{"id":1773,"date":"2021-02-23T15:54:13","date_gmt":"2021-02-23T15:54:13","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/part-5\/"},"modified":"2023-07-12T15:10:25","modified_gmt":"2023-07-12T15:10:25","slug":"rhan-5","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/parc-bute\/rhan-5\/","title":{"rendered":"Rhan 5: Enfys Eleri"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<h2>Blodeuwedd y Dylluan<\/h2>\n<p>[\/vc_column_text][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-1773-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/5-Blodeuwedd-y-Dylluan-CYM.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/5-Blodeuwedd-y-Dylluan-CYM.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/5-Blodeuwedd-y-Dylluan-CYM.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1979&#8243; img_size=&#8221;full&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<blockquote><p>Wrth i\u2019r dyfrgi wneud ei ffordd tuag at y cerflun pellaf, roedd hi\u2019n gallu teimlo panig yn codi ynddi. Achos roedd ei thaith o amgylch y parc wedi cymryd gymaint o amser, roedd hi nawr yn gallu gweld llinell pinc o olau haul ar y gorwel yn y dwyrain. Roedd yr haul ar fin codi! Roedd hi\u2019n gwybod taw dim ond munudau oedd ganddi hi ar \u00f4l. Ai ei dychymyg oedd hi, neu a oedd ei phawennau dyfrgi yn teimlo\u2019n drymach? Oedd e thrwyn yn teimlo\u2019n oer ac yn galed? Oedd hi\u2019n barod yn troi i fewn i garreg?<\/p>\n<p>Yno, o\u2019i blaen hi, fel o dy flaen di, roedd boncyff coeden wedi\u2019i bydru, a doedd e ddim yn edrych yn obeithiol iawn i\u2019r dyfrgi. Beth oedd e? Sut oedd hen goeden i fod i\u2019w helpu hi?<\/p>\n<p>Fel y dyfrgi bach, beth am i ti gerdded o amgylch y goeden? Gweler pa anifeiliaid sydd yn ymddangos o\u2019r pren. Wyt ti\u2019n gallu gweld, ar ben y goeden, adenydd tylluan?<\/p>\n<p>Wrth i\u2019r dyfrgi sbio\u2019n agosach, dechreuodd adenydd y dylluan i symud. Dechreuon nhw i fflapio. Ac yn sydyn nid tylluan o bren oedd hi ond tylluan wen, gyda gwyneb mawr rownd, a chododd o\u2019r goeden a chylchdroi yn yr awyr uwchben, unwaith, dwywaith, teirgwaith, nes dod yn \u00f4l a glanio ar y ddaear.<\/p>\n<p>\u201cFelly,\u201d meddai\u2019r dylluan. \u201cMae gen ti tan i\u2019r haul godi.\u201d<\/p>\n<p>\u201cNa fe,\u201d meddai\u2019r dyfrgi yn teimlo\u2019n anobeithiol. \u201cOnd does dim clem gennyf fi sut i dorri\u2019r swyn. A mae\u2019r haul ar fin codi ac yn fuan fyddai\u2019n ddyfrgi carreg ar y wal am byth. Plis, ydych chi\u2019n gallu fy helpu i? Danfonodd y creaduriaid eraill fi yma. Dywedon nhw taw chi yw\u2019r creadur hynaf a doethaf oll, a byddech chi\u2019n gwybod beth i\u2019w wneud.\u201d<\/p>\n<p>Hedfanodd y dylluan i fewn i\u2019r awyr unwaith eto a gwyliodd y dyfrgi hi\u2019n mynd, ei chalon yn suddo. Nid oedd hi\u2019n edrych fel bod y dylluan am ei helpu hi o gwbl.\u00a0 Ai ei dychymyg hi oedd e neu a oedd yr awyr i\u2019r dwyrain yn troi\u2019n las olau? Roedd yr haul ar fin codi. Roedd hi\u2019n mynd i fod yn ddyfrgi am byth.<\/p>\n<p>Gwyliodd hi wrth i\u2019r dylluan lanio unwaith eto ar ganol y lawnt. Ac yna ddigwyddodd rhywbeth arbennig. Nid tylluan oedd y dylluan ragor ond menyw. Menyw oedd bron mor dal \u00e2\u2019r coed o\u2019i hamgylch. Gwisgai\u2019r fenyw ffrog mor wyrdd \u00e2\u2019r gwair a roedd arogl melys blodau o\u2019i hamgylch. Roedd hi\u2019n edrych fel petai roedd hi wedi\u2019i chreu o flodau.<\/p>\n<p>Y peth mwyaf od am y fenyw hon oedd ei bod hi\u2019n deimlo\u2019n gyfarwydd. Syllodd y dyfrgi arni. Beth roedd yn gyfarwydd amdani? Cymerodd hi anadl ddwfn drwy ei thrwyn dyfrgi. Unwaith eto gwyntodd hi arogl melys y blodau.<\/p>\n<p>Teimlodd hi ofn yn corsi drwyddi\u2019n syth a chrynodd hi.<\/p>\n<p>\u201cTi!\u201d meddai. \u201cTi nath fy swyno i! Ti yw\u2019r wrach!\u201d<\/p>\n<p>\u201cWeithiau,\u201d meddai\u2019r fenyw o flodau. \u201cWeithiau gwrach ydw i. Weithiau tylluan ydw i. Weithiau menyw ydw i.\u201d<\/p>\n<p>Teimlodd y dyfrgi bach ddagrau\u2019n powlio lawr ei thrwyn a sblashio i lawr ar ei phawennau. Roedd hi\u2019n rhy hwyr. Roedd hi wedi gwneud ei gorau glas ond nid oedd amser nawr iddi ddod o hyd i ffordd i dorri swyn y wrach a roedd hi\u2019n mynd i fod yn ddyfrgi carreg am byth.