{"id":3024,"date":"2022-01-11T10:42:30","date_gmt":"2022-01-11T10:42:30","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/part_1\/"},"modified":"2022-12-14T11:35:19","modified_gmt":"2022-12-14T11:35:19","slug":"rhan_1","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/caerau\/rhan_1\/","title":{"rendered":"Y Gaer Werdd &#8211; Rhan 1"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-3024-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Caer-1.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Caer-1.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Caer-1.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxNlRGR1lzUXZmNWEwZ01BdDFza0hSYUhrWGE4djdsdyUyNmVoYmMlM0QyRTMxMkYlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRQ==&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]Dychmyga dy fod ti\u2019n dal mesen yn dy law, yn union fel yr un hon. Efallai rwyt ti\u2019n gallu dod o hyd i un rhywle gerllaw. Teimla ei phwys yn dy law. Dychmyga sut, pan fydd yr amser yn iawn, y bydd yn barod i dyfu. Byddai\u2019n dechrau gwthio gwreiddiau i lawr i\u2019r ddaear drwchus, llaith, ac eginau i lan tuag at yr awyr lachar uwchben. A dros amser maith, maith, dros gannoedd o flynyddoedd, bydd y fesen yn tyfu\u2019n goeden derw, gyda boncyff trwchus a changhennau enfawr sydd yn gallu cofleidio\u2019r awyr.<\/p>\n<p>Dychmyga goedwig gyfan, anferth, o goed derw hynafol, enfawr, yn ymestyn am filltiroedd maith. Dychmyga sut brofiad fyddai cerdded drwy\u2019r goedwig honno. I glywed y dail yn cremnshian o dan eich traed, a gweld golau\u2019r haul yn diferu i lawr drwy ganghennau\u2019r coed uwchben. Efallai, os rwyt ti\u2019n gwrando\u2019n ddigon astud, fe fyddet ti\u2019n gallu clywed swn brigyn yn torri wrth i rywbeth symud drwy\u2019r coed o dy flaen di. Rwyt ti\u2019n stopio, prin yn anadlu, gan estyn am dy waywffon di, neu am dy fwa a saeth. Achos gallai\u2019r peth hwnnw fod yn faedd gwyllt, neu\u2019n garw, a dy waith di yw ei hela, i ddod ag ef yn \u00f4l i dy bentref, i\u2019r bobl sy\u2019n byw yn y gaer werdd.<\/p>\n<p>Ac weithiau rwyt ti\u2019n stopio, prin yn anadlu, oherwydd gallai fod yn rhywbeth arall sy\u2019n symud trwy\u2019r coed. Rhywbeth sy\u2019n hela hefyd. Rhywbeth a allai fod yn chwilio amdanat ti.<\/p>\n<p>Blaidd.<\/p>\n<p>Ond doedd gen i ddim ofn bleiddiaid. Roeddwn i\u2019n gwybod ble roedden nhw\u2019n mynd. Gallwn i eu dilyn nhw yn yr un ffordd \u00e2 roedden nhw\u2019n dilyn eu hysglyfaeth nhw. Weithiau, roeddwn i\u2019n eu gwylio yn symud trwy\u2019r goedwig, ar bawennau distaw, a byddwn yn gadael iddyn nhw basio, er na fyddai unrhyw heliwr arall wedi gwneud. Roedden ni i fod i amddiffyn ein hunain rhagddyn nhw, eu gyrru nhw i ffwrdd o\u2019r gaer, neu bydden nhw\u2019n cystadlu \u00e2 ni am y baedd gwyllt a\u2019r ceirw, ac weithiau\u2019n torri i mewn i\u2019r gaer a chymryd ein hanifeiliaid, ar nosweithiau oer yn y gaeaf pan roedd hi\u2019n dywyll iawn a bwyd yn brin iddynt. Roeddwn i wedi amddiffyn y gaer werdd rhag y bleiddiaid sawl noson, wrth ymyl fy mhobl, ein tanau\u2019n llosgi, ein llygaid yn straenio i weld y bleiddiaid yn symud yn y tywyllwch.<\/p>\n<p>Ond rydw i\u2019n mynd yn rhy gyflym.<\/p>\n<p>Fy enw i yw Gwen. Roeddwn i\u2019n arfer byw ar y fryngaer hon, amser maith yn \u00f4l. Rydw i wedi bod yma trwy\u2019r amser hwn, yn troedio\u2019r llwybr hwn yr wyt ti\u2019n sefyll arno, wrth i\u2019r byd newid o\u2019m cwmpas. Ac mae gen i stori i ti heddiw. Mae\u2019n stori sy\u2019n dechrau gyda\u2019r gaer werdd, y fryngaer hon, ac yn gorffen gyda\u2019r bleiddiaid.<\/p>\n<p>Wyt ti\u2019n barod i\u2019w glywed? Bydd yn rhaid i ti fod yn ddewr, i ddod gyda mi. Nid chwedl i\u2019r gwangalon mai hi.<\/p>\n<p>Mae\u2019n dechrau fel hyn.