{"id":2098,"date":"2021-03-17T09:43:25","date_gmt":"2021-03-17T09:43:25","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=2098"},"modified":"2021-10-26T09:02:40","modified_gmt":"2021-10-26T09:02:40","slug":"rhan_3","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/llwybr_4\/rhan_3\/","title":{"rendered":"Rhan 3"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-2098-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Cymraeg-3.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Cymraeg-3.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/Cymraeg-3.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGdSUyRjAlMkZlbWJlZCUzRm1pZCUzRDFQWkVvV3Zfb2s5N1k3X2VjVE1BU1h1eENBU192dDlycyUyNnpvb20lM0Q5JTIyJTIwd2lkdGglM0QlMjI2NDAlMjIlMjBoZWlnaHQlM0QlMjI0ODAlMjIlM0UlM0MlMkZpZnJhbWUlM0U=&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]Roedd Sion a Cecil wedi bod yn chwarae ymysg y coed pinwydden tal am amser hir. Roedd arogl y coed pin yn felus ar yr aer a roedd Sion yn joia\u2019i hun gymaint nes bod e wedi colli trac ar amser yn llwyr. Erbyn iddo fe sylweddoli bod e\u2019n amser t\u00ea, achos roedd e\u2019i fola\u2019n teimlo\u2019n wag, roedd cysgodion y coed yn hir ar lawr y goedwig.<\/p>\n<p>\u201cHwyl fawr, Cecil,\u201d dywedodd e\u2019n gyflym. \u201cMae rhaid i mi fynd. Bydd fy modryb yn wyllt gacwn os mae hi\u2019n sylweddoli nad ydw i yn y ty.\u201d<\/p>\n<p>\u201cO na,\u201d dywedodd Cecil, yn edrych yn drist. \u201cNei di ddod n\u00f4l yfory? Croeso i ti ddod unrhywbryd yr hoffet ti. Nid tresmasu yw hi os dwi\u2019n rhoi caniat\u00e2d i ti, achos fy mharc i yw e.\u201d<\/p>\n<p>\u201cDwi\u2019n gaddo,\u201d meddai Sion, a rhedodd e mor gyflym \u00e2\u2019r gwynt yn \u00f4l i\u2019r twll yn y llwyni. Gwasgodd e drwyddo a rhowlio\u2019n bendramwngwl allan ar lawnt Anti Maud, just mewn pryd i\u2019w gweld hi\u2019n cerdded i lawr o\u2019r ty. Crychodd ei thalcen hi wrth iddi ei weld e, a roedd Sion yn sicr ei fod e ar fin cal stwr.<\/p>\n<p>\u201cBle ar y ddaear wyt ti wedi bod? Roeddwn i\u2019n poeni amdanat ti.\u201d<\/p>\n<p>\u201cLawr y pant ro\u2019n i, na gyd.\u201d<\/p>\n<p>\u201cTir preifat yw\u2019r pant. Nid wyt ti am fynd yno.\u201d<\/p>\n<p>\u201cWedodd y bachgen sy\u2019n byw \u2019na bod e\u2019n iawn. Wedodd e bod e ddim yn tresmasu os mae e\u2019n rhoi caniatad i mi.\u201d<\/p>\n<p>Gwgodd Anti Maud hyd yn oed y fwy. \u201cDoes dim bachgen yn y byw yn y pant,\u201d dywedodd hi. \u201cNid oes wedi bod bachgen yno am dros ugain mlynedd. Nawr dere mewn a golcha dy hun yn barod am swper. Ti\u2019n edrych fel dy fod ti wedi bod lawr y pwll glo.\u201d<\/p>\n<p>Penderfynodd Sion bod hi\u2019n synhwyrol iddo beidio dweud mwy. Ond penderfynodd e hefyd i anwybyddu gorchymyn Aunt Maud i beidio fynd i lawr y pant eto. Wedi\u2019r cyfan, roedd Cecil wedi gofyn iddo fe\u2019n arbennig i ddychwelyd. Ac roedd e wedi edrych mor drist pan roedd Sion yn gadael. Felly roedd yn rhaid i Sion fynd yn \u00f4l, i gadw cwmni iddo.