{"id":4944,"date":"2023-03-13T16:07:27","date_gmt":"2023-03-13T16:07:27","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=4944"},"modified":"2023-07-17T13:09:08","modified_gmt":"2023-07-17T13:09:08","slug":"rhan-1","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/llanisien\/rhan-1\/","title":{"rendered":"Rhan 1: Enfys Eleri"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-4944-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Dwr-Cymru_BecomingBright_Mix_Part_1-Cymraeg.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Dwr-Cymru_BecomingBright_Mix_Part_1-Cymraeg.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Dwr-Cymru_BecomingBright_Mix_Part_1-Cymraeg.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGdSUyRjAlMkZlbWJlZCUzRm1pZCUzRDFvMHdiXzBzOUlDY3pLQUdjLS1wcDZvS2dBV0VyU1hzJTI2ZWhiYyUzRDJFMzEyRiUyMiUyMHdpZHRoJTNEJTIyNjQwJTIyJTIwaGVpZ2h0JTNEJTIyNDgwJTIyJTNFJTNDJTJGaWZyYW1lJTNF&#8221;][vc_column_text]Rydych chi ar fin mynd i mewn i goedwig arbennig iawn. Mae hi\u2019n lle arbennig nid yn unig am fod planhigion prin yma (ac mae yna), nac am ei bod hi\u2019n bert (ac mae hynny\u2019n sicr yn wir). Mae hi\u2019n arbennig oherwydd aderyn bach a\u2019i stori. Gadewch i mi rannu ei stori \u00e2 chi.<\/p>\n<p>Ddim yn hir yn \u00f4l, roedd cyw glas y dorlan o\u2019r enw Eleri\u2019n byw yma. Cafodd ei geni ar lan y gronfa dd\u0175r. Dyw adar glas y dorlan ddim yn byw mewn nythod fflwfflyd fel y rhai y gwelwch chi mewn coed.\u00a0 Yn hytrach, maen nhw\u2019n adeiladu twneli bychain ar lannau pyllau ac afonydd lle maen nhw\u2019n gallu cadw\u2019n ddiogel a hela pysgod.<\/p>\n<p>Ydych chi wedi gweld glas y dorlan erioed? Adar bach \u00e2 phlu lliwgar llachar ydyn nhw: rhai glas, gwyrdd, oren a gwyn. Mae plu glas y dorlan yn disgleirio fel wyneb llyn yng ngolau\u2019r haul.<\/p>\n<p>Wel, a bod yn onest, dim ond rhai ohonyn nhw sy\u2019n disgleirio fel hyn. Oherwydd, does dim plu o gwbl gan gywion glas y dorlan adeg eu geni. A phan mae\u2019r plu\u2019n tyfu, maen nhw\u2019n dywyll ac yn ddilewyrch. Pan oedd Eleri\u2019n ifanc, roedd hi\u2019n rhannu twnnel \u00e2\u2019i mam, ei thad a\u2019i thri brawd. Un diwrnod, gofynnodd:<\/p>\n<p>\u2018Mam, sut wyt ti a Dad mor loyw a lliwgar, a\u2019r gweddill ohonom ni mor blaen a llwyd? Rydyn ni eisiau disgleirio hefyd!\u2019<\/p>\n<p>\u2018Wel, fy merch fach annwyl,\u2019 meddai ei mam, \u2018bydd rhaid i ti aros i weld. Amynedd piau hi.\u2019<\/p>\n<p>Drannoeth, roedd un o\u2019i brodyr ar goll o\u2019r twnnel. Gofynnodd i\u2019w mam a\u2019i thad ble\u2019r oedd e wedi mynd, ond fe ddywedon nhw wrthi i beidio \u00e2 phoeni. Erbyn y diwrnod nesaf, roedd brawd arall ar goll. Gofynnodd eto:<\/p>\n<p>\u2018Mam, Dad, ble mae fy mrodyr i\u2019n mynd? Ydyn nhw\u2019n iawn?\u2019<\/p>\n<p>\u2018Paid \u00e2 phoeni cariad\u2019 meddai ei thad \u2018mwynha\u2019r pysgod a\u2019r lle ychwanegol. R\u2019yn ni\u2019n addo bob popeth yn iawn.\u2019<\/p>\n<p>Erbyn diwedd yr wythnos, roedd ei brodyr i gyd wedi mynd o\u2019r twnnel, ac Eleri oedd yr unig un oedd ar \u00f4l. Roedd hyn yn ei dychryn hi. A dweud y gwir, roedd llawer o bethau\u2019n dychryn Eleri. Doedd hi dal ddim wedi trochi ei thraed yn y d\u0175r, doedd hi ddim wedi hedfan yn bell iawn o\u2019i chartref, doedd hi ddim wedi siarad \u00e2 neb o\u2019r cymdogion: yr hwyaden gopog, i\u00e2r y d\u0175r na\u2019r alarch. Roedd hi\u2019n gwybod nad oedd dim byd yn bod arni &#8211; mae pawb yn ofni rhywbeth ychydig bach &#8211; ond roedd hi\u2019n dyheu i fod yn ddewrach. Ac roedd hi\u2019n hiraethu am ei brodyr. I ble\u2019r oedden nhw i gyd wedi mynd?