<\/p>\n<p>Mae\u2019n dechrau cyn i\u2019r gaer gael ei hadeiladu\u2019n iawn. Roedden ni ar ganol ei hadeiladu. Roedd pawb yn cydweithio gyda\u2019i gilydd. Ti\u2019n gweld, roedd y lle hwn yn arbennig. Roedd yn arbennig cyn i fy mhobl ddod i fyw yma. Os wyt ti\u2019n sefyll ar dop y bryn, fel rwyt ti\u2019n mynd i\u2019w wneud mewn ychydig, rwyt ti\u2019n gallu gweld am filltiroedd, i\u2019r gorllewin, i\u2019r gogledd, i\u2019r dwyrain &#8211; a roedd pobl wedi bod yn dod yma ers miloedd o flynyddoedd, i wersylla, i fyw am rai fisoedd, i ddathlu ac i ddod at ei gilydd, i wledda ac i adrodd straeon. Ond nawr, roedden ni wedi penderfynu ei fod yn lle i ni fyw drwy\u2019r amser, i ni adeiladu ein tai crwn a goleuo tanau a magu plant ac anifeiliaid. Ac i wneud hynny, byddai\u2019n rhaid i ni gadw\u2019r lle\u2019n ddiogel, felly fe ddechreuon ni adeiladu, i gloddio yn y ddaear a chodi rhagfuriau tal a fyddai\u2019n amddiffyn y fryngaer rhag unrhyw un a geisiai ymosod arnom ni.<\/p>\n<p>Wrth i ni gloddio yn y ddaear gyda\u2019n gilydd, gan weithio ysgwydd wrth ysgwydd, roedd y ddaear roeddem ni\u2019n adeiladu i mewn i ragfuriau ein cartref newydd yn disgleirio\u2019n wyrdd. Roedd e fel hud a lledrith. Y gaer werdd. Roedd pobl yn gwybod bryd hynny, os nad oeddent yn gwybod o\u2019r blaen, fod hwn yn lle arbennig.<\/p>\n<p>Pan oeddem wedi gorffen cloddio, y lle hwn fyddai\u2019r lle mwyaf diogel yn y byd.<\/p>\n<p>Ond roeddwn i bob amser yn gwybod bod y lle hwn yn hudolus, ers cyn i ni ddechrau adeiladu&#8217;r rhagfuriau. Roeddwn i wedi cerdded y llwybrau cyfrinachol hyn, y rhai rydyn ni\u2019n mynd i gerdded gyda\u2019n gilydd. Roeddwn i wedi gweld y goedwig yn ystod pob tymor o\u2019r flwyddyn, ac roedd hi wedi dangos ei hud i mi. A roeddwn i wedi cwrdd \u00e2\u2019r bleiddiaid.<\/p>\n<p>Dere gyda fi nawr, yn gyflym, ar draed distaw. Efallai y byddet ti\u2019n eu gweld nhw hefyd.<\/p>\n<p>Cyn i ti ddod, cymera rwbiad o\u2019r fesen hon. Caria fe gyda ti wrth i ni gerdded gyda\u2019n gilydd trwy\u2019r goedwig hynafol hon.[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;3649&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmNhZXJhdSUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyTGx3eWJyYXUlMjBIYWZhbiUyMiUzRUhhZmFuJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBjbGFzcyUzRCUyMmFjdGl2ZSUyMiUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmNhZXJhdSUyRnJoYW5fMSUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwMSUyMiUzRVJoYW4lMjAxJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZjYWVyYXUlMkZyaGFuXzIlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDIlMjIlM0VSaGFuJTIwMiUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGY2FlcmF1JTJGcmhhbl8zJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAzJTIyJTNFUmhhbiUyMDMlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmNhZXJhdSUyRnJoYW5fNCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwNCUyMiUzRVJoYW4lMjA0JTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZjYWVyYXUlMkZyaGFuXzUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGY2FlcmF1JTJGcmhhbl82JTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjA2JTIyJTNFUmhhbiUyMDYlM0MlMkZhJTNFJTNDJTJGZGl2JTNF[\/vc_raw_html][vc_single_image image=&#8221;4710&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221; onclick=&#8221;custom_link&#8221; img_link_target=&#8221;_blank&#8221; link=&#8221;https:\/\/makeyourmove.org.uk\/&#8221;][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_column_text] [\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxNlRGR1lzUXZmNWEwZ01BdDFza0hSYUhrWGE4djdsdyUyNmVoYmMlM0QyRTMxMkYlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRQ==&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]Dychmyga dy fod ti\u2019n dal mesen yn dy law, yn union fel yr un hon. Efallai rwyt ti\u2019n gallu dod o hyd i un rhywle gerllaw. Teimla ei phwys yn dy law. Dychmyga sut, pan fydd yr amser yn iawn, y bydd yn barod i dyfu. Byddai\u2019n dechrau gwthio&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/caerau\/rhan_1\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":3028,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-3024","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3024","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3024"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3024\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4773,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3024\/revisions\/4773"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3028"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3024"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}