{"id":3035,"date":"2022-01-11T12:26:01","date_gmt":"2022-01-11T12:26:01","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=3035"},"modified":"2022-12-14T11:35:26","modified_gmt":"2022-12-14T11:35:26","slug":"rhan_2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/caerau\/rhan_2\/","title":{"rendered":"Y Gaer Werdd &#8211; Rhan 2"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-3035-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Caer-2.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Caer-2.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Caer-2.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxNlRGR1lzUXZmNWEwZ01BdDFza0hSYUhrWGE4djdsdyUyNmVoYmMlM0QyRTMxMkYlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRQ==&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]Clychau\u2019r gog yw fy hoff flodyn. Yn y gwanwyn, byddai\u2019r ddaear islaw\u2019r coed derw mawr yn cael ei gorchuddio ganddyn nhw, a\u2019r blodau\u2019n ymestyn mewn ton fawr o las cyn belled ag y gallai\u2019r llygad weld. Weithiau, roedd eu harogl, ac arogl y garlleg gwyllt a dyfai wrth eu hochr, yn ddigon cryf i orchuddio arogleuon a ddaeth i lawr o\u2019r fryngaer. Mwg y tanau ac arogl tail a choginio bwyd \u2013 arogleuon fy nghartref.<\/p>\n<p>Dyma beth rwy\u2019n meddwl am y lle yma\u2019n lle hudolus. Sai\u2019n meddwl y gwnaeth unrhyw un arall, pan adawon nhw\u2019r gaer werdd i fynd i hela, stopio i sylwi ar y clychau\u2019r gog. Ond fe wnes i bob amser. A sylwais ar bethau eraill hefyd.<\/p>\n<p>Dwi\u2019n meddwl mai\u2019r tro cyntaf i mi stopio i sylwi ar bethau oedd pan wnes i gyfarfod y blaidd llwyd.<\/p>\n<p>Roeddwn i wedi gweld bleiddiaid o\u2019r blaen, wrth gwrs. Roeddwn i wedi gweld disgleirdeb eu llygaid yn cael eu dal yn fflamau\u2019r coelcerthi y gwnaethom eu cynnau i\u2019w cadw draw oddi wrth yr anifeiliaid. Roeddwn i wedi gweld fflach tafod coch drwy\u2019r coed wrth i barti ddilyn ar gynffon blaidd. Ond dyma\u2019r tro cyntaf i mi ddod wyneb yn wyneb \u00e2 blaidd, dim ond fi a\u2019r blaidd, yma, yn y goedwig.<\/p>\n<p>Roeddwn i wedi bod yn dilyn baedd gwyllt a\u2019i moch bach hi. Roedd gen i ddwy gwningen ar fy nghefn yn barod, yn barod i fynd adref gyda fi, ac yn bwriadu ychwanegu eu crwyn at y flanced roeddwn i\u2019n ei gwneud ar gyfer y gaeaf. Ond roeddwn i wedi gweld traciau baedd gwyllt, ac olion carnau llai ei babanod yn rhedeg ar ei h\u00f4l, a roedd rhaid i mi eu dilyn. Gwanwyn oedd hi, roedd bwyd ychydig yn brin fel y mae bob amser yn y gwanwyn, a roedd fy mola\u2019n rymblan wrth feddwl am gig mochyn gwyllt i swper.<\/p>\n<p>Camais drwy\u2019r coed ar draed ysgafn, gan edrych drwy\u2019r amser ar y ddaear o\u2019m blaen. Ac yna clywais ef. A stopiais. Reit yn y fan hon.<\/p>\n<p>Yno yr oedd hi eto: brigyn yn torri. Ac edrychais lan a dyna lle oedd hi.<\/p>\n<p>Tafod pinc yn lolian rhwng dannedd hir, miniog. Llygaid miniog, melyn. Ffwr llwyd onibai am fand o wyn am ei gwddf. Bleiddast oedd hi.<\/p>\n<p>Teimlais fy nghalon yn neidio i fewn i fy ngwddf. Roedd ei llygaid hi, y llygaid melyn, yn fy sugno i mewn. Y fath wylltineb oedd ynddi. Aeth popeth yn aneglur am eiliad, ac yna fe wnes i dalu sylw. Ymestyn am fy ngwaywffon. Fi neu hi oedd e. Naill ai byddai hi\u2019n fy nghymryd i, neu byddwn i\u2019n ei chymryd hi.