{"id":3037,"date":"2022-01-11T13:11:11","date_gmt":"2022-01-11T13:11:11","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=3037"},"modified":"2022-12-14T11:35:41","modified_gmt":"2022-12-14T11:35:41","slug":"rhan_3","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/caerau\/rhan_3\/","title":{"rendered":"Y Gaer Werdd &#8211; Rhan 3"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-3037-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Caer-3.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Caer-3.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Caer-3.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxNlRGR1lzUXZmNWEwZ01BdDFza0hSYUhrWGE4djdsdyUyNmVoYmMlM0QyRTMxMkYlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRQ==&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]Dyma sut roedd fy nghaer werdd yn edrych. Ond lot, lot yn fwy. Rwyt ti\u2019n sefyll ar rhan bach iawn ohoni. Allet ti weld sut mae\u2019r rhagfuriau\u2019n codi o dy gwmpas di? Pa mor dal yr ydyn nhw, sut maen nhw\u2019n taflu cysgodion mawr ar y ddaear? Ond cofia, roedden ni dal yn adeiladu\u2019r rhagfuriau pan roedd y stori hon yn digwydd. Felly byddai wedi edrych ychydig yn wahanol. Roedd pentyrrau o bridd dros y lle, a\u2019r rhagfuriau wedi eu haner-adeiladu, a ninnau yn dal yn nghanol rhywbeth a oedd yn mynd i gymryd amser maith i ni orffen. Roeddem yn llai ddiogel na ti, pe bai bryngaer arall yn dewis ymosod ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Roedden ni wedi bod yn casglu ein pobl o\u2019r pentrefi i\u2019r dwyrain a\u2019r gorllewin i ddod i\u2019n helpu ni i adeiladu\u2019r rhagfuriau, a bu gwleddoedd bob nos i wobrwyo\u2019r gweithwyr am eu gwaith caled. Roedd y gaer werdd yn teimlo fel petai bod gwyl yn digwydd drwy\u2019r amser: dod yn \u00f4l ati oedd fy hoff ran o\u2019r diwrnod, oherwydd roedd rhywbeth yn coginio bob amser, a chaneuon yn cael eu canu, a phlant yn sgrialu o amgylch a chwarae yn y baw.<\/p>\n<p>Ond heddiw, pan gyrhaeddais y fryngaer, sylweddolais yn syth bin fod rhywbeth o\u2019i le.<\/p>\n<p>Y bobl oedd wedi dod i\u2019n helpu ni i gloddio, roedden nhw i gyd yn gadael. Doedd dim dathlu ar \u00f4l diwrnod o gloddio fel arfer, o gwmpas pwll t\u00e2n mawr gyda chig i\u2019w fwyta a chaneuon i\u2019w canu a straeon i\u2019w hadrodd. Yn lle hynny, roedd pawb yn rhuthro o amgylch mewn panig. Roedd pobl y gaer werdd yn casglu arfau. Roedd y tanau gwledda wedi cael eu diffodd. Nid oedd y plant yn chwarae: yn hytrach, roedden nhw\u2019n cwtshio gyda\u2019i gilydd mewn grwpiau bach, ofnus.<\/p>\n<p>Roedd rhyfel yn dod i\u2019r gaer werdd, cyn bod y gaer werdd yn barod amdani.<\/p>\n<p>Erbyn i mi gyrraedd copa\u2019r bryn, roeddwn i\u2019n deall beth oedd yn digwydd. O\u2019r gaer werdd, gallwch weld bryngaer arall i\u2019r gogledd ac un i\u2019r dwyrain. Ac o\u2019r caerau hynny roedden ni\u2019n gallu clywed swn drymiau\u2019n curo. Roedd mwg yn codi i\u2019r awyr. Roedden nhw\u2019n paratoi ar gyfer brwydr. Roedden nhw\u2019n mynd i ymosod arnom ni.<\/p>\n<p>Roedden ni bob amser yn gwybod bod hyn yn risg. Roedd adeiladu ein caer ein hunain, ei gwneud hi mor gryf a mor bwerus, yn fygythiad iddynt.<\/p>\n<p>Ond roedd rhyfel wedi dod yn rhy fuan. Nid oedd y rhagfuriau gwyrdd wedi eu gorffen. Nid oedden ni\u2019n gallu amddiffyn ein cartref. Nid oedden ni\u2019n gallu amddiffyn ein hunain.<\/p>\n<p>Byddai rhyfel gyda ni erbyn iddi nosi.<\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n gallu gweld ar wynebau\u2019r pentrefwyr eu bod nhw wedi eu dychryn yn llwyr. Roedd rhai ohonyn nhw wedi dechrau casglu eu hanifeiliaid &#8211; eu moch, a\u2019u gwartheg &#8211; a chymaint o\u2019u heiddo ag y gallent eu cario.