<\/p>\n<p>Y diwrnod wedyn, pan aeth Anti Maud i orffwys, dyma Sion yn gwasgu trwy\u2019r llwyn a mynd i fewn i\u2019r pant unwaith eto. Daeth e o hyd i Cecil yn ddigon hawdd. Roedd sgarff goch Cecil yn ddigon llachar nes bod e\u2019n dangos trwy\u2019r coed er chwaith yr holl flodau o amgylch.<\/p>\n<p>Un o\u2019r diwrnodau gorau y gafodd Sion erioed oedd hi. Dangosodd Cecil iddo\u2019r coed gorau i\u2019w dringo. Dyma nhw\u2019n creu\u2019r pasti mwd gorau roedd Sion erioed wedi gwneud. Roedd Cecil yn gwbod gymaint am yr holl flodau a\u2019r coed a\u2019r byd natur yn y pant.<\/p>\n<p>Roedd hi\u2019n wir, meddyliodd Sion, bod Cecil weithiau\u2019n siarad yn od, fel nad oedd e\u2019n dod o\u2019r amser \u2019ma o gwbl. Nid oedd e\u2019n gwbod dim am y rhyfel, er enghraifft, a roedd e wedi\u2019i synnu pan soniodd Sion ei fod e\u2019n faciwi, yn aros gyda\u2019i fodryb o achos y bomiau. I fod yn onest, nid oedd Cecil yn gwybod taw 1940 oedd hi. Roedd e fel petai bod e\u2019n byw mewn byd gwahanol. Weithiau, roedd e\u2019n siarad am bethau nad oedd Sion yn gwybod am o gwbl, neu bethau oedd wedi digwydd amser maith yn \u00f4l, fel petai oedden nhw wedi digwydd ddoe.<\/p>\n<p>Meddyliodd Sion mae\u2019n rhaid bod Cecil yn aros yn y pant drwy\u2019r amser. Dyna oedd y rheswm doedd e ddim yn gwbod lot. Ond roedd hynny\u2019n iawn, meddyliodd. Roedd y pant yn lle mor hyfryd roedd hi\u2019n ddigon teg treulio dy holl amser di yno.<\/p>\n<p>Weithiau, dywedodd Cecil bethau od. \u201cMae\u2019r pwll nofio yn perthyn i fi,\u201d dywedodd e unwaith. \u201cCafodd ei adeiladu i wneud fi\u2019n iach eto.\u201d<\/p>\n<p>Sylweddolodd Sion fod Cecil yn s\u00f4n am y pwll, yr un rwyt ti wedi cerdded heibio. Ond rwyt ti wedi\u2019i gweld hi hefyd. Mae\u2019n llawn brwyn a lilis a chwyn dwr. Sut gallai fod yn bwll nofio?<\/p>\n<p>Tro ma, gwnaeth Sion yn sicr i adael y pant mewn amser da i fod adre am swper cyn i Anti Maud ddeffro. Ond roedd chwant bwyd uffernol arno ar \u00f4l yr holl ymchwilio a chwarae gyda Cecil lawr y pant nes bod e\u2019n bwyta tri pl\u00e2t cyfan o datws wrth ymyl ei bastai. Roedd Anti Maud yn edrych yn amheus wrth iddi hi glirio\u2019r platiau.<\/p>\n<p>\u201cBeth wyt ti wedi bod yn gwneud?\u201d gofynnodd iddo.<\/p>\n<p>\u201cDim byd o gwbl,\u201d meddai Sion. \u201cYmarfer symiau, fel wedest ti i mi wneud.\u201d<\/p>\n<p>\u201cNid llo heb eu luo ydw i,\u201d meddai hi. \u201cWyt ti wedi bod i lawr y pant eto? Jyst bydd yn ofalus. Mae\u2019n breifat.\u201d Ochneidiodd hi\u2019n ddwfn. \u201cRoeddwn i arfer mynd lawr \u2019na pan ro\u2019n i\u2019n ferch. Roedd gen i ffrind o\u2019n i\u2019n arfer cwrdd a lawr na. Beth oedd ei enw e eto? Na, dwi methu cofio. Mae gormod o amser wedi pasio. Ond dwi\u2019n cofio roedd e bob amser yn gwisgo sgarff. Sgarff goch.\u201d<\/p>\n<p>Teimlodd Sion i\u00e2s yn rhedeg i lawr ei gefn.<\/p>\n<p>\u201cOdd e\u2019n gwisgo sgarff goch?\u201d<\/p>\n<p>\u201cIe, \u2019na fe. Nid oedd e\u2019n iach iawn, ti\u2019 wel. Roedd e bob amser yn gwisgo\u2019r sgarff \u2019na, i\u2019w gadw fe\u2019n gynnes, er chwaith y tymheredd, hyd yn oed yn yr haf.