<\/p>\n<p>Ond cyn i mi allu taflu fy ngwaywffon, trodd y blaidd ei phen i ffwrdd fel pe bai wedi diflasu, a llithrodd i\u2019r coed. Dilynais hi, roedd yn rhaid i mi &#8211; roeddwn i bob amser wedi cael fy nysgu, os rwyt ti\u2019n gweld blaidd, rwyt ti\u2019n ei redeg i lawr, neu bydd yn tyfu\u2019n hyderus, ac yn dechrau ymosod ar y gaer, a chymryd ein hanifeiliaid.<\/p>\n<p>Symudodd y blaidd drwy\u2019r coed mor gyflym nes bod hi\u2019n anodd i mi gadw lan gyda hi, ond eto nid oedd yn ymddangos ei bod hi ar frys. Dechreuais anadlu\u2019n gyflwm. Penderfynais fy mod i\u2019n mynd i fynd \u00e2\u2019i chroen yn \u00f4l i\u2019r gaer, a gwneud blanced croen blaidd i\u2019r gaeaf yn lle\u2019r un groen cwningen. Fe wnes i ei dilyn hi trwy\u2019r coed gyda fy llygaid, gan geisio dod o hyd i\u2019r foment berffaith i daflu fy ngwaywffon.<\/p>\n<p>Yn lle, gwelais i hi\u2019n stopio, nid yn bell i ffwrdd, a rhoi ei thrwyn tua\u2019r ddaear. A gwelais wedyn beth fyddwn i wedi sylwi petawn i wedi bod yn talu mwy o sylw o\u2019r blaen \u2013 bod ei bol yn yn hongian tua\u2019r llawr, a roedd hi\u2019n feichiog.<\/p>\n<p>Sai\u2019n gwybod be ddaeth drosta i. Roeddwn i\u2019n gwybod na allwn i ei lladd, nid tra roedd hi\u2019n cario bleiddiaid bach. Nid oedd e\u2019n gywir, rywsut. Felly wnes i droi, a mynd yn \u00f4l i fyny tuag at arogl y mwg, yn \u00f4l i fyny tuag at y pentref ar ben y fryngaer, a gadael llonydd iddi. Ni ddywedais wrth unrhywun beth oedd wedi digwydd. Roeddwn i\u2019n gwybod y bydden nhw\u2019n meddwl bod rhywbeth o\u2019i le gyda fi, i adael i flaidd fynd yn rhydd, yn enwedig un oedd yn mynd i ddod \u00e2 mwy o fleiddiaid i mewn i\u2019r byd.<\/p>\n<p>O hynny ymlaen, roeddwn i\u2019n meddwl llawer am y blaidd llwyd, drwy\u2019r amser a dweud y gwir. Roeddwn i\u2019n meddwl na fyddwn yn ei gweld hi eto.<\/p>\n<p>Ond fe wnes i. Yn wir, wnaeth hi ddim gadael llonydd i mi. Efallai oherwydd roeddwn i wedi gadael iddi hi fynd heb ei niweidio hi\u2019r diwrnod hwnnw, gwelais y blaidd llwyd drwy\u2019r amser. Roedd e fel pe bai ei bod hi wedi penderfynu ymddiried ynof i, a byddai\u2019n ymddangos ar yr adegau rhyfeddaf, mwyaf annisgwyl. Byddwn i lawr wrth yr afon, yn diberfeddu pysgodyn, ac yn teimlo\u2019r gwallt ar gefn fy ngwddf yn sefyll i fyny, ac yno byddai hi. Byddwn i\u2019n rhedeg trwy\u2019r coed ar draed meddal tawel ar \u00f4l fflach carw coch, ac yn sydyn yn edrych i\u2019r ochr a byddai\u2019n rhedeg gyda mi, bob amser yn cadw i fyny, bob amser yn agos iawn i mi.<\/p>\n<p>Gwelais hi trwy gydol y gwanwyn hwnnw wrth i\u2019r clychau\u2019r gog dyfu\u2019n drwchus ar y ddaear a\u2019i bol hi dyfu\u2019n fwy ac yn fwy. Ac yna un diwrnod fe ddes i arni, yn union yr un man ag y gwelais i hi gyntaf, reit fan hyn. Roedd hi\u2019n gorwedd ar y ddaear o dan goeden, ei thafod pinc yn hongian allan, ac o\u2019i chwmpas roedd ei bleiddiaid bach hi.<\/p>\n<p>Es i ddim yn rhy agos. Doeddwn i ddim eisiau ei dychryn hi. Ond ni wnes i unrhyw hela y diwrnod hwnnw. Gwyliais o bellter wrth i\u2019r bleiddiaid bach chwyrnu a gwichian a chodi ar bawennau bach crynedig. Fy ffefryn oedd yr un oedd yn llwyd i gyd fel ei mam, heblaw am y smotiau bach ar ei thrwyn.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l hynny, roeddwn bob amser yn ofalus i ddod i\u2019r goedwig ar ben fy hun. I fyth s\u00f4n am y bleiddiaid wrth neb. Roeddwn i angen i\u2019r blaidd gyda\u2019r smotiau ar ei thrwyn i dyfu lan yn gryf ac yn ddiogel yn union fel ei mam.