
Elusen sy’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i annog cariad at ddysgu ymysg plant yw Prifysgol y Plant. Rydym yn gwneud hyn drwy annog a dathlu cyfranogiad mewn gweithgareddau allgyrsiol yn yr ysgol a’r tu allan iddi. Mae nifer fach o ysgolion yn cymryd rhan ond disgwylir i’r prosiect hwn dyfu dros y tair blynedd nesaf.
Yn Lloegr a’r Alban mae cannoedd o ysgolion a miloedd o blant yn cymryd rhan, yn ennill llawer o brofiad ac yn cael llawer o hwyl yn rhoi cynnig ar bethau newydd.
Erbyn hyn mae 12 ysgol wedi cofrestru yng ngham un ac rydym yn brysur yn hyfforddi staff, yn arolygu disgyblion ac yn paratoi i lansio ym mis Ionawr. Rydym hefyd wedi bod yn brysur yn siarad â llawer o sefydliadau lleol sy’n dymuno cefnogi’r cynllun hwn a rhannu ein cenhadaeth i wneud Caerdydd yn lle gwych i blant ddysgu ac ehangu eu gwybodaeth.
Mae fersiwn Gymraeg gwefan a phorth ar-lein Prifysgol y Plant hefyd bron wedi’i chwblhau ac rydym newydd dderbyn ein swp cyntaf o basbortau dwyieithog newydd.
Mae tîm Prifysgol y Plant Caerdydd yn tyfu hefyd ac rydym bellach yn recriwtio dau berson arall i ymuno â’r tîm i’n elpu i ateb y galw a ddisgwylir gan ysgolion Caerdydd am Brifysgol y Plant.
Rydym bellach yn chwilio am ysgolion i fynegi diddordeb mewn ymuno o gam 3 ymlaen.
Os ydych am ymuno a dod yn rhan o hyn siaradwch â phennaeth eich ysgol leol neu cysylltwch â ni gan llenwi’r ffurflen isod: