{"id":2032,"date":"2021-03-10T15:37:37","date_gmt":"2021-03-10T15:37:37","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=2032"},"modified":"2021-06-01T08:45:56","modified_gmt":"2021-06-01T08:45:56","slug":"rhan_2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/bae_caerdydd\/rhan_2\/","title":{"rendered":"Rhan 2"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-2032-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/BAE-2-CYM.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/BAE-2-CYM.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/BAE-2-CYM.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][vc_raw_html]JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxckJpWlgwRHE2ak14SUFxTlNhaUw0dTYySzVQcFhrbVIlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRQ==[\/vc_raw_html][vc_column_text]Pan gyrhaeddais i\u2019r cylch efydd mawr, nes i stopio, ac edrych o amgylch yn ofalus. Roedd y bae dal i fod yn dawel ac yn ddu, a gyd o\u2019n i\u2019n gallu clywed roedd swn y dwr yn cosi yn erbyn ochr y cei.<\/p>\n<p>\u201cDraig!\u201d triais i eto. \u201cDraig y m\u00f4r! Dwi wedi dod i dy helpu di!\u201d<\/p>\n<p>Yna ddaeth swn, ond nid swn fel swn sblashio a gwichian y ddraig fach. Roedd y swn yma\u2019n mynd fel hwn: snic-snic-clic-clic.<\/p>\n<p>Rhedodd i\u00e2s i lawr fy nghefn. Pwy \u2013 neu beth \u2013 oedd yn gwneud sut fath o swn?<\/p>\n<p>Daeth y swn eto. Snic-snic clic-clic. A daeth swn arall hefyd. Swn nifer fawr o goesau\u2019n sgytlo.<\/p>\n<p>Efallai rwyt ti\u2019n gallu cuddio tu \u00f4l i\u2019r cylch mawr o efydd, ond roeddwn i wedi mynd yn glwm mewn bag siopa fy mam, a doeddwn i ddim wedi symud mewn amser. Ac yn sydyn yn ymddangos o\u2019r tywyllwch daeth y golwg mwyaf od. I ddechrau \u2019da, roedd e\u2019n edrych fel dyn, dyn hynod o dal a main iawn. Ond wedyn, wrth iddo fe agosau, weles i bod gan y dyn yma grafangau enfawr cranc ar waelod ei freichiau, a choesau ychwanegol ar bob ochr er mwyn sgytlo. Roedd e\u2019n gwisgo siwt smart iawn a thei bach o amgylch ei wddf a\u2019i grafangau oedd yn gwneud y swn snic-snic-clic-clic.<\/p>\n<p>Rhewais i wedi fy nychryn yn llwyr achos roeddwn i\u2019n gwybod yn union pwy oedd hwn. Roedd mam wedi dweud gymaint o storis amdano fe. Mr Cranc oedd e. Roedd pawb yn y bae yn \u2019nabod Mr Cranc. Dyn busnes creulon oedd e, oedd yn twyllo arian allan o bobl da, a roedd e mor farus doedd e byth yn stopio. Roedd pawb yn gwbod bod gan Mr Cranc chwant bwyd enfawr ac ofnadwy arno fe, a\u2019i hoff beth i fwyta oedd arian, a dyna pam roedd e bob amser angen mwy. Ond roedd e hefyd yn bwyta pethau eraill. Pethau fel plant. Plant fel fi.<\/p>\n<p>Stopiodd Mr Cranc ei sgytlo pan welodd e fi. \u201cTi\u2019n fach ac yn denau iawn,\u201d meddai, gan edrych yn drist.<\/p>\n<p>\u201cO ydw,\u201d wedes i, yn obeithiol. Efallai rwyt ti\u2019n meddwl roeddwn i\u2019n ddewr, ond roeddwn i wir wedi fy nychryn. Roedd fy nghalon yn curo fel drwm yn fy mron a roeddwn i bron methu meddwl yn syth.<\/p>\n<p>Cymerodd Mr Cranc ei hances boced yn ofalus a phlygu fe ar flaen ei grys. \u201cOnd er chwaith dy fod ti\u2019n fach, mae\u2019n rhaid i mi dy fwyta di,\u201d meddai, gan swnio\u2019n ymddiheuriol, wrth iddo fe gymryd allan cyllell a fforc.<\/p>\n<p>\u201cO na,\u201d dywedais, \u201cna, pl\u00ees, paid neud hwnna!\u201d<\/p>\n<p>\u201cA pham ddim?\u201d<\/p>\n<p>Doeddwn i ddim yn gallu meddwl am reswm. Be byset ti\u2019n dweud i stopio hanner-ddyn, hanner-granc rhag dy lyncu di? Efallai elli di \u2019weud e nawr, yn uchel ac yn gadarn, jyst rhag ofn bod e\u2019n gwrando.<\/p>\n<p>Ond doeddwn i ddim yn gallu meddwl am unrhywbeth o gwbl, heblaw am &#8211;<\/p>\n<p>\u201cDim ond pryd o fwyd bach iawn byswn i. A dwi ddim yn meddwl fy mod i\u2019n flasus iawn.\u201d<\/p>\n<p>\u201cSiomedig iawn,\u201d meddai Mr Cranc. \u201cOnd pan mae plant bach dynol yn ddigon amharchus i ddod am dro bach i fewn i fy nheyrnas i gyda\u2019r nos, mae\u2019n rhaid i mi eu bwyta nhw. Felly, esgusoda fi, tra bod fi\u2019n cychwyn. Pa ran ohonot ti ddylai gnoi gynta? Penelin, dwi\u2019n meddwl. Dwi\u2019n hoff iawn o benelin.\u201d<\/p>\n<p>\u201cAros!\u201d dywedais i, yn wyllt. \u201cNid mynd am dro ydw i! Dwi yma i helpu. Mae yna greadur bach sydd ar goll, ac mae angen iddo fe fynd adre, a dyna pam dwi yma. Nid bod yn amharchus ydw i \u2013 SYR.\u201d<\/p>\n<p>Am eiliad, \u2019nath Mr Cranc stopio\u2019i brocio gyda\u2019i fforc a roedd e\u2019n gwrando arna i.<\/p>\n<p>\u201cPa fath o greadur?\u201d<\/p>\n<p>\u201cDraig y m\u00f4r bach yw e,\u201d dywedais i. \u201cDwi\u2019n mynd i\u2019w roi e ym mag siopa fy mam a chario fe i\u2019r morglawdd, fel fy mod i\u2019n gallu ei ryddhau i fewn i\u2019r M\u00f4r Hafren, a mae\u2019n gallu mynd adre i Ynysoedd yr Haf.\u201d<\/p>\n<p>Yn sydyn, dyma Mr Cranc yn patio\u2019i lygaid gyda\u2019i hances boced. \u201cStori dorcalonnus yw hon,\u201d meddai. Roedd e\u2019n edrych fel petai bod e ar fin neud penderfyniad. O\u2019r diwedd, dywedodd e, \u201cWel, dwi byth yn gwneud hwn. Mae pawb yn fy adnabod i fel dyn creulon iawn. Ond, ar yr achlysur hon, dwi\u2019n mynd i dy adael di i fynd, heb dy gnoi, a gyda phob un penelin. Nagydw i\u2019n garedig iawn?\u201d<\/p>\n<p>\u201cO wyt,\u201d wedes i\u2019n gyflym. \u201cCaredig iawn.\u201d<\/p>\n<p>\u201cPaid ti \u00e2 meiddio gweudtho unrhywun,\u201d dywedodd e. \u201cDwi ddim am i\u2019r newyddion fynd allan fy mod i ddim mor ffiaidd \u00e2 maen nhw\u2019n ei feddwl.\u201d<\/p>\n<p>\u201cWrth gwrs,\u201d wedes i.<\/p>\n<p>\u201cNawr,\u201d meddai Mr Cranc. \u201cOs ei di lawr i ochr y dwr, dwi\u2019n meddwl bod yna rywun yn aros amdanat ti.\u201d<\/p>\n<p>A rhoddodd y cyllell a fforc yn \u00f4l yn ei boced a bant \u00e2 fe, snic-snic, clic-clic.<\/p>\n<p>A wyddoch chi be, yn y dwr tywyll roedd yna ben bach pigog a dau lygaid mawr trist. Mor gyflym \u00e2 phosib, es i lawr, a phenlinio wrth ymyl y dwr.<\/p>\n<p>\u201cDraig fach,\u201d dywedais i, \u201cdwi yma i dy achub di. Ond yn anffodus mae angen i ti ddringo i mewn i fy mag siopa, neu fyddai ddim yn gallu dy gario di i\u2019r morglawdd a dy ruddhau di.\u201d<\/p>\n<p>Edrychodd y ddraig fach mewn braw ar y bag siopa.<\/p>\n<p>\u201cDwi\u2019n addo wnai ddim clymu\u2019r top,\u201d dywedais i, \u201cmae jyst angen rywbeth arna i er mwyn dy gario di. Rwyt ti\u2019n eitha \u2013 mawr.