{"id":1748,"date":"2021-02-23T09:58:35","date_gmt":"2021-02-23T09:58:35","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=1748"},"modified":"2021-03-04T15:36:02","modified_gmt":"2021-03-04T15:36:02","slug":"rhan-2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/parc-bute\/rhan-2\/","title":{"rendered":"Rhan 2"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<h2>Y Cylch Cerrig<\/h2>\n<p>[\/vc_column_text][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-1748-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/1-Cerflun-Y-Dyfrgi-CYM.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/1-Cerflun-Y-Dyfrgi-CYM.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/1-Cerflun-Y-Dyfrgi-CYM.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1832&#8243; img_size=&#8221;full&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<blockquote><p>Wrth i\u2019r ferch, a oedd nawr yn ddyfrgi, agosau at y cylch cerrig, sylweddolodd hi bod y ffigwr yn sefyll ar ei ganol yn enfawr. Roedd e mor fawr roedd e\u2019n cuddio\u2019r lleuad a\u2019r s\u00ear uwchben o olwg. Ond gyda\u2019i llygaid craff dyfrgi roedd hi\u2019n gallu ei weld yn gl\u00eer. Roedd e\u2019n gawr o ddyn, gyda coesau fel dau foncyff coeden enfawr, a barf mawr coch, a\u2019r peth mwyaf od amdano oedd ei fod e\u2019n gwisgo clogyn hir a roedd y clogyn wedi\u2019i addurno gyda&#8230;barfau. Barfau pobl eraill \u2013 barfau du, barfau llwyd, barfau brown, barfau blond. Rhedodd ias i lawr asgwrn cefn y dyfrgi bach \u2013 pwy oedd yn berchen ar yr holl farfau yma?<\/p>\n<p>Cododd y cawr ei ben enfawr wrth ei sbio hi. \u201cFi yw\u2019r cawr aruthrol Rhita Fawr!\u201d dywedodd mewn llais mawr. \u201cPwy sydd yn cropian i fewn i fy nghylch cerrig gyda\u2019r nos?\u201d<\/p>\n<p>\u201cF-fi,\u201d dywedodd y dyfrgi\/ferch. \u201cYmddiheuriadau mawr am dorri ar draws \u2013\u201d<\/p>\n<p>Ond \u2013 STOMP STOMP STOMP! Daeth y cawr yn agosach ac yn agosach a chrynodd y dyfrgi bach i lawr tuag at y ddaear a chau ei llygaid gan ddisgwyl unrhyw funud ei bod hi\u2019n mynd i gal ei llyncu\u2019n fyw tan \u2013<\/p>\n<p>\u201cHAHAHA!\u201d<\/p>\n<p>Agorodd ei llygaid hi damaid bach a dyna ble roedd gwyneb enfawr y cawr mor agos i\u2019w thrwyn hi nes bod yr unig beth fedrai gweld odd golau\u2019r lleuad wedi\u2019i adlewyrchu yn ei lygaid mawr. A roedd e\u2019n chwerthin. Roedd ei chwerthin e mor swnllyd nes bod y tir o dan ei thraed hi\u2019n ysgwyd.<\/p>\n<p>\u201cWnai ddim dy fwyta di, y ffwl bach gwirion!\u201d gwaeddodd. \u201cDwi ddim yn bwyta dyfrgwn, dim ond pobl sydd \u00e2 barfau, a dim ond er mwyn dwyn eu barfau a\u2019i gwnio ar fy nghlogyn i! Drych arno \u2013 nad yw e\u2019n glogyn arbennig iawn?\u201d<\/p>\n<p>\u201cO ydy,\u201d meddai\u2019r dyfrgi bach. \u201cArbennig iawn.\u201d<\/p>\n<p>\u201cOnd ti \u2013 dwyt ti ddim wir yn ddyfrgi nac wyt ti? Dwi\u2019n gwybod, dwi\u2019n gallu arogli\u2019r gwirionedd. Ti\u2019n arogli fel dyfrgi y tro gynta i mi dy wynto di ond wedyn mae yna rhywbeth arall. Plant y ddaear\/pobl feidrol&#8230;ai bod dynol wyt ti?\u201d<\/p>\n<p>\u201cMerch fach oeddwn i tan deg munud yn \u00f4l.\u201d<\/p>\n<p>\u201cOooo,\u201d meddai\u2019r cawr. \u201cO, nath HI dy ddal di te.\u201d<\/p>\n<p>\u201cPwy yw HI?\u201d<\/p>\n<p>\u201cY wrach. Gwrach y parc. Mae hi wedi bod yn cerdded llwybrau parc yma ers yr hen amser. Ac weithiau, pan mae bod dynol yn cropian i fewn i\u2019r parc gyda\u2019r nos, bydd hi\u2019n eu cipio nhw, ac wedyn yn lle bod dynol mae anifail, a dyna sut yw pethau.\u201d<\/p>\n<p>\u201cYdy hwnna\u2019n meddwl fyddai\u2019n ddyfrgi am byth?\u201d<\/p>\n<p>Nid oedd y dyfrgi bach yn gwbod sut i\u2019w deimlo. Meddyliodd hi am yr holl bethau roedd hi\u2019n hoffi am fod yn ferch \u2013 ei ffrindiau, ei theulu, mynd i ysgol, bwyta hufen i\u00e2, chwarae gemau \u2013 ond roedd hi hefyd yn mwynhau medru nofio a rhedeg a gwynto pethau fel dyfrgi.<\/p>\n<p>\u201cO na,\u201d meddai\u2019r cawr. \u201cDim ond dyfrgi fyddet ti am heno. Pan mae\u2019r haul yn codi yn y bore, fe fyddet ti\u2019n troi i garreg ac yn ymuno\u2019r anifeiliaid cerrig eraill ar wal y parc. Y wrach sy\u2019n creu \u201cGwarchodwyr y Wal\u201d, a dyna lle maen nhw wedi\u2019u rhesu lan ar wal y parc. Maen nhw\u2019n dod i fyw dim ond pan gaiff y parc ei ymosod arno. Am weddill yr amser, anifeiliaid cerrig maen nhw.