<\/p>\n<p>Camodd y fenyw o flodau\u2019n agosach. Yn dyner dyma hi\u2019n cyffwrdd pen y dyfrgi bach.<\/p>\n<p>\u201cWrth iddi nosi yn y parc, gwrach ydw i,\u201d meddai. \u201cOnd wrth i\u2019r haul godi, rydw i\u2019n fenyw unwaith eto, y fenyw roeddwn i amser maith yn \u00f4l. A rydw i, unwaith eto, yn garedig. Paid \u00e2 phoeni, ferch. Wnest ti\u2019n dda heno. Roeddet ti\u2019n glyfar. Wnest ti ddilyn dy drwyn. Ni fyddet ti\u2019n ddyfrgi carreg ar y wal. Gall y wal aros am rywun arall i grwydro i fewn i\u2019r parc.\u201d<\/p>\n<p>Snwffiodd y dyfrgi a theimlo\u2019i chalon yn codi.<\/p>\n<p>\u201cMae un peth arall i ti\u2019i wneud,\u201d dywedodd y fenyw o flodau. \u201cCer i\u2019r cerflun acw o ddwylo wedi\u2019u codi ac eistedda o dan yr arch o ddail. Adrodda\u2019r geiriau yma ar fy \u00f4l i a bydd y swyn wedi\u2019i dorri a fyddi di\u2019n ferch unwaith eto.\u201d<\/p>\n<p>does dim pwer gyda ti, does dim pwer gyda ti, does dim pwer gyda ti<\/p>\n<p>a gadael rywbeth bach i mi, anrheg bach, rhywbeth fel bod y parc yn dy gofio di.<\/p>\n<p>Felly cerdda di nawr cam wrth gam gyda\u2019r dyfrgi bach i\u2019r arch o ddail. Dyma\u2019i munudau ola hi fel dyfrgi. Mae hi ar fin troi\u2019n \u00f4l i fewn i ferch. Mae hi\u2019n mwynhau teimlo\u2019r gwair gwlyb o dan ei phawennau, yn mwynhau bod yn ddyfrgi am y tro olaf. Yn y pellter, ar draws y lawnt, mae cawr yn gorwedd i lawr i gysgu drwy\u2019r dydd sydd i ddod, gyda\u2019r gwair yn tyfu yn \u00f4l dros ei ben i\u2019w guddio tra iddo freuddwydio. Mae baedd gwyllt enfawr yn snwffian ei ffordd i\u2019r gwely, a march yr eryr yn rhewi mewn unman. Ond rwyt ti\u2019n gwybod cyfrinach y parc nawr. Rwyt ti\u2019n gwybod y creaduriaid yma a\u2019u gwirionedd nhw. Ac hefyd, os wyt ti byth yn ffeindio dy hun yn y parc gyda\u2019r nos, rwyt ti\u2019n gwybod sut i dorri swyn y wrach.<\/p>\n<p><em>(stori gan Christina Thatcher)<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1736&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRnBhcmMtYnV0ZSUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyTGx3eWJyYXUlMjBIYWZhbiUyMiUzRUhhZmFuJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZwYXJjLWJ1dGUlMkZyaGFuLTElMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDElMjIlM0VSaGFuJTIwMSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGcGFyYy1idXRlJTJGcmhhbi0yJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAyJTIyJTNFUmhhbiUyMDIlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRnBhcmMtYnV0ZSUyRnJoYW4tMyUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwMyUyMiUzRVJoYW4lMjAzJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZwYXJjLWJ1dGUlMkZyaGFuLTQlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDQlMjIlM0VSaGFuJTIwNCUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwY2xhc3MlM0QlMjJhY3RpdmUlMjIlMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZwYXJjLWJ1dGUlMkZyaGFuLTUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlM0MlMkZkaXYlM0U=[\/vc_raw_html][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text] Blodeuwedd y Dylluan [\/vc_column_text][vc_column_text] [\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1979&#8243; img_size=&#8221;full&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_column_text] Wrth i\u2019r dyfrgi wneud ei ffordd tuag at y cerflun pellaf, roedd hi\u2019n gallu teimlo panig yn codi ynddi. Achos roedd ei thaith o amgylch y parc wedi cymryd gymaint o amser, roedd hi nawr yn gallu gweld llinell pinc o olau haul ar y&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/parc-bute\/rhan-5\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":1838,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"cfc.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1773","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1773","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1773"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1773\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5339,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1773\/revisions\/5339"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1838"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1773"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}