<\/p>\n<p>O dipyn i beth, ar \u00f4l bore prysur o bysgota, daeth mam Eleri adre a dweud wrthi: \u2018Fy merch annwyl, mae hi\u2019n amser pwysig i ti. Mae adar glas y dorlan fel ni\u2019n amyneddgar ac yn falch, yn ddewr ac yn brydferth. Ond nid rhywbeth r\u2019yn ni\u2019n cael ein geni ag e yw hyn, ond rhywbeth y mae\u2019n rhaid ei ennill.\u2019<\/p>\n<p>\u2018Dwi ddim yn deall.\u2019 meddai Eleri.<\/p>\n<p>\u2018Mae amser yn dod ym mywyd pob glas y dorlan pan mae angen iddyn basio prawf pwysig i ennill eu plu lliwgar a gadael eu cartref. Mae dy frodyr wedi pasio\u2019u profion nhw, dy dro di yw hi nawr.\u2019<\/p>\n<p>Roedd hyn yn sioc i Eleri. Doedd hi ddim wedi clywed dim am y fath brawf o\u2019r blaen. Dychmygodd ei brodyr yn hedfan o gwmpas y gronfa gyda\u2019u plu oren a glas a gwyrdd a gwyn newydd. Roedd hi\u2019n dyheu am eu gweld nhw ac am glywed eu straeon.<\/p>\n<p>\u2018Mae pob prawf yn wahanol\u2019 meddai ei mam. \u2018Mae rhaid i\u2019r prawf herio pob glas y dorlan mewn ffordd unigryw. Er enghraifft, roedd rhaid i Lewis, dy frawd &#8211; \u00e2\u2019i adenydd bychain bach &#8211; hedfan i fynydd Caerffili a n\u00f4l. Roedd rhaid i Hari &#8211; sy\u2019n cas\u00e1u trochi ei draed &#8211; gerdded yr holl ffordd i lawr ar hyd llwybr mwdlyd y gronfa heb hedfan o gwbl. A Rhys &#8211; sydd ofn y tywyllwch &#8211; roedd rhaid iddo fe gysgu allan ar ei ben ei hunan bach, ymhell o\u2019r twnnel ar noson dywyll. Roedd ofn arnyn nhw i gyd, ond fe lwyddodd pob un ac fe gawson nhw eu plu lliwgar. Dy dro di yw hi nawr.\u2019<\/p>\n<p>Roedd Eleri\u2019n dechrau pryderu. Roedd y profion hyn yn swnio\u2019n ddychrynllyd o anodd.<\/p>\n<p>\u2018Felly beth fydd fy mhrawf i?\u2019 gofynnodd.<\/p>\n<p>\u2018Bydd dy sialens di, fy merch fach swil a thawel, yn anodd iawn, am fod llawer o bethau\u2019n dy ddychryn di. Yn gyntaf, bydd angen i ti hedfan dros y gronfa dd\u0175r i\u2019r goedwig. Ar \u00f4l cyrraedd, rhaid i ti gerdded trwy\u2019r goedwig gan siarad \u00e2 phob creadur y gweli di yno. Wedyn, rhaid i ti gasglu nodwydd o gangen uchaf un o\u2019r coed pinwydd tal ar ddiwedd y llwybr. Cofia na chei di hedfan i fyny i wneud hyn, felly rhaid i ti ffeindio ffordd arall o fynd ati. Ar \u00f4l casglu\u2019r nodwydd, nofia n\u00f4l dros y gronfa a\u2019i rhoi hi i fi. Os llwyddi di i wneud hyn i gyd, fe gei di dy blu lliwgar.\u2019<\/p>\n<p>Trodd gwaed Eleri\u2019n oer. Roedd hyn yn mynd i fod eithriadol o anodd.<\/p>\n<p>\u2018Cer nawr, fy merch i, tra bod hi\u2019n olau dydd. Bydd ffrind yn y goedwig yn cadw llygad i wneud yn si\u0175r dy fod ti\u2019n dilyn yr holl reolau\u2019 meddai ei mam yn garedig wrth fynd ag Eleri at agoriad y twnnel. Pwyntiodd at y coed yr ochr draw i\u2019r gronfa. \u2018Nawr, hedfana draw i gopa\u2019r bryn bach yna.\u00a0 Fe weli di lwybr trwy\u2019r goedwig a dyna\u2019r man cychwyn.\u2019<\/p>\n<p>Allwch chi ddychmygu? Yn yr union fan yma lle rydych chi\u2019n sefyll nawr y dechreuodd Eleri ei hantur. Hedfanodd yr holl ffordd yma o dwnnel ei theulu\u2019r ochr draw i\u2019r gronfa. Mae\u2019n rhaid bod hi\u2019n ofnus dros ben wrth fentro i\u2019r lle newydd yma. Nawr, dilynwch yn olion ei thraed i mewn i\u2019r goedwig. Dychmygwch sut brofiad fyddai hyn i Eleri \u2013 roedd hi\u2019n ddigon bach i ffitio yng nghledr eich llaw \u2013 a dyma hi\u2019n cerdded i mewn i\u2019r goedwig am y tro cyntaf.