{"id":3066,"date":"2022-01-11T13:52:11","date_gmt":"2022-01-11T13:52:11","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=3066"},"modified":"2022-12-14T10:59:50","modified_gmt":"2022-12-14T10:59:50","slug":"rhan_3","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/llyn_hendre\/rhan_3\/","title":{"rendered":"Rhan 3: Llyn Hendre"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-3066-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Y-Don-Anferth-3.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Y-Don-Anferth-3.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Y-Don-Anferth-3.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxaHlTank1TV90cXZCZUI0WWpMX05XMUUxeVZGNm1qd1YlMjZlaGJjJTNEMkUzMTJGJTIyJTIwd2lkdGglM0QlMjI2NDAlMjIlMjBoZWlnaHQlM0QlMjI0ODAlMjIlM0UlM0MlMkZpZnJhbWUlM0U=&#8221;][vc_column_text]Wal o ddwr. Dyna\u2019r unig ffordd fedra\u2019i ddisgrifio beth roedd hi. Dwi \u2019di gweld y m\u00f4r o\u2019r blaen. Dwi \u2019di gweld y m\u00f4r nifer o weithiau. Ond nid fel hwn. A nid yn y lle \u2019ma o\u2019r blaen. Fel arfer, roedd y m\u00f4r yn aros ble roedd e fod i aros, heibio\u2019r forglawdd. Ond dyma lle oedd e. Tonnau trwm, trwchus, llwyd, yn sgubo tuag ata\u2019 i ar draws y caeau heibio\u2019r bwthyn. Roedden nhw\u2019n dod mor gyflym nes bod y coed a\u2019r llwyni yn plygu o dan eu pwysau.<\/p>\n<p>Dwi\u2019n meddwl wnes i glywed fy hun yn chwerthin. Mae\u2019n swnio\u2019n od nawr, yndyw hi, i chwerthin o achos rywbeth fel hwn, ond roeddwn i\u2019n meddwl bod rhywun yn chwarae dwli. Bod hwn yn j\u00f4c mawr. Falle roeddwn i\u2019n gweld pethau, neu wedi syrthio i gysgu ac yn cael breuddwyd od. Pan roedd Mam yn adrodd storis i mi, weithiau roeddwn i\u2019n syrthio i gysgu\u2019n ara\u2019 deg, ac yn dechrau gweld y pethau roedd hi\u2019n s\u00f4n amdanynt. Gwrach yn troi i fewn i filgi. Draig goch yn ymladd gyda draig wen, gyda th\u00e2n yn saethu o\u2019i thrwyn hi.<\/p>\n<p>\u201cCYW!\u201d<\/p>\n<p>Sgrech Mam dorrodd drwy fy mreuddwyd. Ei llais hi wnaeth fy ngorfodi i sylweddoli taw nid breuddwyd oedd hwn o gwbl, roedd hwn wir yn digwydd. Roedd y m\u00f4r yn dod tuag ata i, yn llyncu\u2019r tir, a gyd roeddwn i\u2019n gallu\u2019i gwneud oedd rhedeg.<\/p>\n<p>Felly dyna wnes i. Ond i ble rwyt ti\u2019n rhedeg pan mae\u2019r m\u00f4r yn symud mor gyflym \u00e2 cheffyl yn carlamu? Roedd fy mhen yn sgrechian, rheda i\u2019r mynyddoedd, yn union fel roedd fy nghyndeidiau\u2019n gwneud, ond nid oedd fy nghoesau yn symud yn ddigon gyflym. Roeddwn i\u2019n gallu clywed swn fy anadl yn rhwygo drwy fy ngwddf, ac wedyn swn arall, swn rywbeth anferth, rywbeth nid oedd hi\u2019n bosib ei dianc, wrth i\u2019r m\u00f4r ruthro\u2019n agosach ac yn agosach a\u2019r tir grynu o dan fy nhraed \u2013 yn union fel straeon Mam, wedi\u2019r cwbl, ond tro yma, nid rhuo draig neu swn traed anferth cawr oedd hwn ond rywbeth go-iawn, rywbeth yn y byd hwn, rywbeth oedd yn mynd i fy llyncu\u2019n gyfan gwbl, rywbeth ofnadwy \u2013<\/p>\n<p>\u201cBOC! BOC! BOC!\u201d<\/p>\n<p>Roedd y swn yn dod o uwchben. A dyna lle, uwch fy men, roedd yr olygfa mwyaf od.<\/p>\n<p>Edrycha o dy amgylch di. Wyt ti\u2019n gallu gweld coeden? Coeden y fedri di\u2019i dringo, os oedd angen, gyda boncyff mawr cryf a changhennau i dy ddal di?<\/p>\n<p>Achos wyt ti\u2019n cofio fi\u2019n dweud \u2013 nid yw ieir yn gallu hedfan. Ond dyna lle roedd Betsi yn sefyll, ar ben canghen uchaf y goeden afalau fwyaf yn y berllan. Roedd hi\u2019n fflapio\u2019i hadenydd ac yn gwichio ar dop ei llais, a roeddwn i\u2019n gwybod yn union beth roedd ei hystyr hi. Wnes i ddim gwastraffu eiliad. Taflais fy hun i fewn i ganghennau\u2019r goeden a dechrau dringo, yn tynnu fy hun lan, lan, lan, lan, fy mreichiau yn sgrechian, fy nhraed yn llithro \u2013 nid oeddwn i erioed wedi bod yn ddringwr da achos roeddwn i bob amser yn rhy ofnus ac yn stopio i edrych i lawr, ac yn rhewi, ond y tro \u2019ma, wnes i ddim meiddio edrych i lawr. Doeddwn i ddim yn gallu. Roedd edrych i lawr yn rhy ofnadwy.<\/p>\n<p>Dim ond pan gyrhaeddais i dop y goeden y wnes i edrych i lawr.