{"id":2077,"date":"2021-03-11T13:53:04","date_gmt":"2021-03-11T13:53:04","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=2077"},"modified":"2021-08-12T14:44:44","modified_gmt":"2021-08-12T14:44:44","slug":"rhan_5","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/fferm_y_fforest\/rhan_5\/","title":{"rendered":"Rhan 5"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-2077-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/FF-5-CYM.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/FF-5-CYM.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/FF-5-CYM.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGdSUyRjAlMkZlbWJlZCUzRm1pZCUzRDFSVEt5TXdWbUdPc2k4TEVrZG5LOVROYWt6dVNjYVJMayUyMiUyMHdpZHRoJTNEJTIyNjQwJTIyJTIwaGVpZ2h0JTNEJTIyNDgwJTIyJTNFJTNDJTJGaWZyYW1lJTNF&#8221;][vc_column_text]Roedd hi\u2019n mynd yn dywyll. Roedd hi\u2019n oeri. Roedd Llygoden yn dechrau poeni. Ti\u2019n gweld, roedd e\u2019n dod allan yn y nos lawer: mae llygod yn anifeiliaid nosol. Ond roedd e bob amser yn cerdded gyda\u2019r nos yn ei ran bach ef o dir, ble roedd e\u2019n gwybod y llefydd i guddio a chwtshio lawr os oedd Tylluan yn hedfan dros ben. Nid oedd e byth wedi bod mor bell oddi gartre\u2019 o\u2019r blaen.<\/p>\n<p>Cerddodd e ar y pawennau tawelaf roedd e\u2019n gallu. Syllodd trwy\u2019r tywyllwch gyda llygaid craff. Ac yn sydyn, dyma fe\u2019n rhewi. Achos o\u2019i flaen e roedd p\u00e2r o lygaid enfawr yn sgleinio gyda golau gwyrdd. Llwynog oedd e, mas am dro gyda\u2019r nos.<\/p>\n<p>\u201cWel helo, Llygoden,\u201d meddai Llwynog. \u201cClywes i dy fod di ar daith.\u201d<\/p>\n<p>\u201cTi\u2019n gywir,\u201d meddai Llygoden. \u201cTaith pwysig iawn yw hi, felly pl\u00ees paid \u00e2 bwyta fi, Llwynog. Mae hi\u2019n daith arbennig, ar gyfer holl greaduriaid eraill y goedwig. Mae\u2019r dyn gwyrdd wedi gofyn i fi i ddod o hyd i enw coll yr hen goeden, achos rydym ni wedi\u2019i anghofio, ac hebddo, bydd yr hen goeden yn marw. Ac heb yr hen goeden, bydd y goedwig hefyd yn marw. Achos rydym ni gyd wedi ein cysylltu.\u201d<\/p>\n<p>\u201c\u2019Nai ddim dy fyta di,\u201d meddai Llwynog. \u201cOnd, ti\u2019n gwbod, dwi\u2019m yn sicr bod yna lot ti\u2019n gallu neud. Ti mor&#8230;fach. Lot rhy fach i neud gwahaniaeth.\u201d<\/p>\n<p>Ac eisteddodd Llwynog i lawr a fflicio\u2019i gynffon hir oren.<\/p>\n<p>\u201c\u2019Dyw hynny ddim yn wir,\u201d meddai Llygoden. \u201cRhoddodd y dyn gwyrdd y dasg hon i mi achos mae e\u2019n gallu ei chyflawni hi.\u201d<\/p>\n<p>\u201cYdy hwnna\u2019n wir?\u201d dywedodd Llwynog. \u201cClywes i dy fod ti wedi gwirfoddoli am y dasg. A bod y dyn gwyrdd yn rhy garedig i \u2019weud na i ti.\u201d<\/p>\n<p>Roedd ymennydd bach Llygoden yn llawn ffws a ffwdan. Doedd e ddim cweit yn gallu cofio beth roedd wedi digwydd. A oedd Llwynog yn gywir? Ife fe oedd wedi gwirfoddoli? Dim rhyfedd bod yr anifeiliaid eraill i gyd yn chwerthin ar ei ben. Doedd e ddim yn gallu \u2019neud dim byd.<\/p>\n<p>Y mwyaf roedd Llygoden yn meddwl am y peth, y mwyaf sicr roedd e ei fod e wedi bod yn Llygoden Dwp i feddwl bod e\u2019n ddigon clyfar i wneud unrhywbeth i amddiffyn yr hen goeden a stopio\u2019r goedwig rhag farw.<\/p>\n<p>\u201cRydw i\u2019n Llygoden Ddewr,\u201d meddai Llygoden i\u2019w hun. \u201cRydw i\u2019n Llygoden Glyfar. Rydw i\u2019n gallu cyflawni\u2019r dasg hon.