{"id":1738,"date":"2021-02-22T13:30:54","date_gmt":"2021-02-22T13:30:54","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/prosiectau\/llwybrau-stori\/part-1\/"},"modified":"2021-03-08T11:26:05","modified_gmt":"2021-03-08T11:26:05","slug":"rhan-1","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/parc-bute\/rhan-1\/","title":{"rendered":"Rhan 1"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<h2>Cerflun y Dyfrgi<\/h2>\n<p>[\/vc_column_text][vc_column_text]<\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-1738-1\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/mpeg\" src=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/1-Cerflun-Y-Dyfrgi-CYM.mp3?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/1-Cerflun-Y-Dyfrgi-CYM.mp3\">https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/wp-content\/uploads\/1-Cerflun-Y-Dyfrgi-CYM.mp3<\/a><\/audio>\n<p>[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1979&#8243; img_size=&#8221;full&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<blockquote><p>Mae hon yn hen, hen stori. Nid yw llawer o bobl yn gwbod y stori hon ond os rwyt ti\u2019n dod yn agosach wnai sibrwd y stori yn dy glust.<\/p>\n<p>Amser maith yn \u00f4l, roedd pobl yn adrodd straeon am y parc hwn. Roedd pobl yn dweud os oeddet ti\u2019n dod i\u2019r parc gyda\u2019r nos, roedd e\u2019n lle hudol. Byset ti ddim yn dod n\u00f4l, neu, os oeddet ti\u2019n dychwelyd, byset ti wedi cal dy newid rywsut.<\/p>\n<p>Ond un tro roedd merch fach, a oedd yn agos i dy oedran di, wedi bod yn chwarae cuddio a chyfri yn y parc gyda\u2019i ffrindiau. A roedd hi wedi llwyddo cuddio\u2019i hun mor dda nes bod neb wedi\u2019i ffeindio hi a roedd hi wedi colli trac ar amser yn llwyr. Erbyn iddi sylweddoli bod neb yn mynd i ddod o hyd iddi, roedd hi wedi tywyllu, a roedd y parc yn wag a\u2019r giatiau ar glo.<\/p>\n<p>Ond roedd y ferch hon yn ferch ddewr. Teimlai ei holl gorff yn cynhyrfu wrth iddi feddwl am archwilio\u2019r parc yn y tywyllwch. Doedd hi ddim wedi clywed y storis am y parc ti\u2019n gweld. Felly dyma hi\u2019n dechrau rhedeg ar draws y lawnt yng ngolau\u2019r lleuad, yn mwynhau gwynto holl aroglau\u2019r parc gyda\u2019r nos. Rhedodd hi tuag at yr afon yn edrych mlan at weld sut oedd golau\u2019r lleuad yn edrych ar y dwr.<\/p>\n<p>A daeth hi i stop yn union yn y man yma, ble rwyt ti\u2019n sefyll. Roedd pobman yn dywyll a dim ond cysgodion y coed roedd y ferch yn gallu\u2019u gweld. Gyd odd hi\u2019n gallu clywed odd swn yr afon yn canu a\u2019r gwynt yn y canghenau uwchben. A dyna pan deimlodd y ferch ias yn rhedeg i lawr ei hasgwrn cefn ac aeth ei chorff hi\u2019n oer iawn a gwelodd hi\u2019n gysgod enfawr o\u2019i blan hi. Roedd y cysgod mor dal \u00e2\u2019r coed.<\/p>\n<p>\u201cDylet ti ddim fod yma,\u201d dywedodd y cysgod. \u201cNid lle ar gyfer y bobl feidrol, plant y ddaear, yw\u2019r parc yma gyda\u2019r nos.\u201d<\/p>\n<p>Roedd y ferch wedi\u2019i rhewi. Nid oedd hi\u2019n gallu symud un cam.<\/p>\n<p>Siaradodd y cysgod eto. \u201cMeddylia\u2019n gyflym,\u201d dywedai. \u201cSymuda\u2019n gyflymach. Bydd yn glyfar. Ac efallai, erbyn bore, fel weli di\u2019r haul yn codi.\u201d<\/p>\n<p>A wedyn roedd y cysgod wedi diflannu\u2019n llwyr gan adael dim byd ar ei h\u00f4l onibai am arogl melus blodau yn yr aer.<\/p>\n<p>A dyna pan sylweddolodd y ferch ei bod hi\u2019n newid. Dychmyga hwn \u2013 dychmyga edrych i lawr ar dy gorff a gweld bod yna ffwr yn ymddangos dros dy groen i gyd! Dyna beth odd yn digwydd i\u2019r ferch. Roedd hi\u2019n mynd yn llai ac yn llai, yn tyfu cynffon a chrafangau a dannedd miniog, a nawr, nid merch oedd hi ragor ond dyfrgi. A roedd bod yn ddyfrgi yn hwyl. Roedd y ferch yn gallu arogli popeth gyda\u2019i thrwyn newydd \u2013 y gwair gwlyb, arogl y mwd ar wely\u2019r afon. Roedd hi\u2019n dyheu am gael plymio i fewn, i nofio, i hela.