{"id":4958,"date":"2023-03-13T16:18:14","date_gmt":"2023-03-13T16:18:14","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=4958"},"modified":"2023-07-17T13:08:43","modified_gmt":"2023-07-17T13:08:43","slug":"rhan-4","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/llanisien\/rhan-4\/","title":{"rendered":"Rhan 4: Enfys Eleri"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-4958-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Dwr-Cymru_BecomingBright_Mix_Part_4-Cymraeg.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Dwr-Cymru_BecomingBright_Mix_Part_4-Cymraeg.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Dwr-Cymru_BecomingBright_Mix_Part_4-Cymraeg.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGdSUyRjAlMkZlbWJlZCUzRm1pZCUzRDFvMHdiXzBzOUlDY3pLQUdjLS1wcDZvS2dBV0VyU1hzJTI2ZWhiYyUzRDJFMzEyRiUyMiUyMHdpZHRoJTNEJTIyNjQwJTIyJTIwaGVpZ2h0JTNEJTIyNDgwJTIyJTNFJTNDJTJGaWZyYW1lJTNF&#8221;][vc_column_text]Roedd Eleri\u2019n dechrau teimlo ei bod hi wedi bod yn cerdded ers dyddiau. Cofiwch, dim ond glas y dorlan bach oedd hi &#8211; oedd yn ddigon bach i ffitio yng nghledr eich llaw &#8211; ac roedd rhaid iddi gerdded yr holl ffordd ar hyd y llwybr troellog i lawr i\u2019r nant er mwyn ffeindio\u2019r hen froga doeth. Roedd hi wir yn gobeithio y byddai\u2019r broga\u2019n gallu helpu.<\/p>\n<p>Erbyn cyrraedd glan y nant, roedd Eleri\u2019n pryderu eto. Doedd hi erioed wedi gweld broga, felly doedd hi ddim yn gwybod ymhle i chwilio. Roedd hi\u2019n gallu gweld m\u00e2n gerrig yn y nant, a physgod bychain bach hefyd. Roedd hi\u2019n gallu gweld pluen yn arnofio. Ac roedd hi\u2019n gallu gweld y bancyn oedd yn ei hatgoffa am ei bancyn a\u2019i thwnnel hi ei hun. Meddyliodd tybed beth oedd ei mam a\u2019i thad yn ei wneud nawr. I ble\u2019r oedd ei brodyr yn hedfan yn eu cotiau amryliw newydd. Arhosodd Eleri wrth y nant. Doedd dim syniad ganddi beth i\u2019w wneud nesaf.<\/p>\n<p>Beth fyddech chi wedi ei wneud i ffeindio\u2019r broga pe baech chi yn ei sefyllfa hi? Arhosodd am amser hir, ond doedd dim golwg o\u2019r hen froga doeth. Galwodd: \u2018Mr Broga, wyt ti yma? Mae angen eich cymorth arna\u2019i!\u2019 Ond atebodd neb.<\/p>\n<p>Wedyn cofiodd Eleri beth oedd y wiwer wedi dweud wrthi: mae\u2019r hen froga\u2019n hoffi\u2019r cysgod a\u2019r d\u0175r. Tybed a oedd e yn y nant? Aeth ias trwy Eleri wrth feddwl am orfod cerdded yn n\u0175r y nant. Doedd hi ddim hyd yn oed wedi trochi ei thraed yn ei llyn ei hun, ac roedd hi\u2019n pryderu y byddai\u2019n oer ac annifyr. Ond roedd hi wedi bod yn aros yn ddigon hir, ac wedi ceisio galw. Pa ddewis arall oedd ganddi?<\/p>\n<p>Anadlodd Eleri\u2019n ddwfn, a dechreuodd gerdded i lawr y bancyn yn araf bach nes cyrraedd glan y nant. Cododd ei throed bychan bach a\u2019i dal dros y d\u0175r am ennyd. Rwyt ti\u2019n gallu gwneud hyn Eleri, meddai wrthi hi ei hun. Heb oedi mwy, rhoddodd ei throed yn y d\u0175r. Er syndod iddi, roedd y d\u0175r yn gynnes braf.<\/p>\n<p>Cerddodd Eleri i\u2019r nant gan deimlo\u2019r creigiau a\u2019r cerrig llyfn dan ei thraed. Roedd hi\u2019n gweld bod yna le cysgodlyd y tu draw i\u2019r bancyn. Welwch chi\u2019r lle o ble rydych chi\u2019n sefyll?<\/p>\n<p>Dechreuodd Eleri gerdded i\u2019r cyfeiriad yna pan glywodd hi s\u0175n.<\/p>\n<p>S\u0175n dwfn, rhyfedd oedd hi.<\/p>\n<p>\u2018Crawc, crawc\u2019<\/p>\n<p>Trodd Eleri a gweld broga mawr yn neidio allan o\u2019r lle cysgodlyd ar y lan. Roedd e bron mor fawr \u00e2 hi!<\/p>\n<p>\u2018\u2026.Helo\u2019 meddai Eleri\u2019n swil.<\/p>\n<p>\u2018HELO!\u2019 Meddai\u2019r hen froga doeth yn ei lais mawr cryg. \u2018Beth sy\u2019n dod \u00e2 glas y dorlan ifanc fel ti i\u2019r nant?\u2019<\/p>\n<p>\u2018Wel\u2019 meddai Eleri, \u2018fe gwrddais i \u00e2\u2019r gwiwerod, ac fe ddywedon nhw y byddech chi\u2019n gallu fy helpu. Chi\u2019n gweld, mae angen i mi gael nodwydd o ben un o\u2019r coed pinwydd mawr ar ddiwedd y llwybr, a dwi ddim yn gwybod sut, oherwydd chaf i ddim hedfan yn y goedwig am taw prawf\u2026\u2019<\/p>\n<p>\u2018i gael dy blu lliwgar yw hi, ie?\u2019 Winciodd y broga.<\/p>\n<p>\u2018Ie, sut oeddech chi\u2019n gwybod?\u2019<\/p>\n<p>\u2018Wel, r\u2019yn ni\u2019r brogaod doeth yn gweld ac yn clywed lot fawr o gwmpas y gronfa. R\u2019yn ni\u2019n rhai da am edrych a gwrando.\u2019<\/p>\n<p>\u2018O\u2019 meddai Eleri. \u2018Wel, ydych chi\u2019n gallu fy helpu i i gael nodwydd o\u2019r goeden?\u2019<\/p>\n<p>\u2018Wyt ti\u2019n un da am wrando, fy merch?\u2019<\/p>\n<p>\u2018Ym, ydw dwi\u2019n credu.\u2019<\/p>\n<p>\u2018Wel, dwed wrtha i beth rwyt ti wedi ei glywed ar dy siwrnai hyd yn hyn.\u2019 Meddai\u2019r hen froga doeth.<\/p>\n<p>Meddyliodd Eleri am funud. \u2018Wel, fe glywais i lais mam yn dweud wrtha\u2019i am y prawf yma, wedyn glywais i s\u0175n y d\u0175r yn symud wrth i mi hedfan draw yma, wedyn glywais i s\u0175n crafu a llusgo, hwtian a gweiddi, mwmian a gwichian yn y coed, wedyn fe glywais i\u2019r gwiwerod yn clebran a chi\u2019n crawcian, a&#8230; dyna ni dwi\u2019n credu?\u2019<\/p>\n<p>\u2018A, ond wyt ti wedi clywed y coed? Wyt ti wedi gwrando ar beth sydd ganddyn nhw i\u2019w ddweud?\u2019<\/p>\n<p>Roedd Eleri wedi drysu. \u2018Dwi ddim yn deall.\u2019<\/p>\n<p>\u2018Shhh, gwranda. Gwranda\u2019n ofalus.\u2019<\/p>\n<p>Edrychodd i fyny am funud a cheisio gwrando ar y coed. Roedd hi\u2019n clywed pob math o synau eraill, ond nid y coed, wedyn SBLASH! Roedd y broga wedi mynd. Chwiliodd o\u2019i chwmpas a galwodd amdano, a cherddodd ar hyd y lan eto, ond dim byd. Roedd e wir wedi mynd.<\/p>\n<p>Cerddodd Eleri n\u00f4l i fyny\u2019r bancyn i\u2019r llwybr, sychodd ei thraed ac eisteddodd i lawr. Beth oedd hi\u2019n mynd i\u2019w wneud nawr? Doedd y broga ddim wedi helpu dim. Nawr doedd hi ddim yn gwybod ble i fynd, na phwy i siarad \u00e2 nhw. A fyddai hi byth yn cael ei phlu lli-<\/p>\n<p>\u2018Shhhhhh\u2019. Daeth s\u0175n tawel meddal ati ar y gwynt. Edrychodd Eleri i fyny.<\/p>\n<p>Dechreuodd yr holl goed blygu a phwyntio at ymyl y goedwig. Sefodd Eleri ar ei thraed a phenderfynodd eu dilyn nhw. Ddylech chi fynd hefyd.