\u201d Syllodd yn graff arno\u2019n sydyn. \u201cAmser bath, os gwelwch yn dda. Ti\u2019n faw i gyd.\u201d<\/p>\n<p>Aeth Sion lan llofft, ei galon yn curo\u2019n gyflym yn ei fron. Nid oedd e cweit yn gallu gweithio mas am beth roedd ei fodryb wedi s\u00f4n. Ond doedd e ddim yn siwr ei fod e am fynd yn \u00f4l i\u2019r pant. Nid eto. Roedd rhywbeth wedi\u2019i ofni.<\/p>\n<p>Os wyt ti am ddod o hyd i beth sy\u2019n digwydd nesaf, bydd angen i ti fod yn fwy ddewr na Sion a pharhau i archwilio. Dilyna\u2019r llwybr i ffwrdd o\u2019r pwll nes bod ti\u2019n dod i bont fach o garreg.[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1734&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmxsd3licl80JTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJMbHd5YnJhdSUyMEhhZmFuJTIyJTNFSGFmYW4lM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmxsd3licl80JTJGcmhhbl8xJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAxJTIyJTNFUmhhbiUyMDElM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmxsd3licl80JTJGcmhhbl8yJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAyJTIyJTNFUmhhbiUyMDIlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGNsYXNzJTNEJTIyYWN0aXZlJTIyJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGbGx3eWJyXzQlMkZyaGFuXzMlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDMlMjIlM0VSaGFuJTIwMyUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGbGx3eWJyXzQlMkZyaGFuXzQlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDQlMjIlM0VSaGFuJTIwNCUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGbGx3eWJyXzQlMkZyaGFuXzUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlM0MlMkZkaXYlM0U=[\/vc_raw_html][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_column_text] [\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGdSUyRjAlMkZlbWJlZCUzRm1pZCUzRDFQWkVvV3Zfb2s5N1k3X2VjVE1BU1h1eENBU192dDlycyUyNnpvb20lM0Q5JTIyJTIwd2lkdGglM0QlMjI2NDAlMjIlMjBoZWlnaHQlM0QlMjI0ODAlMjIlM0UlM0MlMkZpZnJhbWUlM0U=&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]Roedd Sion a Cecil wedi bod yn chwarae ymysg y coed pinwydden tal am amser hir. Roedd arogl y coed pin yn felus ar yr aer a roedd Sion yn joia\u2019i hun gymaint nes bod e wedi colli trac ar amser yn llwyr. Erbyn iddo fe sylweddoli bod e\u2019n&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/llwybr_4\/rhan_3\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":2019,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-2098","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2098","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2098"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2098\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2880,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2098\/revisions\/2880"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2019"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2098"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}