<\/p>\n<p>Des i o hyd i gangen ddigon cryf i mi setlo arni, ac ymestynais am Betsi, a ddaeth yn syth i gwtsio i fewn i fy nghesail, yn crynu braidd, ond yn edrych yn hapus iawn gyda\u2019i hun. A dyna pan edrychais i. A beth welais i oedd &#8211;<\/p>\n<p>Dwr. Ymhobman. Dwr y mor, yn llwyd ac yn frown ac yn corddi\u2019n ofnadwy. Roedd y dwr hanner ffordd i lan boncyff fy nghoeden afalau a roedd e dal i fod yn codi. Roedd y m\u00f4r yn ymestyn i bobman. Nid oeddwn i\u2019n gallu gweld ein cae ni, na\u2019r llwyni, na\u2019r ffos, na\u2019r giat ar bwys ein bwthyn ni. Roeddwn i\u2019n gallu gweld to\u2019r bwthyn, ond roedd y dwr yn lapio\u2019r walydd, a roedd y drws wedi diflannu\u2019n llwyr.<\/p>\n<p>A roeddwn i\u2019n gallu clywed&#8230;pethau ofnadwy. Swn clychau\u2019r capel yn canu, yn ceisio rhybyddio pawb, ond roedd hi lot rhy hwyr. Swn pobl yn gweiddi a sgrechian yn y pellter. A phobman, drwy\u2019r amser, swn rhuo\u2019r gwynt a\u2019r dwr.<\/p>\n<p>Agorais fy ngheg a rhuo gyda\u2019r gwynt, \u201cMAM!!!\u201d<\/p>\n<p>Nid oedd dim siw na miw ohoni. \u201cMAM!!!\u201d<\/p>\n<p>A oedd hi wedi llwyddo dringo i do\u2019r bwthyn? Ble\u2019r oedd hi? Roedd hi wedi gwastraffu amser yn gweiddi amdana i pan ddylai fod wedi dringo i ddiogelwch.<\/p>\n<p>Ac yna gwelais i fe. Yn arnofio heibio yn y llifddwr mwdlyd. Basged wiail gyda lliain coch y tu mewn. Basged casglu wyau Mam oedd hi.<\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n gwybod bryd hynny ei bod hi wedi cael ei chymryd gan y m\u00f4r. Daliais yn dynn i ben y goeden afalau gyda Betsi yn fy mreichiau wrth i\u2019r m\u00f4r godi o\u2019n cwmpas a chrio ac chrio.[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;3651&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmxseW5faGVuZHJlJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJMbHd5YnJhdSUyMEhhZmFuJTIyJTNFSGFmYW4lM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmxseW5faGVuZHJlJTJGcmhhbl8xJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAxJTIyJTNFUmhhbiUyMDElM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmxseW5faGVuZHJlJTJGcmhhbl8yJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAyJTIyJTNFUmhhbiUyMDIlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGNsYXNzJTNEJTIyYWN0aXZlJTIyJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGbGx5bl9oZW5kcmUlMkZyaGFuXzMlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDMlMjIlM0VSaGFuJTIwMyUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGbGx5bl9oZW5kcmUlMkZyaGFuXzQlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDQlMjIlM0VSaGFuJTIwNCUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGbGx5bl9oZW5kcmUlMkZyaGFuXzUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGbGx5bl9oZW5kcmUlMkZyaGFuXzYlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDYlMjIlM0VSaGFuJTIwNiUzQyUyRmElM0UlM0MlMkZkaXYlM0U=[\/vc_raw_html][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<p>[vc_row][vc_column][vc_single_image image=&#8221;4718&#8243; img_size=&#8221;large&#8221; alignment=&#8221;center&#8221; onclick=&#8221;custom_link&#8221; img_link_target=&#8221;_blank&#8221; css_animation=&#8221;fadeIn&#8221; link=&#8221;https:\/\/makeyourmove.org.uk\/&#8221;][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text] [\/vc_column_text][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxaHlTank1TV90cXZCZUI0WWpMX05XMUUxeVZGNm1qd1YlMjZlaGJjJTNEMkUzMTJGJTIyJTIwd2lkdGglM0QlMjI2NDAlMjIlMjBoZWlnaHQlM0QlMjI0ODAlMjIlM0UlM0MlMkZpZnJhbWUlM0U=&#8221;][vc_column_text]Wal o ddwr. Dyna\u2019r unig ffordd fedra\u2019i ddisgrifio beth roedd hi. Dwi \u2019di gweld y m\u00f4r o\u2019r blaen. Dwi \u2019di gweld y m\u00f4r nifer o weithiau. Ond nid fel hwn. A nid yn y lle \u2019ma o\u2019r blaen. Fel arfer, roedd y m\u00f4r yn aros ble roedd e fod i aros, heibio\u2019r&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/llyn_hendre\/rhan_3\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":3055,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-3066","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3066","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3066"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3066\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4731,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3066\/revisions\/4731"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3055"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3066"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}