{"id":1456,"date":"2021-01-21T12:22:50","date_gmt":"2021-01-21T12:22:50","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-childfriendly.azurewebsites.net\/?page_id=1456"},"modified":"2021-03-05T12:27:29","modified_gmt":"2021-03-05T12:27:29","slug":"lonydd-chwarae-2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/lonydd-chwarae-2\/","title":{"rendered":"Lonydd wedi&#8217;u trawsnewid yn fannau diogel, gwyrdd sy&#8217;n Dda i Blant"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]Mae menter newydd i drawsnewid lonydd a lonydd cefn yn fannau hwyliog, gwyrdd a diogel i blant gael chwarae, yn cael ei threialu yn Grangetown y mis hwn.<\/p>\n<p>Nod partneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phafiliwn y Grange, y Prosiect Lonydd Chwarae Diogel yw cynyddu cyfleoedd i blant chwarae&#8217;n ddiogel wrth hyrwyddo cydlyniant cymunedol a helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel tipio anghyfreithlon.<\/p>\n<p>Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: &#8220;Mae sicrhau bod plant yn gallu cael mynediad i fannau diogel a hwyliog i chwarae yn hanfodol ac yn cefnogi ymrwymiad Caerdydd i gael ei chydnabod yn fyd-eang gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF, fel Dinas sy&#8217;n Dda i Blant.<\/p>\n<p>&#8220;Mae gan blant yr hawl i chwarae a thrwy eu galluogi i chwarae&#8217;n ddiogel ger eu cartrefi eu hunain mae&#8217;n golygu y gallant fwynhau&#8217;r awyr agored, gweld ffrindiau a bod yn agos at eu teuluoedd. Bydd y cynllun yn helpu i ailgysylltu cymunedau, gan roi cyfle i breswylwyr adennill y gofod a chreu amgylcheddau croesawgar, diogel a deniadol i bawb eu mwynhau.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Gl\u00e2n a&#8217;r Amgylchedd: &#8220;Mae gan y cyngor nifer o fentrau ar waith, fel yr ymgyrch Carwch Eich Cartref i greu ymdeimlad o falchder mewn cymunedau ledled y ddinas. Ein nod yw gwneud ymddygiad gwrthgymdeithasol fel taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yn gymdeithasol annerbyniol, fel y gallwn weithio gyda chymunedau i wella&#8217;r strydoedd ledled y ddinas.<\/p>\n<p>&#8220;Bydd y cynllun newydd hwn yn rhoi pwrpas newydd i&#8217;r lonydd cefn yn Grangetown, fel y gall plant fwynhau gweithgareddau awyr agored ar garreg eu drws mewn ffordd sy\u2019n ddiogel o ran COVID. Drwy ddefnyddio&#8217;r mannau cyhoeddus hyn yn fwy rheolaidd, a phreswylwyr yn cymryd &#8216;perchnogaeth&#8217; o&#8217;r ardaloedd hyn, credwn y bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleihau.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Lynne Thomas, Rheolwr Prosiect y Porth Cymunedol: &#8220;Mae\u2019r Porth Cymunedol yn falch iawn o bartneru gyda Chyngor Caerdydd a Phafiliwn Grange ar y prosiect cyffrous hwn i drawsnewid dau le yn Grangetown. Gan ddefnyddio egwyddorion cyd-gynhyrchu, edrychwn ymlaen at gefnogi trigolion i ddatblygu a gweithredu eu huchelgeisiau i greu mannau gwyrddion disglair, croesawgar, diogel ar gyfer chwarae a rhyngweithio cymunedol lleol dros ben.<\/p>\n<p>&#8220;Byddem wrth ein bodd i&#8217;r prosiect hwn fod yn gatalydd ar gyfer trawsnewid mannau nas defnyddir yn ehangach ar draws Grangetown ac rydym yn awyddus i archwilio cyllid ychwanegol a chyfleoedd partneriaeth. Enwebwyd cyfanswm o ugain l\u00f4n gan drigolion Grangetown o ganlyniad i&#8217;r alwad agored; mae&#8217;r awydd a&#8217;r gefnogaeth i&#8217;r prosiect hwn yn y gymuned yn enfawr ac rydym yn annog busnesau a chyllidwyr a allai ein helpu i ehangu&#8217;r prosiect i gysylltu \u00e2 ni.&#8221;<\/p>\n<p>Mae gweledigaeth Dinas sy\u2019n Dda i Blant Caerdydd yn rhoi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polis\u00efau, strategaethau a gwasanaethau&#8217;r ddinas.