<\/p>\n<p>Dechreuodd y ferch i symud fel dyfgri, i redeg fel dyfrgi. A wyt ti\u2019n gallu neud yr un peth? Sut mae dyfrgi yn rhedeg? Sut mae\u2019n nofio? Nofia o amgylch nawr. A dychmyga \u2013 nawr, rwyt ti\u2019n greadur nosol, sy\u2019n meddwl dy fod ti\u2019n gallu gweld yn y tywyllwch. Mae dy drwyn di\u2019n finiog a rwyt ti\u2019n gallu arogli popeth hefyd.<\/p>\n<p>Fel ti, dechreuodd y ferch i redeg a nofio a mwynhau bod yn ddyfrgi pan gofiodd hi beth roedd llais y cysgod wedi dweud wrthi.<\/p>\n<p>\u201cOs rwyt ti\u2019n glyfar, efallai fel weli di\u2019r haul yn codi.\u201d<\/p>\n<p>Am beth odd y cysgod yn s\u00f4n? Roedd hi\u2019n benderfynol ei bod hi\u2019n mynd i ffeindio mas.<\/p>\n<p>Felly syllodd hi o amgylch yn graff gyda\u2019i llygaid newydd dyfrgi a gwelodd hi, drwy\u2019r tywyllwch, olygfa od iawn. Yn agos iddi hi roedd cylch cerrig.<\/p>\n<p>Ac ar ganol y cylch cerrig roedd ffigwr yn sefyll.<\/p>\n<p>A fedri di gweld y cylch cerrig o ble rwyt ti? Os wyt ti\u2019n gallu, rheda iddo fel dyfrgi! Bant \u00e2 ti \u2013 dim ond un siawns sy gyda ti, a\u2019r cyntaf i\u2019r felin caiff falu!<\/p><\/blockquote>\n<p>[\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1732&#8243; img_size=&#8221;medium&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_raw_html]JTNDZGl2JTIwaWQlM0QlMjJzdG9yeXRyYWlsJTIyJTNFJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRnBhcmMtYnV0ZSUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyTGx3eWJyYXUlMjBIYWZhbiUyMiUzRUhhZmFuJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBjbGFzcyUzRCUyMmFjdGl2ZSUyMiUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRnBhcmMtYnV0ZSUyRnJoYW4tMiUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwMSUyMiUzRVJoYW4lMjAxJTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZwYXJjLWJ1dGUlMkZyaGFuLTMlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDIlMjIlM0VSaGFuJTIwMiUzQyUyRmElM0UlMjAlN0MlMjAlM0NhJTIwaHJlZiUzRCUyMiUyRmN5JTJGcHJvc2llY3RhdSUyRmxsd3licmF1LXN0b3JpJTJGcGFyYy1idXRlJTJGcmhhbi0zJTJGJTIyJTIwdGl0bGUlM0QlMjJFd2NoJTIwaSUyMHJoYW4lMjAzJTIyJTNFUmhhbiUyMDMlM0MlMkZhJTNFJTIwJTdDJTIwJTNDYSUyMGhyZWYlM0QlMjIlMkZjeSUyRnByb3NpZWN0YXUlMkZsbHd5YnJhdS1zdG9yaSUyRnBhcmMtYnV0ZSUyRnJoYW4tNCUyRiUyMiUyMHRpdGxlJTNEJTIyRXdjaCUyMGklMjByaGFuJTIwNCUyMiUzRVJoYW4lMjA0JTNDJTJGYSUzRSUyMCU3QyUyMCUzQ2ElMjBocmVmJTNEJTIyJTJGY3klMkZwcm9zaWVjdGF1JTJGbGx3eWJyYXUtc3RvcmklMkZwYXJjLWJ1dGUlMkZyaGFuLTUlMkYlMjIlMjB0aXRsZSUzRCUyMkV3Y2glMjBpJTIwcmhhbiUyMDUlMjIlM0VSaGFuJTIwNSUzQyUyRmElM0UlM0MlMkZkaXYlM0U=[\/vc_raw_html][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text] Cerflun y Dyfrgi [\/vc_column_text][vc_column_text] [\/vc_column_text][vc_single_image image=&#8221;1979&#8243; img_size=&#8221;full&#8221; alignment=&#8221;center&#8221;][vc_column_text] Mae hon yn hen, hen stori. Nid yw llawer o bobl yn gwbod y stori hon ond os rwyt ti\u2019n dod yn agosach wnai sibrwd y stori yn dy glust. Amser maith yn \u00f4l, roedd pobl yn adrodd straeon am y parc hwn. Roedd pobl&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/llwybrau-stori\/parc-bute\/rhan-1\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":1838,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"cfc.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1738","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1738","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1738"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1738\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1984,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1738\/revisions\/1984"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1838"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1738"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}