<\/p>\n<p><em>(stori gan Christina Thatcher)<\/em>[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1732&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmxsYW5pc2llbiUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyTGx3eWJyYXUlMjBIYWZhbiUyMiUzRUhhZmFuJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBjbGFzcyUzRCUyMmFjdGl2ZSUyMiUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmxsYW5pc2llbiUyRnJoYW4tMSUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwMSUyMiUzRVJoYW4lMjAxJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZsbGFuaXNpZW4lMkZyaGFuLTIlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDIlMjIlM0VSaGFuJTIwMiUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGbGxhbmlzaWVuJTJGcmhhbi0zJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAzJTIyJTNFUmhhbiUyMDMlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmxsYW5pc2llbiUyRnJoYW4tNCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwNCUyMiUzRVJoYW4lMjA0JTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZsbGFuaXNpZW4lMkZyaGFuLTUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlM0MlMkZkaXYlM0U=[\/vc_raw_html][vc_single_image image=&#8221;4710&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221; onclick=&#8221;custom_link&#8221; img_link_target=&#8221;_blank&#8221; link=&#8221;https:\/\/makeyourmove.org.uk\/&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column width=&#8221;1\/3&#8243;][vc_single_image image=&#8221;5343&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; onclick=&#8221;custom_link&#8221; link=&#8221;https:\/\/corporate.dwrcymru.com\/en\/community\/explore-our-sites\/lisvane-and-llanishen&#8221;][\/vc_column][vc_column width=&#8221;1\/3&#8243;][vc_single_image image=&#8221;4721&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221; onclick=&#8221;custom_link&#8221; link=&#8221;https:\/\/makeyourmove.org.uk\/&#8221;][\/vc_column][vc_column width=&#8221;1\/3&#8243;][vc_single_image image=&#8221;5341&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221;][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text] [\/vc_column_text][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGdSUyRjAlMkZlbWJlZCUzRm1pZCUzRDFvMHdiXzBzOUlDY3pLQUdjLS1wcDZvS2dBV0VyU1hzJTI2ZWhiYyUzRDJFMzEyRiUyMiUyMHdpZHRoJTNEJTIyNjQwJTIyJTIwaGVpZ2h0JTNEJTIyNDgwJTIyJTNFJTNDJTJGaWZyYW1lJTNF&#8221;][vc_column_text]Rydych chi ar fin mynd i mewn i goedwig arbennig iawn. Mae hi\u2019n lle arbennig nid yn unig am fod planhigion prin yma (ac mae yna), nac am ei bod hi\u2019n bert (ac mae hynny\u2019n sicr yn wir). Mae hi\u2019n arbennig oherwydd aderyn bach a\u2019i stori. Gadewch i mi rannu ei stori&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/llanisien\/rhan-1\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":4936,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-4944","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4944","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4944"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4944\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5357,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4944\/revisions\/5357"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4936"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4944"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}