{"id":2028,"date":"2021-03-10T15:34:44","date_gmt":"2021-03-10T15:34:44","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=2028"},"modified":"2021-06-01T08:44:11","modified_gmt":"2021-06-01T08:44:11","slug":"rhan_1","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/bae_caerdydd\/rhan_1\/","title":{"rendered":"Rhan 1"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-2028-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/BAE-1-CYM.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/BAE-1-CYM.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/BAE-1-CYM.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][vc_raw_html]JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxckJpWlgwRHE2ak14SUFxTlNhaUw0dTYySzVQcFhrbVIlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRQ==[\/vc_raw_html][vc_column_text]Helo! Diolch am ymuno gyda fi. Mae gen i stori i ti heddi. Mae\u2019n dechre fan hyn, reit ble wyt ti nawr.<\/p>\n<p>Pan oeddwn i o amgylch dy oedran di, roeddwn i\u2019n dod fan hyn drwy\u2019r amser. Jyst cyn i\u2019r morglawdd gael ei adeiladu, cyn roedd Cei\u2019r F\u00f4r-forwyn yn edrych fel y mae e nawr.<\/p>\n<p>Dwi hefyd yn cofio beth roedd hi fel pan roedden nhw\u2019n adeiladu\u2019r morglawdd. Roedden ni gyd ar bigau\u2019r drain i ffeindio mas beth roedd e\u2019n mynd i edrych fel.<\/p>\n<p>Dwi\u2019n cofio dod lawr fan hyn y diwrnod \u2019nath y morglawdd agor i\u2019r cyhoedd. Dwi\u2019n cofio sefyll yn union ble rwyt ti\u2019n sefyll nawr. Nes i edrych ar y cerflun yma hefyd. Nes i ddilyn llinell ei bys hi\u2019n pwyntio allan tuag at y morglawdd, tuag at yr aber agored yn y pellter.<\/p>\n<p>Dwi\u2019n cofio\u2019r diwrnod hwnnw mor dda o achos be ddigwyddodd nesa. O fy amgylch i roedd pawb yn bwyta hufan i\u00e2 a cherdded ling-di-long o amgylch a siarad am sut roedden nhw am fynd am dro ar draws y morglawdd. Nid oedd neb yn talu sylw i\u2019r dwr yn y bae. Ond roeddwn i yn gwneud. A weles i\u2019r dwr yn symud. Weles i\u2019r dwr yn byrlymu. Weles i rywbeth yn ymddangos, am eiliad fach, ar yr arwyneb.<\/p>\n<p>Es i lawr y grisiau tuag at ochr y dwr i archwilio ymhellach. Efallai dim ond aderyn oedd wedi plymio i fewn i\u2019r dwr, neu bysgodyn, neu ddarn o froc m\u00f4r oedd hi, ryw gyfoeth bach wedi cael ei dynnu lan gan storm. Ond i fi roedd e felse fe wedi bod yn fwy. Roedd e wedi edrych fel petai roedd ganddo fe wddf hir a phen bach pigog ac adenydd wedi\u2019u plygu ar ei gefn.<\/p>\n<p>Dyna le ddaeth e eto! Nid aderyn oedd e. Nid pysgodyn. Nid ryw ddarn o froc m\u00f4r chwaith.<\/p>\n<p>\u201cHelo!\u201d galwais i\u2019r creadur, mor uchel ag o\u2019n i\u2019n meiddio, achos roedd pobl ymhobman. \u201cMae\u2019n iawn!\u201d<\/p>\n<p>Daeth beth bynnag oedd e\u2019n agosach i mi a sblashio o amgylch tamaid bach a weles i unwaith eto\u2019r adenydd bach na a\u2019r cefn hir gyda pigau arno. Roedd e hefyd yn edrych fel bod cynffon o rywfath ganddo. Nid oeddwn i\u2019n gallu gweithio mas pa liw oedd e. Un funud odd e\u2019n wyrdd, y nesa\u2019n las, y nesa\u2019n llwyd. Holl liwiau gwahanol dwr y bae.<\/p>\n<p>Es i lawr a rhoi fy ngwyneb mor agos i\u2019r dwr ag o\u2019n i\u2019n gallu. A dyna pan ges i\u2019r sioc fwya yn fy mywyd. Yn syllu arna i o ddyfnder y dwr roedd p\u00e2r o lygaid anferth, tywyll, a llawn tristwch. Roedd y llygaid yn syllu arna i allan o wyneb gyda chennau bach drosto fe i gyd, trwyn bach, a phigau ar ei dalcen. Roedd hwn, yn amlwg, yn rywfath o ddraig fach.<\/p>\n<p>\u201cPwy wyt ti?\u201d gofynnais i.<\/p>\n<p>Edrychodd y ddraig fach o amgylch a sblashio\u2019r dwr yn drist gyda\u2019i gynffon.<\/p>\n<p>\u201cWyt ti\u2019n byw fan hyn?\u201d<\/p>\n<p>Plygodd ben y ddraig fach yn isel mewn tristwch.<\/p>\n<p>\u201cWyt ti ar goll?\u201d gofynnais i wedyn achos roedd y ddraig fach yn edrych mor drist.<\/p>\n<p>Cododd y ddraig ei ben unwaith eto a gwichian arna i. A sylweddolais rywbeth yn sydyn. \u201cWyt ti \u2013 dwyt ti ddim yn dod o\u2019r bae o gwbl nagwyt ti? \u2019Nest ti fynd yn styc fan hyn, pan roedden nhw\u2019n adeiladu\u2019r morglawdd?\u201d<\/p>\n<p>Sblashiodd y ddraig fach y dwr gyda\u2019i gynffon, y tro ma\u2019n gyffrous, felly roeddwn i\u2019n gwbod fy mod i ar y trywydd gywir. Meddyliais yn galed iawn. Meddyliais am beth rwyt ti\u2019n gallu gweld o\u2019r bae, os wyt ti\u2019n edrych allan tuag at y M\u00f4r Hafren ar ddiwrnod clir. Dwy ynys. Roedd pawb yn eu galw nhw\u2019n Ynys Echni ac Ynys Rhonech \u2013 <em>Flatholm<\/em> a <em>Steepholm<\/em> \u2013 ond roedd mam wedi dweud wrtha i bod gyda nhw enw arall hefyd. Ynysoedd yr Haf. Roedd hi wedi dweud wrtha i bod yr ynysoedd na\u2019n lle hudol, nid yn rhan o\u2019n byd ni, ond yn rhan o\u2019r arallfyd.<\/p>\n<p>\u201cO na!\u201d wedes i gan ddeall yn sydyn. \u201cDwyt ti ddim yn dod o\u2019r byd yma, nagwyt ti? Ti\u2019n dod o\u2019r ynysoedd. Mae\u2019n rhaid dy fod ti wedi cael dy ddal yma yn y bae a nawr dwyt ti ddim yn gallu mynd adre.\u201d<\/p>\n<p>Dechreuodd ddagrau i bowlio lawr bochau bach y ddraig ond y funud honno ymddangosodd criw o dwristiaid a roedd rhaid i fi godi ar fy nhraed yn gyflym ac esgus nad oeddwn i\u2019n edrych ar dim byd. A phan edrychais i n\u00f4l ar y dwr, roedd y ddraig fach wedi diflannu\u2019n llwyr.<\/p>\n<p>Drwy gydol y dydd pendronais i, yn meddwl am ddim byd onibai\u2019r ddraig fach \u2019na a pha mor drist oedd e, a sut gallwn i ei helpu. Gyd o\u2019n i\u2019n gallu gweld oedd ei lygaid mawr du yn syllu arna i o\u2019r dwr, yn erfyn am help. Penderfynais i i wneud fy ngorau glas i\u2019w helpu. Felly, y noson honno, pan roedd pawb arall wedi mynd i\u2019r gwely, gadawais i fy nhy mor dawel \u00e2 phosib a mynd tuag at y bae. Roeddwn i wedi paratoi ac yn cario bag siopa fwyaf fy mam.<\/p>\n<p>A ti\u2019n meddwl ma hwn yn swnio\u2019n ddewr, yndwyt ti? Ond doeddwn i ddim yn teimlo\u2019n ddewr o gwbl! Ti\u2019n gweld odd straeon mam ddim jyst yn s\u00f4n am Ynysoedd yr Haf allan yn y m\u00f4r. Roedd hi hefyd wedi dweud wrtha i am greaduriaid Cei\u2019r F\u00f4r-forwyn. Odd hi\u2019n gweud, gyda\u2019r n\u00f4s, roedd y bae yn dod i fyw, a phob math o greaduriaid yn dod allan. Roeddwn i\u2019n gwbod byddai rhai i mi fod yn ofalus iawn.<\/p>\n<p>Des i n\u00f4l yn union i\u2019r man \u2019ma a galw am y ddraig fach. Ond doedd dim s\u00f4n amdano. Beth allai\u2019i \u2019neud?<\/p>\n<p>Penderfynais i gerdded ar hyd ochr y cei a pharhau i edrych i fewn i ddwr tywyll y bae a gweld os oedd unrhywbeth yn symud.<\/p>\n<p>Wyt ti\u2019n gallu fy nilyn i, nawr? Edrycha\u2019n graff. Dwi\u2019n meddwl fedra\u2019i weld rywbeth yn symud, yn y dwr, lan ar bwys y cylch mawr o efydd. Efallai dyna le mae\u2019r ddraig fach. Cerdda\u2019n dawel, mae\u2019n ofnus iawn![\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1732&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmJhZV9jYWVyZHlkZCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyTGx3eWJyYXUlMjBIYWZhbiUyMiUzRUhhZmFuJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBjbGFzcyUzRCUyMmFjdGl2ZSUyMiUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmJhZV9jYWVyZHlkZCUyRnJoYW5fMSUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwMSUyMiUzRVJoYW4lMjAxJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZiYWVfY2FlcmR5ZGQlMkZyaGFuXzIlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDIlMjIlM0VSaGFuJTIwMiUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGYmFlX2NhZXJkeWRkJTJGcmhhbl8zJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAzJTIyJTNFUmhhbiUyMDMlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRmJhZV9jYWVyZHlkZCUyRnJoYW5fNCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwNCUyMiUzRVJoYW4lMjA0JTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZiYWVfY2FlcmR5ZGQlMkZyaGFuXzUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlM0MlMkZkaXYlM0U=[\/vc_raw_html][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text] [\/vc_column_text][vc_raw_html]JTNDaWZyYW1lJTIwc3JjJTNEJTIyaHR0cHMlM0ElMkYlMkZ3d3cuZ29vZ2xlLmNvbSUyRm1hcHMlMkZkJTJGZW1iZWQlM0ZtaWQlM0QxckJpWlgwRHE2ak14SUFxTlNhaUw0dTYySzVQcFhrbVIlMjIlMjB3aWR0aCUzRCUyMjY0MCUyMiUyMGhlaWdodCUzRCUyMjQ4MCUyMiUzRSUzQyUyRmlmcmFtZSUzRQ==[\/vc_raw_html][vc_column_text]Helo! Diolch am ymuno gyda fi. Mae gen i stori i ti heddi. Mae\u2019n dechre fan hyn, reit ble wyt ti nawr. Pan oeddwn i o amgylch dy oedran di, roeddwn i\u2019n dod fan hyn drwy\u2019r amser. Jyst cyn i\u2019r morglawdd gael ei adeiladu, cyn roedd Cei\u2019r F\u00f4r-forwyn yn edrych fel y mae&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/bae_caerdydd\/rhan_1\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":2013,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"cfc.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-2028","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2028","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2028"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2028\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2337,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2028\/revisions\/2337"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2013"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2028"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}