wneud penderfyniadau yng Nghyngor Caerdydd.<\/li>\n<li>Rydym wedi dod \u00e2 50 t\u00eem o blant ynghyd i ddylunio ardaloedd newydd o&#8217;r ddinas drwy Minecraft Education.<\/li>\n<li>Mae 2,785 o blant wedi cymryd rhan mewn dylunio, monitro a gwerthuso gwasanaethau&#8217;r Cyngor<\/li>\n<li>Mynegodd 12,000 o bobl ifanc farn trwy&#8217;r Arolwg Dinas sy&#8217;n Dda i Blant.<\/li>\n<li>Mae mwy na 155,000 mil o becynnau o gynhyrchion wedi&#8217;u dosbarthu i ysgolion i gefnogi Addewid Caerdydd i hyrwyddo urddas mislif ers mis Mawrth 2019.<\/li>\n<li>Mae 19 o strydoedd wedi cael eu gwneud yn fwy diogel drwy&#8217;r Cynllun Strydoedd Ysgol, gan helpu i leihau traffig yng nghyffiniau 22 ysgol.<\/li>\n<li>Mae naw Llwybr Stori awyr agored wedi cael eu datblygu ledled y ddinas i deuluoedd eu mwynhau.<\/li>\n<li>Mae mwy na 2861 o blant wedi cael mynediad at dros 90 o weithgareddau allgyrsiol am ddim drwy\u2019r fenter Pasbort i&#8217;r Ddinas gan eu helpu i ddatblygu ymdeimlad o falchder yn eu cymuned a&#8217;u dinas.<\/li>\n<li>Mae 43 o bartneriaid wedi cyflwyno cannoedd o fentrau ar gyfer pobl ifanc mewn meysydd fel gwyddoniaeth a thechnoleg, y celfyddydau a diwylliant ac iechyd a lles i gyfoethogi eu profiadau dysgu yn yr ystafell ddosbarth a&#8217;r tu hwnt.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3>Y Cynghorydd Thomas<\/h3>\n<p>\u201cMae ennill statws Dinas sy&#8217;n Dda i Blant UNICEF yn garreg filltir allweddol yng nghynlluniau hirdymor Caerdydd o ran ei strategaeth Dinas sy\u2019n Dda i Blant. Mae&#8217;r gwaith o wneud dinas lle mae lleisiau, anghenion, blaenoriaethau a hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd polis\u00efau, rhaglenni a phenderfyniadau wedi datblygu&#8217;n sylweddol ond mae gwaith i&#8217;w wneud o hyd ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wireddu hawliau plant ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu ein hymagwedd at hawliau ymhellach.<\/p>\n<p>&#8220;Hoffwn longyfarch a diolch i d\u00eem Dinas sy&#8217;n Dda i Blant Caerdydd a&#8217;n holl sefydliadau partner sydd wedi helpu i wireddu uchelgeisiau&#8217;r ddinas ac sydd wedi creu hanes, gan roi Caerdydd ar y map am ei gwaith caled a&#8217;i phenderfyniad i roi plant yn gyntaf ym mhopeth a wnawn.&#8221;<\/p>\n<h3>Y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a\u2019r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau<\/h3>\n<p>&#8220;Ddeng mlynedd yn \u00f4l, rhoddodd Cymru hawliau plant wrth wraidd eu cyfreithiau gyda holl weinidogion Cymru, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau cenedlaethol mawr yn talu sylw i hawliau plant ym mhopeth a wn\u00e2nt. Mae Caerdydd wedi adeiladu ar y diwylliant hwn ac ers 2018 rydym wedi cyflawni pethau gwych er gwaethaf yr heriau a gyflwynwyd gan y pandemig.<\/p>\n<p>&#8220;Mae ein Hadferiad Covid, er enghraifft, wedi bod yn un o lawer o strategaethau sy&#8217;n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc sy&#8217;n arbennig o agored i niwed, gan ddatblygu atebion sy&#8217;n ceisio gwella canlyniadau addysg ac iechyd a rhoi&#8217;r gefnogaeth iawn i deuluoedd ar yr adeg iawn.<\/p>\n<p>&#8220;Rydym wedi gwella ein dealltwriaeth o brofiadau byw ystod ehangach o blant a phobl ifanc i hyrwyddo eu hurddas ac rydym wedi ymdrechu i hyrwyddo\u2019r pwysigrwydd o fabwysiadu ymagwedd hawliau plentyn ar draws gwasanaethau, polisi a rhaglenni.<\/p>\n<p>&#8220;Mae cael cydnabyddiaeth Dinas sy&#8217;n Dda i Blant UNICEF ffurfiol yn goron ar bron i bum mlynedd o waith caled, ymrwymiad ac ymroddiad gan dimau ledled y ddinas sydd wedi gweithio&#8217;n ddiflino i gyflawni&#8217;r statws hwn.