
Os ydych chi rhwng 11 a 25 oed ac yn byw yn Ne Cymru, byddai Heddlu De Cymru wrth eich bodd pe baech chi’n rhan o’n sgwrs #LleisiauIfanc
“Mae gweithio ar ran ac er lles pobl ifanc yn flaenoriaeth a rennir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu De Cymru. Mae ein Siarter Hawliau Plant a’n Cynllun Cydraddoldeb ar y Cyd yn nodi ein hymrwymiad i hyrwyddo diwylliant lle y caiff safbwyntiau a chyfraniadau pobl ifanc eu cydnabod a’u gwerthfawrogi ac y gweithredir arnynt. Mae rhoi cyfleoedd i bobl ifanc wneud sylwadau ar y gwasanaethau sy’n effeithio arnynt yn ogystal â’u herio yn hollbwysig er mwyn helpu’r Comisiynydd a’r heddlu i gydweithio i wella’r gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc”
mwy o wybodaeth yma: