{"id":3135,"date":"2022-01-12T12:20:07","date_gmt":"2022-01-12T12:20:07","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=3135"},"modified":"2022-12-14T11:02:41","modified_gmt":"2022-12-14T11:02:41","slug":"rhan_5","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/tredelerch\/rhan_5\/","title":{"rendered":"Rhan 5: Parc Tredelerch"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-3135-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Alarch-5.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Alarch-5.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Alarch-5.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxQ3RRN0s0UFhUYUJIQXhZOVB4MzJpakNGY0lMWEhQUGclMjZlaGJjJTNEMkUzMTJGJTIyJTIwd2lkdGglM0QlMjI2NDAlMjIlMjBoZWlnaHQlM0QlMjI0ODAlMjIlM0UlM0MlMkZpZnJhbWUlM0U=&#8221;][vc_column_text]Nid oedd Pysgotferch eisiau gadael yr alarch-forwyn ar ben ei hun y noson honno, ond roedd hi\u2019n gwybod bod ei theulu yn dechrau bod yn amheus. Roedd sibrydion wedi bod. Roedd Rhedwr wedi dweud bod Pysgotferch yn dod \u00e2 llai o bysgod yn \u00f4l ond ei bod hi i ffwrdd am hirach. Roedd mam Pysgotferch wedi dechrau awgrymu efallai ei bod wedi colli ei dawn gyda\u2019r waywffon ac efallai y byddai\u2019n fwy defnyddiol iddi h ofalu am y plant.<\/p>\n<p>Felly aeth Pysgotferch yn \u00f4l at y t\u00e2n. Eisteddodd gyda\u2019i theulu wrth i\u2019r lleuad godi yn yr awyr. Arhosodd hi &#8211; roedd yn teimlo fel oes &#8211; nes i bob un ohonynt ddechrau syrthio i gysgu. Yn araf, pan roedd hi\u2019n si\u0175r mai hi oedd yr unig un ar ddihun, cododd hi ar draed tawel a mynd i ffwrdd o\u2019r t\u00e2n tuag at lan y llyn.<\/p>\n<p>Roedd yr elyrch yno yn barod erbyn iddi gyrraedd. Roedden nhw wedi dadwisgo eu plu ac yn dawnsio unwaith eto, yn llawn llawenwch, ac yn eu plith dawnsiai\u2019r alarch-forwyn ifanc. Edrychodd yn fwy llawen nag a fu am amser hir iawn, a gwyliodd Pysgotferch a\u2019i chalon yn torri. Gwyliodd hi drwy\u2019r nos, nes i\u2019r haul ddechrau codi, a gwnaeth yr alarch-forwynion eu ffordd i\u2019r plu oedd wedi\u2019u pentyrru ar y lan. Ac fel yr oeddyn nhw\u2019n mynd, gafaelodd yr alarch-forwyn ifanc yn nwylo pob un, a llefain, a roedden nhw\u2019n crio hefyd, a chriodd Pysgotferch gyda nhw gan wybod mai hi a achosodd eu poen nhw. Ac o\u2019r diwedd gadawodd yr elyrch eraill eu chwaer ar y lan a nofio fel elyrch yn \u00f4l i ganol y llyn, ac fel y gwnaethon nhw hwn, clywodd Pysgotferch s\u0175n ofnadwy, s\u0175n a danfonodd i\u00e2s i lawr ei chefn hi \u2013<\/p>\n<p>Cri anferthol, ac yno, yn codi o\u2019r llwyni o amgylch glan y llyn, daeth gwaywffyn a saethau yn hedfan drwy\u2019r awyr, a\u2019r elyrch yn codi i ffwrdd o\u2019r dwr mewn panig mawr o blu gwyn. Teulu Pysgotferch ydoedd. Sylweddolodd gydag arswyd nad oedd hi wedi bod mor ofalus ag yr oedd hi wedi meddwl, oherwydd dyna lle \u00a0roedd Rhedwr, yn gwenu fel ff\u0175l.<\/p>\n<p>\u201cFelly dyma dy gyfrinach!\u201d roedd yn dweud. \u201cOeddet ti\u2019n mynd i\u2019w cadw nhw i gyd i ti dy hun?\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019n rhaid ei fod e wedi ei dilyn hi, ac wedi dod \u00e2\u2019i theulu hi gydag ef, er mwyn hela\u2019r elyrch.<\/p>\n<p>\u201cStopiwch!\u201d Roedd Pysgotferch yn sgrechian. \u201cDydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi\u2019n ei wneud!\u201d<\/p>\n<p>Ond roedd yr elyrch wedi hen ddiflannu, yn hedfan tuag at yr haul, curiadau eu hadenydd yn atseinio \u00e2 phanig newydd, a\u2019r alarch-forwyn wedi diflannu i\u2019w nyth yn y gors.<\/p>\n<p>Ni lwyddodd teulu Pysgotferch i ddal yr un alarch y bore hwnnw, ac yn araf deg, dychwelodd yr helwyr i lan y t\u00e2n. Arhosodd y ferch nes eu bod nhw i gyd wedi mynd. Yna aeth hi i chwilio\u2019r cyrs am yr alarch-forwyn.<\/p>\n<p>Daeth o hyd iddi yn y diwedd, wedi&#8217;i chyrlio yn y rhan ddyfnaf, fel pe bai\u2019n ceisio dod yn rhan o\u2019r llyn.<\/p>\n<p>\u201cPaid \u00e2 chrio,\u201d meddai Pysgotferch wrthi. \u201cBydd popeth yn iawn. Byddai\u2019nd dy helpu. Fi yw dy ffrind.\u201d<\/p>\n<p>Ond nid oedd yr alarch-forwyn am wrando arni.<\/p>\n<p>Tan o\u2019r diwedd cododd ei llygaid melyn a dweud yn glir, \u201cFyddan nhw byth yn dod yn \u00f4l.\u201d<\/p>\n<p>Nid oedd Pysgotferch erioed wedi ei chlywed yn siarad fel hyn o\u2019r blaen. Ond roedd hi\u2019n gwybod yn union beth roedd angen iddi ei wneud.<\/p>\n<p>\u201cDere gyda fi,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Cymerodd yr alarch-forwyn gerfydd ei llaw a\u2019i harwain at y goeden wag. Estynnodd i\u2019w chalon dywyll a thynnu plu\u2019r alarch ohono. Roedden nhw mor wyn a disglair \u00e2\u2019r noson roedd hi wedi\u2019u dwyn nhw. Rhoddodd hi nhw yn nwylo\u2019r ferch.<\/p>\n<p>Ac yn olaf, dyma Pysgotferch yn edrych ar ei ffrind, i fewn i fyw ei llygaid hi. \u201cDylwn i byth fod wedi ei wneud,\u201d meddai. \u201cOnd roeddwn i mor unig. A roeddwn i eisiau i ti fod yn ffrind i mi.\u201d<\/p>\n<p>Roedd llygaid melyn y ferch yn llawn llawenwch. Daliodd ei phlu yn dynn. Ac yn sydyn roedd hi wedi tynnu i ffwrdd o Pysgotferch a roedd hi\u2019n rhedeg i lawr i lan y llyn. Tynnodd ei phlu ymlaen. Daeth yn alarch unwaith yn rhagor. Plymiodd i\u2019r dwr, a sgidio ar draws wyneb y llyn, cododd i\u2019r awyr, a hedfanodd i mewn i\u2019r haul, i ymuno \u00e2\u2019i chwiorydd.<\/p>\n<p>Gwyliodd Pysgotferch hi\u2019n mynd.<\/p>\n<p>Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, ei thro hi i adael oedd hi. Roedd angen i\u2019w theulu symud i dir uwch cyn i stormydd y gaeaf lyncu\u2019r wlad hon unwaith yn rhagor. Roedd hi\u2019n gwybod na fyddai hi byth yn gweld yr alarch-forwyn eto. Ond roedd hi\u2019n gallu ei chofio. Yn ystod misoedd hir y gaeaf, wedi\u2019i chwtsio o amgylch t\u00e2n ei theulu, byddai\u2019n dwyn ychydig eiliadau iddi\u2019i hun trwy gau ei llygaid a dychmygu golau\u2019r lleuad ar blu gwyn, a dychmygu ei hun yn dawnsio gyda\u2019r elyrch, yn nosweithiau\u2019r haf, wrth y llyn.<\/p>\n<p>Achos mae diweddglo hapus i\u2019r stori hon, er gwaethaf popeth. Yn y diwedd daeth yr elyrch yn \u00f4l i\u2019r lle hwn. Dyna pam rydym ni\u2019n galw\u2019r parc hwn yn Barc Tredelerch. Ac fel rwyt ti\u2019n gwbod, mae Pysgotferch yma o hyd, hefyd, yn sefyll uwchben y d\u0175r, yn barod i ddal pysgodyn gyda\u2019i gwaywffon. Ac efallai yn awr, pan fydd tywyllwch yn disgyn, mae\u2019r elyrch ar y d\u0175r yn nofio am y lan, ac yn tynnu eu plu i ffwrdd, a dawnsio, ac efallai mae gymaint o amser wedi pasio erbyn hwn fel bod popeth wedi cael ei faddau, a mae Pysgotferch yn gallu ymuno \u00e2 nhw, a gallai hi ddawnsio hefyd.[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;3653&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRnRyZWRlbGVyY2glMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkxsd3licmF1JTIwSGFmYW4lMjIlM0VIYWZhbiUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGdHJlZGVsZXJjaCUyRnJoYW5fMSUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwMSUyMiUzRVJoYW4lMjAxJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZ0cmVkZWxlcmNoJTJGcmhhbl8yJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAyJTIyJTNFUmhhbiUyMDIlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRnRyZWRlbGVyY2glMkZyaGFuXzMlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDMlMjIlM0VSaGFuJTIwMyUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGdHJlZGVsZXJjaCUyRnJoYW5fNCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwNCUyMiUzRVJoYW4lMjA0JTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBjbGFzcyUzRCUyMmFjdGl2ZSUyMiUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRnRyZWRlbGVyY2glMkZyaGFuXzUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlM0MlMkZkaXYlM0U=[\/vc_raw_html][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<p>[vc_row][vc_column][vc_single_image image=&#8221;4718&#8243; img_size=&#8221;large&#8221; alignment=&#8221;center&#8221; onclick=&#8221;custom_link&#8221; img_link_target=&#8221;_blank&#8221; css_animation=&#8221;fadeIn&#8221; link=&#8221;https:\/\/makeyourmove.org.uk\/&#8221;][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text] [\/vc_column_text][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxQ3RRN0s0UFhUYUJIQXhZOVB4MzJpakNGY0lMWEhQUGclMjZlaGJjJTNEMkUzMTJGJTIyJTIwd2lkdGglM0QlMjI2NDAlMjIlMjBoZWlnaHQlM0QlMjI0ODAlMjIlM0UlM0MlMkZpZnJhbWUlM0U=&#8221;][vc_column_text]Nid oedd Pysgotferch eisiau gadael yr alarch-forwyn ar ben ei hun y noson honno, ond roedd hi\u2019n gwybod bod ei theulu yn dechrau bod yn amheus. Roedd sibrydion wedi bod. Roedd Rhedwr wedi dweud bod Pysgotferch yn dod \u00e2 llai o bysgod yn \u00f4l ond ei bod hi i ffwrdd am hirach&#8230;. <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/tredelerch\/rhan_5\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":3117,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-3135","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3135","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3135"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3135\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4740,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3135\/revisions\/4740"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3117"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3135"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}