<\/p>\n<p>&#8220;Dylai Caerdydd deimlo&#8217;n falch a chyffrous iawn wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol sy&#8217;n dda i blant, lle byddwn yn parhau \u00e2&#8217;n huchelgais o wneud Caerdydd yn ddinas y mae plant a phobl ifanc wrth ei chalon a lle mae lleisiau, anghenion a hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu parchu.&#8221;<\/p>\n<h3>Jon Sparkes, Prif Weithredwr Pwyllgor y DU dros UNICEF (UNICEF UK)<\/h3>\n<p>&#8220;Mae dod yn Ddinas sy&#8217;n Dda i Blant UNICEF gyntaf y DU yn dyst i&#8217;r ymrwymiad a&#8217;r gwaith caled sylweddol a wnaed gan Gyngor Caerdydd a&#8217;i bartneriaid dros y pum mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn addewid i blant a phobl ifanc y ddinas &#8211; y bydd y cyngor yn parhau i sicrhau bod lleisiau plant wrth wraidd penderfyniadau lleol, ac i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc &#8211; yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed a\u2019r rhai sydd ar yr ymylon &#8211; yn gweld bod eu hawliau&#8217;n cael eu cynnal, nawr ac yn y dyfodol.&#8221;[\/vc_column_text][vc_column_text]<\/p>\n<h2>Adnoddau<\/h2>\n<p>[\/vc_column_text][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]<strong>Nid yw\u2019r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Rydym wrthi\u2019n sicrhau ei bod yn cael ei chyfieithu cyn gynted \u00e2 phosibl. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.<\/strong>[\/vc_column_text][vc_column_text]<\/p>\n<ul>\n<li>Gweler <a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Cardiff-Committee-of-Experts-Report-May-23.pdf\">adroddiad gwerthuso\u2019r Pwyllgor Arbenigwyr Plant a Phobl Ifanc (PDF)<\/a>. Mae\u2019r adroddiad hwn wedi\u2019i gynhyrchu gan blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.<\/li>\n<li>Gweler ein <a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/CFC-report-full-compressed.pdf\">hadroddiad gwerthuso Caerdydd sy\u2019n Dda i Blant<\/a>.<\/li>\n<li>Gweler <a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Cardiff-CFC-Outcome-Report.pdf\">adroddiad cydnabod UNICEF (PDF)<\/a>.<\/li>\n<\/ul>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column][vc_column_text]Gan weithio gyda phlant a phobl ifanc y ddinas, mae Caerdydd wedi blaenoriaethu chwe maes allweddol: Arweinyddiaeth a Chydweithrediad; Cyfathrebu; Diwylliant; Iechyd; Teulu a Pherthyn; Addysg a Dysgu. Mae&#8217;r blaenoriaethau a&#8217;r nodau hyn wedi&#8217;u hymgorffori yn Strategaeth sy&#8217;n Dda i Blant Caerdydd ers 2018. Gan weithio mewn partneriaeth \u00e2 sefydliadau ar draws y ddinas, cynhaliwyd&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/hawliau-plant\/cydnabyddiaeth-fyd-eang-i-gaerdydd-wrth-iddi-ddod-y-ddinas-gyntaf-yn-y-du-i-gael-ei-henwin-ddinas-syn-dda-i-blant-unicef\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":11,"featured_media":0,"parent":449,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"cfc.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-5581","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5581","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5581"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5581\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6079,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5581\/revisions\/6079"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/449"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5581"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}