\u201d<\/p>\n<p>Roedd y dyfrgi bach wedi\u2019i dychryn yn llwyr. \u201cTi\u2019n dweud fyddai\u2019n dyfrgi carreg&#8230;<em>am byth<\/em>?\u201d<\/p>\n<p>\u201cSiwr o fod,\u201d meddai\u2019r cawr. \u201cNid oes yna ddyfrgi ar y wal ar hyn o bryd, felly mae gan y wrach fwlch i\u2019w lenwi. Er mae\u2019n rhaid dweud mae hi wedi bod oes ers i hwn ddigwydd. Y tro diwethaf digwyddodd e i fachgen o amgylch dy oedran di. Cafodd ei droi i fewn i fwnci mawr.\u201d<\/p>\n<p>Codwyd fraw ofnadwy ar y dyfrgi. Beth gallai wneud?<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n rhaid bod yna ryw ffordd i dorri\u2019r swyn cyn i\u2019r haul godi! Plis, wyt ti\u2019n gallu helpu fi?\u201d<\/p>\n<p>\u201cFedrai neud dim byd o gwbl,\u201d dywedodd y cawr. Yn amlwg doedd dim ots da fe. \u201cDwi ddim wedi bod yma am amser hir iawn a does gen i ddim pwerau hudol o gwbl, dim ond ceg mawr am grenshio esgyrn a fy nghlogyn arbennig o farfau.\u201d<\/p>\n<p>\u201cWel, oes yna unrhyw arall gall fy helpu i?\u201d<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r parc yma\u2019n hen iawn,\u201d meddai\u2019r cawr. \u201cMae yna greaduriaid ynddo sydd lot yn hyn na fi. Efallai bydden nhw\u2019n gwybod mwy am sut i dorri swyn y wrach.\u201d<\/p>\n<p>\u201cPlis \u2013 dwedwch mwy.\u201d<\/p>\n<p>\u201cOs ei di tuag at yr ardal trwchus o goed draw fynna fe weli di greadur sydd lot yn hyn na fi. Efallai bydd e\u2019n gwybod sut i dorri swyn y wrach. Ond bydd yn ofalus. Creadur peryglus iawn yw e. Lot yn fwy beryglus na fi.\u201d<\/p>\n<p>\u201cDiolch,\u201d meddai\u2019r dyfrgi bach, a roedd hi ar fin gwibio i ffwrdd ar draws y lawnt yng ngolau\u2019r lleuad pan \u2013<\/p>\n<p>\u201cStop!\u201d gwaeddodd y cawr. \u201cCyn i ti fynd mae angen i ti neud rhywbeth i mi!\u201d<\/p>\n<p>Dringa ar ben y carreg mwyaf ar ganol y cylch a gwaedda nerth dy ben. \u201cRHITA FAWR YW\u2019R CAWR ENWOCAF YN Y BYD MAWR CRWN!\u201d<\/p>\n<p>Wel, am beth wyt ti\u2019n aros? Mae angen i ti hefyd i neud beth mae Rhita Fawr yn gofyn!<\/p><\/blockquote>\n<p>[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1733&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRnBhcmMtYnV0ZSUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyTGx3eWJyYXUlMjBIYWZhbiUyMiUzRUhhZmFuJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZwYXJjLWJ1dGUlMkZyaGFuLTElMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDElMjIlM0VSaGFuJTIwMSUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwY2xhc3MlM0QlMjJhY3RpdmUlMjIlMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZwYXJjLWJ1dGUlMkZyaGFuLTIlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDIlMjIlM0VSaGFuJTIwMiUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGcGFyYy1idXRlJTJGcmhhbi0zJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAzJTIyJTNFUmhhbiUyMDMlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRnBhcmMtYnV0ZSUyRnJoYW4tNCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwNCUyMiUzRVJoYW4lMjA0JTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZwYXJjLWJ1dGUlMkZyaGFuLTUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlM0MlMkZkaXYlM0U=[\/vc_raw_html][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text] Y Cylch Cerrig [\/vc_column_text][vc_column_text] [\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1832&#8243; img_size=&#8221;full&#8221;][vc_column_text] Wrth i\u2019r ferch, a oedd nawr yn ddyfrgi, agosau at y cylch cerrig, sylweddolodd hi bod y ffigwr yn sefyll ar ei ganol yn enfawr. Roedd e mor fawr roedd e\u2019n cuddio\u2019r lleuad a\u2019r s\u00ear uwchben o olwg. Ond gyda\u2019i llygaid craff dyfrgi roedd hi\u2019n gallu&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/parc-bute\/rhan-2\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":1838,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"cfc.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1748","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1748","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1748"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1748\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1985,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1748\/revisions\/1985"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1838"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1748"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}