Prifysgol y Plant Caerdydd

Mae Strategaeth Addysg Caerdydd 2030 yn nodi gweledigaeth ddeng mlynedd ar gyfer addysg yn y brifddinas. Mae’n cynnwys yr uchelgais i bob disgybl ddysgu a chyflawni ei botensial ac i gydnabod y gall addysg ddigwydd yn unrhyw le. Dylai disgyblion weld y ddinas fel adnodd dysgu a meddu ar hawliau a galluoedd cyfartal i gael gafael ar yr adnoddau hynny a’u defnyddio.  

Mae strategaeth 2030 hefyd yn dweud y dylai Caerdydd ddatblygu ‘pasbort i Ddinas Caerdydd’ a fydd yn gwarantu y gall pob plentyn fanteisio ar amrywiaeth eang o brofiadau allgyrsiol ledled y ddinas. Er mwyn cyflawni hyn, mae Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol y Plant i ddatblygu Prifysgol y Plant yng Nghaerdydd, gan sicrhau mynediad i blant o bob cefndir ledled Caerdydd.  

Beth yw Prifysgol y Plant?

Elusen sy’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i annog cariad at ddysgu ymysg plant yw Prifysgol y Plant. Y nod yw datblygu cariad at ddysgu drwy annog a dathlu cyfranogiad mewn gweithgareddau a phrofiadau allgyrsiol yn yr ysgol a’r tu allan iddi.Profwyd bod effaith y gweithgareddau hyn yn gadarnhaol a dyna pam eu bod wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal a mynediad i blant o bob cefndir. 

“Mae plant yn treulio dim ond 9% o’u horiau effro mewn ystafell ddosbarth, ym Mhrifysgol y Plant, rydym yn datgloi cariad at ddysgu er mwyn manteisio i’r eithaf ar y 91% sy’n weddill. Rydym am i blant o bob cefndir gael manteisio ar ystod o gyfleoedd dysgu newydd. Mae ein helusen yn annog, yn olrhain ac yn dathlu plant sy’n cymryd rhan mewn dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth. 

Er mwyn sicrhau profiad cyson o ansawdd uchel, caiff ein holl gyfleoedd dysgu eu dilysu. Mae ysgolion yn dilysu eu gweithgareddau eu hunain ac mae prifysgol y plant yn dilysu gweithgareddau sy’n digwydd y tu allan i’r ysgol. Pan gaiff gweithgaredd ei ddilysu, rhoddir cod stamp sy’n unigryw i bob gweithgaredd i’r darparwr dysgu. Mae’r plant yn dewis o ystod wych o gyfleoedd dysgu ac yn cymryd rhan gan ddefnyddio eu pasbort i ddysgu. Defnyddir y pasbort i gasglu codau stamp ar gyfer pob gweithgaredd y maent yn ei brofi, mae’r codau stamp hyn yn galluogi myfyrwyr i greu cofnod o’u cyflawniadau eu hunain. Pan ychwanegir y codau hyn at gyfrif ar-lein plentyn, bydd y plentyn yn gweld mwy o wybodaeth am yr hyn y mae wedi’i wneud – gall weld ei ddiddordebau’n datblygu, ei sgiliau’n datblygu a gall olrhain ei gynnydd ac ennill tystysgrifau yn wobrau am ei gyflawniadau. Caiff gweithgareddau newydd a phrofiadau newydd eu hychwanegu drwy’r amser wrth i’n rhwydwaith dyfu.

Rydym yn gwybod bod ein dull yn helpu plant i ddatblygu sgiliau newydd a magu hyder. Mae gwaith ymchwil gan y sefydliad gwaddol addysgol hefyd yn dangos bod cymryd rhan ym Mhrifysgol y Plant yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gyrhaeddiad addysgol. 

Gall ysgolion a darparwyr addysg weld y cynnydd y mae plant yn ei wneud, olrhain llwyddiant ac adrodd ar y gweithgareddau. Gallant baratoi adroddiadau hanfodol i rieni, partneriaid a sefydliadau fel Ofsted. Mae Prifysgol y Plant eisoes ar waith mewn dros 1,000 o ysgolion a phob blwyddyn mae plant yn cymryd rhan mewn bron i 4 miliwn awr o ddysgu.” – Prifysgol y Plant 

Cynllun Prosiect Prifysgol y Plant Caerdydd

Mis Tachwedd 2020 i Fis Ionawr 2021 –  

Mae’r gwaith o gwmpasu ac archwilio’r prosiect i baratoi ar gyfer y cynllun peilot yn dechrau ym mis Chwefror, gan weithio gydag ysgolion i ddeall eu persbectif, sefydlu gweithgor o randdeiliaid a mapio’r darparwyr dysgu posibl i gronni carfan o weithgareddau ac adnoddau ar gyfer y cynllun peilot. 

Mis Chwefror i Fis Ebrill 2021 –  

Bydd Cynllun Peilot Prifysgol y Plant Caerdydd yn rhedeg o fis Chwefror i fis Ebrill 2021 gyda 6 lleoliad addysg, sy’n cynnwys 3 ysgol gynradd Saesneg, 1 ysgol gynradd Gymraeg, 1 ysgol uwchradd Saesneg ac 1 Uned Cyfeirio Disgyblion. Bydd hyn yn sicrhau bod ystod amrywiol o blant o wahanol gefndiroedd yn cael eu cynnwys. 

Mis Chwefror i Fis Mawrth 2021 –  

Ceisio cymeradwyaeth wleidyddol i wthio’r achos busnes yn ei flaen a’i ddatblygu i’w gyflwyno i’r cabinet. 

Mis Gorffennaf i fis Medi 2021 –  

Posibilrwydd o gyflwyno Prifysgol y Plant Caerdydd yn raddol, os ceir cymeradwyaeth gan y cabinet.  

Canlyniadau a Ddisgwylir 

  • Bydd y cabinet yn cytuno i gyflwyno Prifysgol y Plant Caerdydd yn swyddogol.  
  • Bydd plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol o ansawdd  

uchel  

  • Caiff dysgu plant a phobl ifanc ei gydnabod a’i ddathlu  
  • Gall ysgolion hyrwyddo cyfleoedd dysgu ystyrlon y tu allan i’r ystafell ddosbarth  
  • Gall darparwyr dysgu hyrwyddo cyfleoedd dysgu mewn modd systematig  
  • Gall pob plentyn a pherson ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol