Cwricwlwm am Oes
Wrth drafod gyda Phlant a Phobl Ifanc drwy arolwg ‘Gwneud Eich Marc’ nodwyd cwricwlwm am oes fel angen allweddol gan bobl ifanc yng Nghaerdydd. Y prif feysydd a nodwyd oedd iechyd a lles emosiynol, perthnasau cadarnhaol, lleihau ymddygiad sy’n cymryd risg a sgiliau i fod yn ddinasyddion annibynnol, actif. Y bwriad yw ychwanegu gwerthu a gwella cysylltedd gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu cynnig gan y cyngor a’r trydydd sector. Dull seiliedig ar hawliau yw hwn, sy’n ffurfio rhan fawr o ymrwymiad Caerdydd i fod yn Ddinas sy’n Dda i Blant.
Prif nod Cwricwlwm Am Oes (C4L) yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael yr hawl i fod
- yn Hapus
- yn Iach
- yn Ddiogel
- yn Cael eu Clywed
- yn Cael eu Haddysgu
- y Gorau y Gallan Nhw Fod.
Mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd wedi cynnal arolwg i ganfod barn pobl ifanc am ba mor dda mae ABCh yn eu paratoi ar gyfer bywyd. Darllenwch yr adborth gan 1,500 o bobl (PDF).
Lawrlwythwch bosteri ar gyfer “Mae gen i hawl i gael fy nghlywed” (3mb PDF) fel y gallwch eu hargraffu i’w harddangos.
Gallwch hefyd lawrlwytho adnodd ar atal troseddau â chyllyll (2mb PDF) i helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel.
Cwricwlwm haciau bywyd (Haciau C4L)
Mewn cydweithrediad â phlant a phobl ifanc ledled Caerdydd rydym yn creu cyfres fideo thematig animeiddiedig o offer addysgol i helpu plant a phobl ifanc i lywio heriau bywyd go iawn a dysgu’r pethau sydd angen iddyn nhw eu gwybod. Bydd y fideos haciau bywyd yn galluogi plant a phobl ifanc i fod yn fwy annibynnol, egnïol, hapus ac iach.
Bob dydd Llun bydd fideo hac bywyd yn cael ei bostio ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol – gwyliwch a joiwch!
Instagram – www.instagram.com/childfriendlycardiff/
Facebook – www.facebook.com/CFCCardiff/
Twitter – www.twitter.com/ChildFriendlyC1/
Paratoi plant a phobl ifanc ar gyfer byw’n annibynnol, dinasyddiaeth weithgar a byd gwaith.