<\/p>\n<p>\u201cMae aros yn ddibwrpas,\u201d medden nhw wrtha i. \u201cPobl dwy gaer yn erbyn un? Byddwn ni i gyd yn cael ein lladd, ein hanifeiliaid yn cael eu lladd a\u2019n tai yn cael eu llosgi. Gallwn ni adael nawr, tra bod hi\u2019n bosib gwneud, a dychwelyd yma unwaith y bydd y perygl drosodd.\u201d<\/p>\n<p>\u201cOnd dyma ein cartref ni,\u201d dywedais i wrthyn nhw. \u201cPl\u00ees, arhoswch. Mae\u2019n rhaid i ni aros. Mae\u2019n rhaid i ni amddiffyn ein caer werdd.\u201d<\/p>\n<p>Ond doedd neb yn gwrando arna i. Roedd wynebau pawb yn llawn ofn a phanig.<\/p>\n<p>\u201cRho i mi nes bydd yr haul yn dechrau machlud,\u201d dywedais. \u201cWnai feddwl am rywbeth.\u201d<\/p>\n<p>Ond doedd gen i ddim syniad o gwbl. A gan wylio fy mhobl yn disgwyl ar ben y bryn a\u2019u pethau wedi eu gwasgaru o\u2019u cwmpas, gan ddisgwyl imi ddod lan \u00e2 chynllun, cefais fy llenwi gydag ofn.<\/p>\n<p>Dere gyda mi nawr. Cerdda gyda mi. Mae cerdded yn helpu, yndydy, i glirio dy ben? I roi syniadau i ti? O leiaf rwy\u2019n gobeithio y bydd. Os oes gennyt ti unrhyw syniad beth i\\w wneud, beth am ei ddweud nawr?<\/p>\n<p>Cyn i ti fynd, cymera rywbiad o\u2019r fryngaer.[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;3651&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmNhZXJhdSUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyTGx3eWJyYXUlMjBIYWZhbiUyMiUzRUhhZmFuJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZjYWVyYXUlMkZyaGFuXzElMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDElMjIlM0VSaGFuJTIwMSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGY2FlcmF1JTJGcmhhbl8yJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAyJTIyJTNFUmhhbiUyMDIlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGNsYXNzJTNEJTIyYWN0aXZlJTIyJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGY2FlcmF1JTJGcmhhbl8zJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAzJTIyJTNFUmhhbiUyMDMlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmNhZXJhdSUyRnJoYW5fNCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwNCUyMiUzRVJoYW4lMjA0JTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZjYWVyYXUlMkZyaGFuXzUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGY2FlcmF1JTJGcmhhbl82JTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjA2JTIyJTNFUmhhbiUyMDYlM0MlMkZhJTNFJTNDJTJGZGl2JTNF[\/vc_raw_html][vc_single_image image=&#8221;4710&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221; onclick=&#8221;custom_link&#8221; img_link_target=&#8221;_blank&#8221; link=&#8221;https:\/\/makeyourmove.org.uk\/&#8221;][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_column_text] [\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxNlRGR1lzUXZmNWEwZ01BdDFza0hSYUhrWGE4djdsdyUyNmVoYmMlM0QyRTMxMkYlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRQ==&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]Dyma sut roedd fy nghaer werdd yn edrych. Ond lot, lot yn fwy. Rwyt ti\u2019n sefyll ar rhan bach iawn ohoni. Allet ti weld sut mae\u2019r rhagfuriau\u2019n codi o dy gwmpas di? Pa mor dal yr ydyn nhw, sut maen nhw\u2019n taflu cysgodion mawr ar y ddaear? Ond cofia,&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/caerau\/rhan_3\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":3028,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-3037","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3037","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3037"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3037\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4775,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3037\/revisions\/4775"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3028"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3037"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}