\u201d Ond hyd yn oed wrth iddo fe ddweud y geiriau ma i\u2019w hun, doedd e ddim wir yn eu credu nhw rhagor.<\/p>\n<p>Roedd Llwynog yn esgus edrych fel bod piti ganddo dros Llygoden.<\/p>\n<p>\u201cO paid a gwrando arna i,\u201d meddai yn ei lais llyfn llwynogaidd. \u201cNid jyst ti yw\u2019r broblem. Mae pawb yn broblem. Nid yw hi\u2019n bosib i unrhywun wneud unrhywbeth i amddiffyn y goedwig os mae\u2019r hen goeden yn marw. Mae\u2019n rhaid i ni dderbyn hwnna. Mae pethau\u2019n symud ymlaen. Mae\u2019r byd yn anghofio pethau. Dyna pam rydw i wedi dysgu sut i addasu. Mae fy nghefndrod yn y ddinas \u2019run fath. Rydym ni wedi dysgu sut i oroesi, ac unrhywbeth sy\u2019n digwydd, fe fyddem ni\u2019n ymdopi. Dylet ti neud yr un peth. Dyle pawb jyst edrych ar \u00f4l ei hun. Dyna\u2019r ffordd gorau i fod. Dyna\u2019r unig ffordd i fod.\u201d<\/p>\n<p>Magodd Llygoden ei blwc orau. \u201cCelwydd pur yw hwnna,\u201d dywedodd e\u2019n gadarn. \u201cDywedodd y dyn gwyrdd wrtha i bod popeth yn gysylltiedig i\u2019w gilydd. Yr hen goeden sydd yn dal y goedwig mewn cydbwysedd, a mae popeth allan o falans ar hyn o bryd achos mae hi\u2019n marw. Dyw hi ddim yn wir bod angen i ni ymdopi ar ben ein hun. Y gwirionedd yw bod hi\u2019n amhosib i ni oroesi heb gydweithio gyda\u2019n gilydd.\u201d<\/p>\n<p>Llyncodd ei boer achos roedd Llwynog yn edrych yn wyllt gacwn. Nid oedd neb byth yn anghytuno gyda Llwynog. Ond aeth yn ei flaen achos roedd e am fod yn Lygoden Ddewr. \u201cDyna beth rydw i\u2019n meddwl hefyd. A dwi\u2019n meddwl ein bod ni\u2019n gywir.\u201d<\/p>\n<p>Gwenodd Llwynog mewn ffordd cas a fflachiodd ei ddannedd yng ngolau\u2019r lleuad. \u201cWel, Llygoden Fach, efallai dwyt ti ddim mor fach a mae pobl yn dweud yr wyt ti. Ond er chwaith hwn dwi ddim yn meddwl y fyddet ti\u2019n llwyddo yn dy dasg.\u201d<\/p>\n<p>Daliodd Llygoden ei hun yn gryf. \u201cLlwynog, mae\u2019n rhaid i mi fynd ar fy ffordd, os nad wyt ti am weud rywbeth o les i mi am enw coll yr hen goeden. Wyt ti\u2019n gwbod beth yw e? Neu wyt ti\u2019n gwbod rhywun gall helpu fi?\u201d<\/p>\n<p>\u201cDiar mi,\u201d meddai Llwynog. \u201cDwi\u2019n gwybod dim byd o gwbl. Dim ond hen lwynog dwl ydw i.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019n rhaid bod Llygoden wedi edrych yn drist iawn achos tynerodd Llwynog tuag ato rywfaint. \u201cOs ei di i\u2019r guddfan adar mae yna siawns fe ddei di ar draws aderyn sydd wedi hedfan miloedd ar filoedd o filltiroedd i fod yma. Mae nifer o\u2019r adar yno yn teithio\u2019n bell, ti\u2019n gweld. Efallai gofynna iddyn nhw. Maen nhw wedi bod ar draws y byd, mae\u2019n rhaid bo nhw\u2019n gwybod mwy nag ydw i.\u201d<\/p>\n<p>\u201cDiolch,\u201d meddai Llygoden, ac roedd e ar fin heglu i ffwrdd pan gofiodd ei gynllun am yr anrhegion. Dywedodd e, \u201cLlwynog, dwi\u2019n casglu anrhegion am yr hen goeden. Dwi\u2019n meddwl y bydd hwn yn ei hatgoffa hi am ba mor gyfoethog ac arbennig yw\u2019r goedwig, a pha mor bwysig y mae hi. Oes yna unrhywbeth hoffet ti roi iddi hi?\u201d<\/p>\n<p>Meddyliodd Llwynog am funud ac wedyn dywedodd, \u201cDwi wedi bob amser feddwl pa mor arbennig y byddai i weld holl olion traed yr anifeiliaid sydd yn byw yn y goedwig. Felly hyd yn oed os maen nhw fel ti, Llygoden, ac yn cuddio i ffwrdd yn ystod y dydd, rwyt ti dal i fod yn gwybod eu bod nhw yno, yn sgrialu o amgylch y lle, yn dod \u00e2 bywyd i bobman.