{"id":2039,"date":"2021-03-10T15:47:27","date_gmt":"2021-03-10T15:47:27","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/prosiectau\/llwybrau-stori\/bae_caerdydd\/part_3\/"},"modified":"2021-06-01T08:44:26","modified_gmt":"2021-06-01T08:44:26","slug":"rhan_3","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/bae_caerdydd\/rhan_3\/","title":{"rendered":"Rhan 3"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-2039-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/BAE-3-CYM.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/BAE-3-CYM.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/BAE-3-CYM.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][vc_raw_html]JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxckJpWlgwRHE2ak14SUFxTlNhaUw0dTYySzVQcFhrbVIlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRSUwQQ==[\/vc_raw_html][vc_column_text]Roeddwn i wedi bod i\u2019r rhan yma o\u2019r bae o\u2019r blaen, ond dim ond yn y dydd, a nawr roedd hi\u2019n dywyll iawn. Felly roeddwn i\u2019n hapus iawn pan gyrhaeddais i lwybr y m\u00f4r. Wyt ti wedi bod fan hyn o\u2019r blaen? Os edrycha di lawr ar dy draed, fe weli di\u2019r patrymau mwyaf arbennig yn y carreg. Gwymon, crychau yn y tywod, cregyn. Cerddais ar hyd llwybr y m\u00f4r gan deimlo\u2019r holl patrymau o dan fy nhraed. Roedd y ddraig fach yn drwm ar fy nghefn, ond teimlais yn hapus iawn nawr. Tynnais anadl ddwfn o holl oglau\u2019r bae.<\/p>\n<p>Beth wyt ti\u2019n gallu arogli heddi? Sut mae\u2019r tywydd? Ydy hi\u2019n wyntog? Ydy hi\u2019n heulog? Ydy hi\u2019n bwrw glaw?<\/p>\n<p>Beth am gael tro ar deimlo\u2019r llwybr o dan dy draed gyda dy lygaid di ar gau? Ydy hi\u2019n bosib gwybod beth sydd o dan dy draed jyst trwy gyffwrdd?<\/p>\n<p>Rhoddodd y ddraig fach ei ben allan o\u2019r bag ac edrychodd ar lwybr y m\u00f4r hefyd. Roedd e\u2019n canu i\u2019w hun mewn llais bach gwichiog. \u201cFe fyddem ni yno\u2019n fuan,\u201d dywedais i wrtho, gan ddilyn llwybr y m\u00f4r.<\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n syllu ar fy nhraed mor galed ac yna BAM! Taranais i\u2019n syth i fewn i rywbeth. Neu <em>rywun<\/em>. Neidiais yn \u00f4l gyda sgrech a gwichiodd y ddraig fach hefyd. Ond&#8230;roedd dim byd yno.<\/p>\n<p>Yn gyflym iawn, caeaodd niwl trwchus droston ni. Nawr doeddwn i ddim yn gallu gweld fy nhwylo na chwaith fy nhraed. Ac yn fwy pwysig roedd rhywbeth arall yno.<\/p>\n<p>Neu rywun arall.<\/p>\n<p>Nes i barhau i gerdded gan deimlo llwybr y mor o dan fy nhraed ond wrth i fi wneud, sylweddolais i nad oeddwn i nawr yn gwybod y gwahaniaeth rhwng lan, lawr, de neu chwith, dyna pa mor drwchus oedd y niwl. Sut ar y ddaear oedden ni\u2019n mynd i fedru cyrraedd y morglawdd nawr?<\/p>\n<p>Ac yna \u2013 BAM! Cerddais yn syth i fewn i rywun eto.<\/p>\n<p>\u201cSori!\u201d dywedais i. \u201cDwi methu gweld dim. Wyt ti\u2019n gallu fy helpu i os gwelwch yn dda?\u201d<\/p>\n<p>Ymestynais law allan tuag at y peth ond eto doedd dim byd yno heblaw am y niwl.<\/p>\n<p>Dechreuais i deimlo\u2019n ofnus iawn. Roedd y ddraig fach yn fy mag yn amlwg yn ofnus iawn hefyd achos roedd e wedi cuddio\u2019i ben eto ac yn crynu.<\/p>\n<p>\u201cPaid a bod ooooofn,\u201d sibrydodd lais bach yn fy nglust. \u201cWnai dy arwain di i ddiogeeeeelwcccchh. Cymra fy laaaaaw.\u201d<\/p>\n<p>\u201cPwy wyt ti?\u201d<\/p>\n<p>\u201cDim otsssssss,\u201d dywedodd y llais. \u201cJysssssst cymera fy laaaaaw.\u201d<\/p>\n<p>Ac o\u2019n blaen ni yn y niwl, weles i law bach, liw gwyrdd, yn disgleirio. Roedd ganddo fe fysedd hir esgyrnog.<\/p>\n<p>Er chwaith y ffaith bod y llais mor ddeniadol roedd rywbeth yn dweud wrtha i i fod yn ofalus.<\/p>\n<p>\u201cDwi\u2019n mynd tuag at y morglawdd,\u201d dywedais i. \u201cMae angen i fi ryddhau\u2019r ddraig fach hon i fewn i\u2019r mor fel bod e\u2019n gallu mynd adre. Wyt ti\u2019n gallu dweud wrtha i pa ffordd i fynd?\u201d<\/p>\n<p>\u201cFedrai ddim dweud wrthat tiiii,\u201d sibrydodd y llais. \u201cOnd allai dangos i tiiiiii.\u201d<\/p>\n<p>Chwifiodd y llaw bach gwyrdd arna i eto. Meddyliais i, <em>gall e ddim fod mor beryglus gyda llaw mor fach? Efallai mae e wir yn gwybod y ffordd drwy\u2019r niwl. Efallai bydd e\u2019n dangos i ffordd diogel i\u2019r morglawdd i mi.<\/em><\/p>\n<p>Ymestynais tuag at y llaw gwyrdd.<\/p>\n<p>\u201cDyna tiiiii,\u201d sibrydodd y llais. \u201cUn cam yn agosssssach. Nawr, cama i ffwrdd o lwybr y moooor.\u201d<\/p>\n<p>Ac yn sydyn roedd y llaw bach gwyrdd wedi fy nghipio i a doedd fy nhraed ddim ar y llwybr rhagor. Nid oeddwn i ragor yn gallu teimlo crychau\u2019r tywod na\u2019r gwymon na\u2019r cregyn o dan fy nhraed, dim ond carreg. A roedd y llaw gwyrdd yn tynnu fy llaw i gyda chryfder enfawr, roedd e\u2019n tynnu mor gryf nes bod fy llaw i\u2019n colli teimlad yn llwyr, a roedd y llaw bach gwyrdd fel petai bod e\u2019n mynd yn gryfach ac yn gryfach ac yn gryfach&#8230;<\/p>\n<p>I ble roedden ni\u2019n mynd? Roedd hi mor niwlog roedd hi\u2019n amhosib gweld unrhywbeth&#8230;<\/p>\n<p>A dyna pan glywais i swn sblashio tonnau\u2019r bae a sylweddolais i mewn braw taw nid tynnu ni tuag at y morglawdd oedd y llaw gwyrdd ond tuag at y dwr. Ac yn sydyn roeddwn i\u2019n gwybod yn syth pwy oedd y creadur hwn. Coblyn y m\u00f4r oedd e. Roedd mam wedi gweud storis i mi am goblyn y m\u00f4r. Sut roedd e\u2019n amgylchynu teithwyr gyda niwl trwchus ac yn eu hannog nhw i gymryd ei law, ac wedi yn eu tynnu tuag at y m\u00f4r a gwthio nhw i fewn a\u2019u boddi nhw: roedd e\u2019n caru twyllo pobl fel hwn. Roeddwn i bob amser wedi addo na fyswn i byth yn cael fy nhwyllo gan goblyn y m\u00f4r, a nawr, dyma lle oeddwn i.<\/p>\n<p>Nes i drio stopio symud drwy balu fy nhraed i fewn i\u2019r carreg ond wrth gwrs nes i barhau i lithro ymlaen ac ymlaen, coblyn y m\u00f4r yn fy nhynnu\u2019n gryf a\u2019r ddraig fach ar fy nghefn yn crynu gydag ofn. A nawr roedd y coblyn yn chwerthin yn ei lais ofnadwy, \u201cJyssssstt un cammmm arallll.\u201d<\/p>\n<p>\u201cNaaaaa!\u201d sgrechiais. A dyna pan ymddangosodd ben y ddraig fach o\u2019r bag. Dangosodd ei ddannedd bach miniog a saethu rywbeth o\u2019i geg tuag at y coblyn. Dwi ddim yn gwbod os oedd e\u2019n d\u00e2n neu\u2019n st\u00eam ond \u2019nath e weithio. Roedd yna sgrech uchel ac ofnadwy a theimlais y creadur yn ryddhau fy llaw. Heglais yn \u00f4l mewn cyfeiriad y llwybr m\u00f4r ond nawr roedd y niwl yn fwy drwchus byth a roedd hi\u2019n amhosib gweld unrhywbeth, nid y m\u00f4r, nid y morglawdd na chwaith y bae. Roedden ni ar goll yn llwyr.