Wrth i Gaerdydd ddathlu cael ei hail-achredu gan UNICEF fel Dinas sy’n Dda i Blant, rydym yn taflu goleuni ar y cyfleoedd bob dydd sy’n helpu i wneud Caerdydd yn lle gwych i fabanod, plant a phobl ifanc dyfu i fyny, chwarae, dysgu, cymryd rhan a mwynhau eu hawliau.
Mae gwyliau’r haf yn amser gwych i blant, pobl ifanc a theuluoedd weld yr hyn sy’n digwydd ledled y ddinas. O chwarae, parciau a mannau awyr agored i ganolfannau ieuenctid, cymorth i deuluoedd a gweithgareddau i blant iau, mae llawer o gyfleoedd ar gael ledled Caerdydd.
Dod o hyd i weithgareddau a chymorth ledled Caerdydd
Gall teuluoedd ddarganfod mwy am yr hyn sy’n digwydd ledled y ddinas drwy’r dolenni isod:
- Archwilio parciau a mannau awyr agored Caerdydd drwy Awyr Agored Caerdydd – Parciau
- Archwilio gweithgareddau a digwyddiadau yn Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd
- Darganfod mwy am Gymorth targedig Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd
- Darganfod Canolfannau ieuenctid lleol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd
- Gweld cyfleoedd rhianta a chwarae Gwasanaeth Chwarae a Rhianta Caerdydd
- Edrych ar “weithgareddau cynhwysol” cysylltwyr cymunedol Niwrowahanol ar eu padlet
Mae bod yn Ddinas sy’n Dda i Blant yn golygu gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu deall, eu parchu a’u rhoi ar waith. Mae hyn yn cynnwys hawl plant i chwarae, gorffwys, cymryd rhan mewn bywyd diwylliannol a chymunedol, cael rhywun i wrando arnyn nhw, teimlo’n ddiogel, a chael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Rydym yn annog teuluoedd ledled Caerdydd i edrych, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael yn ystod gwyliau’r haf.
Mae taith Caerdydd fel Dinas sy’n Dda i Blant yn perthyn i bawb — ac mae’r haf hwn yn gyfle i ddathlu’r bobl, y lleoedd a’r gwasanaethau sy’n helpu babanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd i fwynhau eu dinas.