<\/p>\n<p><em>(stori gan Christina Thatcher)<\/em><\/p>\n<p>[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1735&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmxsYW5pc2llbiUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyTGx3eWJyYXUlMjBIYWZhbiUyMiUzRUhhZmFuJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZsbGFuaXNpZW4lMkZyaGFuLTElMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDElMjIlM0VSaGFuJTIwMSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGbGxhbmlzaWVuJTJGcmhhbi0yJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAyJTIyJTNFUmhhbiUyMDIlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmxsYW5pc2llbiUyRnJoYW4tMyUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwMyUyMiUzRVJoYW4lMjAzJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBjbGFzcyUzRCUyMmFjdGl2ZSUyMiUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmxsYW5pc2llbiUyRnJoYW4tNCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwNCUyMiUzRVJoYW4lMjA0JTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZsbGFuaXNpZW4lMkZyaGFuLTUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlM0MlMkZkaXYlM0U=[\/vc_raw_html][vc_single_image image=&#8221;4710&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221; onclick=&#8221;custom_link&#8221; img_link_target=&#8221;_blank&#8221; link=&#8221;https:\/\/makeyourmove.org.uk\/&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column width=&#8221;1\/3&#8243;][vc_single_image image=&#8221;5343&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; onclick=&#8221;custom_link&#8221; link=&#8221;https:\/\/corporate.dwrcymru.com\/en\/community\/explore-our-sites\/lisvane-and-llanishen&#8221;][\/vc_column][vc_column width=&#8221;1\/3&#8243;][vc_single_image image=&#8221;4721&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221; onclick=&#8221;custom_link&#8221; link=&#8221;https:\/\/makeyourmove.org.uk\/&#8221;][\/vc_column][vc_column width=&#8221;1\/3&#8243;][vc_single_image image=&#8221;5341&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221;][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text] [\/vc_column_text][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGdSUyRjAlMkZlbWJlZCUzRm1pZCUzRDFvMHdiXzBzOUlDY3pLQUdjLS1wcDZvS2dBV0VyU1hzJTI2ZWhiYyUzRDJFMzEyRiUyMiUyMHdpZHRoJTNEJTIyNjQwJTIyJTIwaGVpZ2h0JTNEJTIyNDgwJTIyJTNFJTNDJTJGaWZyYW1lJTNF&#8221;][vc_column_text]Roedd Eleri\u2019n dechrau teimlo ei bod hi wedi bod yn cerdded ers dyddiau. Cofiwch, dim ond glas y dorlan bach oedd hi &#8211; oedd yn ddigon bach i ffitio yng nghledr eich llaw &#8211; ac roedd rhaid iddi gerdded yr holl ffordd ar hyd y llwybr troellog i lawr i\u2019r nant er&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/llanisien\/rhan-4\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":4936,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-4958","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4958","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4958"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4958\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5354,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4958\/revisions\/5354"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4936"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4958"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}