Asesiad Dinas sy’n Dda i Blant

Gweld yr holl newyddion...

Mae Pwyllgor UNICEF UK wedi awgrymu y bydd Caerdydd yn barod ar gyfer asesiad Dinas sy’n Dda i Blant yn gynnar yn 2022. Mae’r gwaith paratoi ar gyfer yr asesiad hwn bellach wedi cychwyn o ddifrif gyda chyfres o ffilmiau byr yn cael eu comisiynu i ddal stori newid ar draws meysydd gwaith allweddol.

Mae’r cwmni cynhyrchu lleol ‘Redbrck Productions’ wedi dechrau gweithio ar y ffilm gyntaf sy’n cyfleu’r gwaith sylweddol yng Ngwobr Ysgol Parch i Hawliau UNICEF yma yn y DU.