{"id":3109,"date":"2022-01-12T10:16:18","date_gmt":"2022-01-12T10:16:18","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=3109"},"modified":"2022-12-14T11:29:34","modified_gmt":"2022-12-14T11:29:34","slug":"rhan_5","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/coed_y_nant\/rhan_5\/","title":{"rendered":"Bag Llaw Mamgu &#8211; Rhan 5"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-3109-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Bag-Llaw-5.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Bag-Llaw-5.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Bag-Llaw-5.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxRjhpLVBYUU9pbldjSFlfellpMUQ1OGlpTHZLT09JOCUyNmVoYmMlM0QyRTMxMkYlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRQ==&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]Daeth Mo a Mamgu i lawr at y llyn y noson wedyn, yn union fel roedd yr haul yn machlud. Roedden nhw\u2019n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw fod yn gyflym, os oedd ganddyn nhw siawns o achub draig y m\u00f4r cyn i\u2019r pysgotwr gyrraedd yno.<\/p>\n<p>\u201cBlodyn porffor yw e,\u201d meddai Mamgu wrth Mo. \u201cMae\u2019n tyfu yng nghanol y garlleg gwyllt. Cyflym, cer i chwilio amdano. Wnai gadw golwg mas.\u201d<\/p>\n<p>Cydiodd yn ei bag llaw yn dynn a theimlodd Mo ei galon yn taranu yn ei frest mewn ofn.<\/p>\n<p>\u201cBeth os daw\u2019r pysgotwr?\u201d<\/p>\n<p>\u201cGadewch e i mi,\u201d meddai Mamgu. \u201cCer nawr. Cer i n\u00f4l y blodyn.\u201d<\/p>\n<p>Dechreuodd Mo i edrych o dan y coed, yng nghanol y garlleg gwyllt, ond roedd y golau\u2019n pylu\u2019n gyflym, a nid oedd ei lygaid yn addasu i\u2019r tywyllwch. Syllodd a syllodd. Roedd e ar ei bengliniau\u2019n chwilio yn y gwair. Ac yna, yn sydyn, fe\u2019i clywodd.<\/p>\n<p>Pesychodd Mamgu, yn uchel. Hwn oedd y signal.<\/p>\n<p>Aeth cryndod ofnadwy i lawr asgwrn cefn Mo.<\/p>\n<p>Swatiodd i lawr yn y garlleg gwyllt, prin y gallai anadlu.<\/p>\n<p>Clywodd Mo lais isel a bygythiol. Y pysgotwr oedd e. \u201cBeth wyt ti\u2019n\u2019i wneud fan hyn, hen wraig?\u201d<\/p>\n<p>\u201cDw i jyst allan am dro gyda\u2019r nos,\u201d clywodd Mo Mamgu yn dweud. \u201cBeth amdanat ti? Rwyt ti wedi gwisgo braidd yn od ar gyfer yr adeg yma o\u2019r flwyddyn, rhaid dweud. Ac ife gwaywffon yw hwnna?\u201d<\/p>\n<p>\u201cDim o dy fusnes di, yr hen ystlum. Nawr, symuda \u2019mlan, cyn i mi dy orfodi di.\u201d<\/p>\n<p>\u201cWrth gwrs, syr,\u201d meddai Mamgu, yn esgus bod yn gwrtais. Cododd ei llais ychydig. \u201cOnd, efallai y bydd rhaid i mi grafu o amgylch o dan rhai o FONCYFF Y COED cyn mynd.\u201d<\/p>\n<p>\u201cBeth wyt ti\u2019n s\u00f4n am? Symuda!\u201d Roedd y pysgotwr yn swnio\u2019n wyllt gacwn a chlywodd Mo olion traed Mamgu yn diflannu i\u2019r pellter. Roedd e ar ei ben ei hun. Ac nid oedd ganddo\u2019r blodyn porffor.<\/p>\n<p>Am beth roedd Mamgu wedi bod yn s\u00f4n? Boncyffion coed? Oedd hi wedi bod yn ceisio gwylltio\u2019r pysgotwr?<\/p>\n<p>Boncyffion coed!! Neges iddo fe oedd!<\/p>\n<p>Mor dawel ag y gallai, cropiodd i waelod y goeden agosaf a dechrau teimlo yn y ddaear. Roedd ei fysedd yn cyffwrdd \u00e2 rhywbeth: coesyn bach a phen blodyn gyda phetalau meddal. Blinciodd, erfyn ar ei lygaid i weld yn y tywyllwch. Ai ei ddychymyg ef oedd hi neu a oedd y blodyn yn ei fysedd yn lliw porffor llachar? Roedd yn rhaid ei fod.<\/p>\n<p>Torrodd y coesyn yn ofalus, er mwyn peidio niweidio unrhyw un o\u2019r planhigion eraill gerllaw. Rhoddodd ef yn ei boced. Arhosodd, ei wynt yn ei ddwrn, i weld beth fyddai\u2019n digwydd nesaf.<\/p>\n<p>Clywodd s\u0175n y pysgotwr yn gwichian i lawr at ymyl y d\u0175r ac, yn araf bach, yn mynd i mewn i\u2019r llyn. Yna roedd tawelwch. Distawrwydd oer, gwag, ydoedd. Doedd dim synau adar. Dim symudiadau anifeiliaid bach y nos. Roedd popeth yn aros i weld beth fyddai\u2019n digwydd.<\/p>\n<p>Yna \u2013 TWRW ENFAWR.<\/p>\n<p>Yn saethu allan o\u2019r llyn daeth y ddraig, mewn panig llwyr, yn ofni am ei bywyd. Mewn ton enfawr o ddiferion sgleiniog, cododd ei hun allan o\u2019r d\u0175r a dechrau fflipio a fflapio dros y ddaear tuag at y coed ble roedd Mo yn cuddio. Roedd Mo yn fodlon ei gweld hi\u2019n symud mor gyflym. Nid oedd yn meddwl y byddai\u2019r pysgotwr yn gadael iddi fynd mor hawdd \u00e2 hynny.<\/p>\n<p>\u201cDere \u2019ma! Dere i fi! Wnai dy helpu di!&#8221; hisiodd, mor uchel ag y meiddiai, ac yna bu bron iddo ddifaru, oherwydd dyna lle roedd draig enfawr menw panig mawr yn carlamu tuag ato fe.<\/p>\n<p>Yn lwcus, dyma hi\u2019n dod i stop sydyn pan welodd hi ef, ei llygaid yn enfawr ac yn llawn arswyd.<\/p>\n<p>\u201cHelo,\u201d meddai Mo, \u201cRydw i&#8217;n mynd i dy helpu di. Rydw i\u2019n mynd i ddod o hyd i ffordd i dy helpu di i ddianc i ddiogelwch. Dwi angen i ti agor dy geg.\u201d<\/p>\n<p>Ond roedd hi\u2019n ysgwyd ei phen enfawr. Y swyn, meddyliodd Mo, ni alla hi byth adael oherwydd y swyn. Rhaid iddi warchod trysor y brenin beth bynnag. Hi yw\u2019r ceidwad. Yn union fel y daeth y meddwl hwn iddo, clywodd e rywbeth arall.<\/p>\n<p>\u201cMOOOOO!\u201d Mamgu oedd hi. Wedi dod yn \u00f4l. Nid oedd hi wedi mynd yn bell, ni fyddai hi byth wedi\u2019i adael.<\/p>\n<p>Dyna lle oedd hi, yn carlamu drwy\u2019r coed tuag ato, ei bag llaw yn hedfan.<\/p>\n<p>\u201cGyflym! \u2019Na fe\u2019n syth!\u201d roedd hi\u2019n gweiddi. \u201cMae\u2019r pysgotwr yn dod!\u201d<\/p>\n<p>A dyna lle roedd e \u2013 sglain arian yn y llyn wrth i\u2019r pysgotwr ymddangos, yn dywyll ac yn ofnadwy yn ei siwt wlyb, o\u2019r dwr, a\u2019i lygaid yn sgleinio gyda buddugoliaeth wrth iddo godi\u2019r waywffon yn uchel, yn barod i\u2019w blymio yn ochr y ddraig. Ond \u2013 SMAC! Roedd Mamgu wedi ei drawio dros ei ben gyda\u2019i bag llaw.<\/p>\n<p>\u201cNawr!\u201d gwaeddodd hi ar dop ei llais.<\/p>\n<p>\u201cDwi angen i ti fy nhrystio i,\u201d meddai Mo wrth y ddraig.<\/p>\n<p>Trodd y ddraig ei llygaid mawr tywyll ato. Agorodd ei cheg.<\/p>\n<p>Cododd y pysgotwr o\u2019r llyn unwaith yn rhagor, ei ddannedd yn disgleirio, gan droi ei waywffon ar Mamgu y tro hwn.<\/p>\n<p>Llenwodd Mo gydag ofn.<\/p>\n<p>SMAC \u2013 Glaniodd bag llaw Mamgu ar ben y pysgotwr am yr eildro a dyma fe\u2019n syrthio yn \u00f4l i fewn i\u2019r d\u0175r.<\/p>\n<p>A rhoddodd Mo y blodyn porffor yng ngheg y ddraig.<\/p>\n<p>A newidiodd popeth.[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;3653&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmNvZWRfeV9uYW50JTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJMbHd5YnJhdSUyMEhhZmFuJTIyJTNFSGFmYW4lM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmNvZWRfeV9uYW50JTJGcmhhbl8xJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAxJTIyJTNFUmhhbiUyMDElM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmNvZWRfeV9uYW50JTJGcmhhbl8yJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAyJTIyJTNFUmhhbiUyMDIlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmNvZWRfeV9uYW50JTJGcmhhbl8zJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAzJTIyJTNFUmhhbiUyMDMlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmNvZWRfeV9uYW50JTJGcmhhbl80JTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjA0JTIyJTNFUmhhbiUyMDQlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGNsYXNzJTNEJTIyYWN0aXZlJTIyJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGY29lZF95X25hbnQlMkZyaGFuXzUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGY29lZF95X25hbnQlMkZyaGFuXzYlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDYlMjIlM0VSaGFuJTIwNiUzQyUyRmElM0UlM0MlMkZkaXYlM0U=[\/vc_raw_html][vc_single_image image=&#8221;4710&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221; onclick=&#8221;custom_link&#8221; img_link_target=&#8221;_blank&#8221; link=&#8221;https:\/\/makeyourmove.org.uk\/&#8221;][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_column_text] [\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxRjhpLVBYUU9pbldjSFlfellpMUQ1OGlpTHZLT09JOCUyNmVoYmMlM0QyRTMxMkYlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRQ==&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]Daeth Mo a Mamgu i lawr at y llyn y noson wedyn, yn union fel roedd yr haul yn machlud. Roedden nhw\u2019n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw fod yn gyflym, os oedd ganddyn nhw siawns o achub draig y m\u00f4r cyn i\u2019r pysgotwr gyrraedd yno. \u201cBlodyn porffor yw&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/coed_y_nant\/rhan_5\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":3087,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-3109","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3109","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3109"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3109\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4764,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3109\/revisions\/4764"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3087"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3109"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}