\u201cAmssssser rhoi\u2019r ffidil yn y toooo,\u201d sibrydodd y coblyn yn fy nghlust. Poerodd y ddraig fach tuag ato.<\/p>\n<p>Yna, \u2019nes i deimlo fe. O dan fy nhroed. Si\u00e2p tywod. Roeddwn ni n\u00f4l ar lwybr y m\u00f4r. Roeddwn i\u2019n gwybod, os roeddwn i\u2019n ei ddilyn, bydd e\u2019n arwain ni tuag at y morglawdd. Un cam ar \u00f4l y llall.<\/p>\n<p>Beth wyt ti\u2019n gallu teimlo o dan dy draed? Dyna oedd yn pethau oedd yn cadw fi i fynd, cam wrth gam, wrth i\u2019r ddraig fach syllu allan o\u2019r bag ar fy nghefn a chwyrnu ar y niwl.<\/p>\n<p>Ac o\u2019r diwedd, dyma\u2019r niwl yn diflannu a roedd sgrechian coblyn y m\u00f4r ymhell tu \u00f4l i ni.[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1734&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmJhZV9jYWVyZHlkZCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyTGx3eWJyYXUlMjBIYWZhbiUyMiUzRUhhZmFuJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZiYWVfY2FlcmR5ZGQlMkZyaGFuXzElMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDElMjIlM0VSaGFuJTIwMSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGYmFlX2NhZXJkeWRkJTJGcmhhbl8yJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAyJTIyJTNFUmhhbiUyMDIlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGNsYXNzJTNEJTIyYWN0aXZlJTIyJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGYmFlX2NhZXJkeWRkJTJGcmhhbl8zJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAzJTIyJTNFUmhhbiUyMDMlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmJhZV9jYWVyZHlkZCUyRnJoYW5fNCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwNCUyMiUzRVJoYW4lMjA0JTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZiYWVfY2FlcmR5ZGQlMkZyaGFuXzUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlM0MlMkZkaXYlM0U=[\/vc_raw_html][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text] [\/vc_column_text][vc_raw_html]JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxckJpWlgwRHE2ak14SUFxTlNhaUw0dTYySzVQcFhrbVIlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRSUwQQ==[\/vc_raw_html][vc_column_text]Roeddwn i wedi bod i\u2019r rhan yma o\u2019r bae o\u2019r blaen, ond dim ond yn y dydd, a nawr roedd hi\u2019n dywyll iawn. Felly roeddwn i\u2019n hapus iawn pan gyrhaeddais i lwybr y m\u00f4r. Wyt ti wedi bod fan hyn o\u2019r blaen? Os edrycha di lawr ar dy draed, fe weli di\u2019r patrymau&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/bae_caerdydd\/rhan_3\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":2013,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"cfc.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-2039","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2039","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2039"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2039\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2342,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2039\/revisions\/2342"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2013"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2039"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}