\u201d<\/p>\n<p>Felly tra bod ti\u2019n teithio wrth ymyl Llygoden, beth am edrych am olion traed a phawen yr anifeiliaid gwahanol? Gall rhain fod yn olion llwynog, adar, llygoden&#8230;bydden nhw mewn llefydd ble mae\u2019r baw wedi sychu, neu efallai ar ben y ffens. Gallet ti dynnu llun ohonyn nhw, neu gymryd llun, a mynd \u00e2 nhw gyda ti i ddangos yr hen goeden.<\/p>\n<p>A phaid anghofio i gysuro Llygoden wrth iddo fe deithio. \u201cUn cam o flaen y llall. Bant \u00e2 fi. Bant \u00e2 fi. Bant \u00e2 fi.\u201d[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1736&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmZmZXJtX3lfZmZvcmVzdCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyTGx3eWJyYXUlMjBIYWZhbiUyMiUzRUhhZmFuJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZmZmVybV95X2Zmb3Jlc3QlMkZyaGFuXzElMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDElMjIlM0VSaGFuJTIwMSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGZmZlcm1feV9mZm9yZXN0JTJGcmhhbl8yJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAyJTIyJTNFUmhhbiUyMDIlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmZmZXJtX3lfZmZvcmVzdCUyRnJoYW5fMyUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwMyUyMiUzRVJoYW4lMjAzJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZmZmVybV95X2Zmb3Jlc3QlMkZyaGFuXzQlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDQlMjIlM0VSaGFuJTIwNCUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwY2xhc3MlM0QlMjJhY3RpdmUlMjIlMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZmZmVybV95X2Zmb3Jlc3QlMkZyaGFuXzUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGZmZlcm1feV9mZm9yZXN0JTJGcmhhbl82JTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjA2JTIyJTNFUmhhbiUyMDYlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmZmZXJtX3lfZmZvcmVzdCUyRnJoYW5fNyUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwNyUyMiUzRVJoYW4lMjA3JTNDJTJGYSUzRSUzQyUyRmRpdiUzRQ==[\/vc_raw_html][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text] [\/vc_column_text][vc_gmaps link=&#8221;#E-8_JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGdSUyRjAlMkZlbWJlZCUzRm1pZCUzRDFSVEt5TXdWbUdPc2k4TEVrZG5LOVROYWt6dVNjYVJMayUyMiUyMHdpZHRoJTNEJTIyNjQwJTIyJTIwaGVpZ2h0JTNEJTIyNDgwJTIyJTNFJTNDJTJGaWZyYW1lJTNF&#8221;][vc_column_text]Roedd hi\u2019n mynd yn dywyll. Roedd hi\u2019n oeri. Roedd Llygoden yn dechrau poeni. Ti\u2019n gweld, roedd e\u2019n dod allan yn y nos lawer: mae llygod yn anifeiliaid nosol. Ond roedd e bob amser yn cerdded gyda\u2019r nos yn ei ran bach ef o dir, ble roedd e\u2019n gwybod y llefydd i guddio&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/fferm_y_fforest\/rhan_5\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":2007,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"cfc.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-2077","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2077","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2077"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2077\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2733,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2077\/revisions\/2733"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2007"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2077"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}