<\/p>\n<p>Mae UNICEF UK wedi cydnabod y r\u00f4l arloesol y mae Cyngor Caerdydd wedi&#8217;i chwarae wrth sefydlu&#8217;r Rhaglen Dinas sy\u2019n Dda i Blant yn y DU a&#8217;n bod wedi gwneud cynnydd da o ran ymgorffori hawliau plant yn ein strategaethau a&#8217;r ffordd yr ydym yn cefnogi ac yn meithrin ein pobl ifanc.<\/p>\n<p>I gydnabod hyn, mae UNICEF UK wedi argymell bod y Cyngor yn gwneud cais am gael cydnabyddiaeth fel Dinas sy\u2019n Dda i Blant yn nhymor yr hydref 2021.<\/p>\n<p>Ychwanegodd y Cynghorydd Merry, &#8220;Byddwn yn parhau i gyflawni ein gweledigaeth i ymgorffori hawliau plant ymhellach yn ein cymunedau, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ystyrlon yn y penderfyniadau sy&#8217;n effeithio arnynt.&#8221;<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cynllun diweddaraf hwn yn un o nifer o brosiectau i&#8217;w cyflawni drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan sy&#8217;n cefnogi ac yn cynyddu cyfleoedd chwarae, yn unol ag Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae ymgynghori lleol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a bydd trigolion lleol a sefydliadau cymunedol yn helpu i lywio dyluniad y lonydd. Os bydd yn llwyddiannus, gellid ehangu&#8217;r cynllun ar draws y ddinas.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Porth Cymunedol yn brosiect ymgysylltu blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi ymrwymo i adeiladu partneriaeth hirdymor gyda thrigolion a busnesau Grangetown, gan greu llwybrau rhwng y Brifysgol a&#8217;r gymuned a hwyluso&#8217;r gwaith o gyd-gynhyrchu prosiectau er budd pawb.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Porth Cymunedol wedi cefnogi mwy na 66 o brosiectau cymuned-prifysgol gan wneud cysylltiadau rhwng staff y Brifysgol, myfyrwyr a thrigolion Grangetown er mwyn helpu i ddod \u00e2 syniadau a arweinir gan y gymuned yn fyw. Yn 2019, daeth Prifysgol Caerdydd yn warcheidwad asedau Pafiliwn y Grange, gan helpu&#8217;r gymuned i godi dros \u00a32m i adeiladu cyfleuster hygyrch o ansawdd uchel dan arweiniad preswylwyr yng Ngerddi\u2019r Grange sy&#8217;n darparu gofod fforddiadwy i\u2019w logi, caffi sy&#8217;n canolbwyntio ar y gymuned, mannau gweithio ar y cyd a gardd fioamrywiol a lawnt ar gyfer chwarae, iechyd a llesiant a thyfu tymhorol.<\/p>\n<p>Ymunwch \u00e2&#8217;r sgwrs #GtownPlayLanes[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]<\/p>\n<p>https:\/\/grangepavilion.wales\/projects\/play-lanes-pilot\/[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column css_animation=&#8221;slideInUp&#8221;][vc_column_text]Mae menter newydd i drawsnewid lonydd a lonydd cefn yn fannau hwyliog, gwyrdd a diogel i blant gael chwarae, yn cael ei threialu yn Grangetown y mis hwn. Nod partneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phafiliwn y Grange, y Prosiect Lonydd Chwarae Diogel yw cynyddu cyfleoedd i blant chwarae&#8217;n ddiogel&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/prosiectau\/lonydd-chwarae-2\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":1384,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"cfc.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1456","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1456","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1456"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1456\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1977,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1456\/revisions\/1977"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1384"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.childfriendlycardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1456"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}