\u201d<\/p>\n<p>Ti\u2019n gweld, er chwaith y ffaith roedd y ddraig fach lot yn llai nag unrhyw ddraig arall roeddwn i\u2019n gallu dychmygu, roedd e dal i fod run faint \u00e2 chi bach. A roedd ei gynffon yn hir iawn ac yn creu problemau mawr. Pan roeddwn i, o\u2019r diwedd, wedi llwyddo perswadio\u2019r ddraig i fewn i\u2019r bag, roedd ei gynffon dal i fod yn hongian allan a roeddwn i\u2019n syrthio drosto fe. Yn y diwedd, llwyddais i bacio\u2019r ddraig yn ddiogel yn y bag.<\/p>\n<p>\u201cReit te, bant \u00e2 ni,\u201d dywedais i a gwichiodd y ddraig fach yn hapus. Codais i\u2019r bag ar fy nghefn \u2013 a bron \u00e2 gollwng e \u2019to! Roedd y ddraig mor drwm! Roedd hwn yn mynd i fod yn daith hir ac anodd. Roeddwn i\u2019n gobeithio nad oedden ni\u2019n cwrdd ag unrhyw greaduriaid eraill ar ein taith ni i\u2019r m\u00f4r.[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1733&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmJhZV9jYWVyZHlkZCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyTGx3eWJyYXUlMjBIYWZhbiUyMiUzRUhhZmFuJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZiYWVfY2FlcmR5ZGQlMkZyaGFuXzElMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDElMjIlM0VSaGFuJTIwMSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwY2xhc3MlM0QlMjJhY3RpdmUlMjIlMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZiYWVfY2FlcmR5ZGQlMkZyaGFuXzIlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDIlMjIlM0VSaGFuJTIwMiUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGYmFlX2NhZXJkeWRkJTJGcmhhbl8zJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAzJTIyJTNFUmhhbiUyMDMlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmJhZV9jYWVyZHlkZCUyRnJoYW5fNCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwNCUyMiUzRVJoYW4lMjA0JTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZiYWVfY2FlcmR5ZGQlMkZyaGFuXzUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlM0MlMkZkaXYlM0U=[\/vc_raw_html][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text] [\/vc_column_text][vc_raw_html]JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxckJpWlgwRHE2ak14SUFxTlNhaUw0dTYySzVQcFhrbVIlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRQ==[\/vc_raw_html][vc_column_text]Pan gyrhaeddais i\u2019r cylch efydd mawr, nes i stopio, ac edrych o amgylch yn ofalus. Roedd y bae dal i fod yn dawel ac yn ddu, a gyd o\u2019n i\u2019n gallu clywed roedd swn y dwr yn cosi yn erbyn ochr y cei. \u201cDraig!\u201d triais i eto. \u201cDraig y m\u00f4r! Dwi wedi dod&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/bae_caerdydd\/rhan_2\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":2013,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"cfc.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-2032","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2032","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2032"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2032\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2338,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2032\/revisions\/2338"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2013"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2032"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}