<\/p>\n<p>Dere gyda fi nawr. Allet ti arogli coginio? Mae\u2019n amser swper yn y fryngaer, ac mae angen i mi sicrhau fy mod yn \u00f4l cyn i rywun fy ngholli. Ddim eisiau cael rywun yn dod i chwilio amdana i, nid gyda\u2019r bleiddiaid o gwmpas. Allet ti fy nilyn? Dyma fy llwybr cyfrinachol, fi yw\u2019r unig un sy\u2019n gwybod amdano. Cer yn dawel. Os rwyt ti\u2019n ceisio peidio \u00e2 gwneud s\u0175n, ni fydd yr helwyr eraill yn dy glywed na chwaith y bleiddiaid.<\/p>\n<p>Cyn i ti fynd, cymera rwbiad o\u2019r clychau\u2019r gog yma. Efallai rwyt ti\u2019n gallu gweld rhai ar hyn o bryd, wedi\u2019u gwasgaru o gwmpas o dan y coed.<\/p>\n<p>Wrth i ti ddod yn nes at y fryngaer, wrth ddringo i fyny ei hochr orllewinol, rwyt ti\u2019n sylweddoli\u2026mae rhywbeth o\u2019i le\u2026<\/p>\n<p>Tyfodd i fyny yn gyflym, y blaidd gyda\u2019r smotiau ar ei thrwyn. Yn union fel roedd yn rhaid i mi ei wneud.[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;3650&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmNhZXJhdSUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyTGx3eWJyYXUlMjBIYWZhbiUyMiUzRUhhZmFuJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZjYWVyYXUlMkZyaGFuXzElMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDElMjIlM0VSaGFuJTIwMSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwY2xhc3MlM0QlMjJhY3RpdmUlMjIlMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZjYWVyYXUlMkZyaGFuXzIlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDIlMjIlM0VSaGFuJTIwMiUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGY2FlcmF1JTJGcmhhbl8zJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAzJTIyJTNFUmhhbiUyMDMlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmNhZXJhdSUyRnJoYW5fNCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwNCUyMiUzRVJoYW4lMjA0JTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZjYWVyYXUlMkZyaGFuXzUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGY2FlcmF1JTJGcmhhbl82JTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjA2JTIyJTNFUmhhbiUyMDYlM0MlMkZhJTNFJTNDJTJGZGl2JTNF[\/vc_raw_html][vc_single_image image=&#8221;4710&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221; onclick=&#8221;custom_link&#8221; img_link_target=&#8221;_blank&#8221; link=&#8221;https:\/\/makeyourmove.org.uk\/&#8221;][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_column_text] [\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxNlRGR1lzUXZmNWEwZ01BdDFza0hSYUhrWGE4djdsdyUyNmVoYmMlM0QyRTMxMkYlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRQ==&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]Clychau\u2019r gog yw fy hoff flodyn. Yn y gwanwyn, byddai\u2019r ddaear islaw\u2019r coed derw mawr yn cael ei gorchuddio ganddyn nhw, a\u2019r blodau\u2019n ymestyn mewn ton fawr o las cyn belled ag y gallai\u2019r llygad weld. Weithiau, roedd eu harogl, ac arogl y garlleg gwyllt a dyfai wrth eu&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/caerau\/rhan_2\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":3028,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-3035","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3035","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3035"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3035\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4774,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3035\/revisions\/4774"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3028"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3035"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}