
Bydd y rhan fwyaf ohonom yn rhoi gofal di-dâl i rywun sy’n hŷn, yn anabl neu’n ddifrifol wael ar ryw adeg yn ein bywydau.
Mae Dydd Iau 26 Tachwedd yn Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, ac mae’n dwyn ynghyd sefydliadau o bob rhan o’r DU i estyn allan at ofalwyr gyda gwybodaeth, cyngor a chymorth.
Thema eleni yw Gwybod eich Hawliau. Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar bob agwedd ar ofalu, gan effeithio ar fynediad gofalwyr at gymorth a gwasanaethau, a’u hiechyd corfforol a meddyliol. Mae llawer yn gofalu am y tro cyntaf, tra bo’r rhai sydd wedi bod yn gofalu am gyfnod yn wynebu mwy o heriau a phwysau nag erioed o’r blaen. Ni fu erioed yn bwysicach i ofalwyr gael gwybodaeth, a gwybod beth yw eu hawliau
I’ch helpu i wybod beth mae gennych hawl iddo, gallwch ddarllen y canllaw Gofalu am rywun, sy’n rhoi darlun llawn i ofalwyr am y cymorth ymarferol ac ariannol sydd ar gael iddynt bob blwyddyn. Mae canllaw diweddaraf 2020-21 i’w weld yn carersuk.org/LAS
Isod mae tri cham pwysig y gallwch eu rhoi ar waith i ddysgu beth sydd gennych hawl i’w gael:
1. Cael gwiriad budd-daliadau
Lwfans Gofalwyr yw’r prif fudd-dal gofalwyr. Ond nid pawb sy’n gymwys i’w hawlio, felly mae’n syniad da trefnu gwiriad budd-daliadau i weld pa gymorth ariannol y gallech fod â hawl iddo. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us ar ein gwefan: carersuk.org/benefits-calculator
I gael gwybodaeth am ba gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i carersuk.org, E-bost advice@carersuk.org, ewch i wefan Turn2us turn2us.org.uk neu cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth lleol.
2. Dysgu am gymorth ymarferol
Efallai y bydd angen cymorth ymarferol arnoch i’ch helpu i ofalu, fel seibiannau byr, offer i helpu i wneud gofalu’n haws neu wybodaeth am grwpiau lleol a all helpu.
Mae gan bob gofalwr hawl i gael asesiad gofalwr gan ei gyngor lleol (neu ymddiriedolaeth yng Ngogledd Iwerddon) a allai olygu eich bod yn cael cymorth ychwanegol gan wasanaethau gofal cymdeithasol i helpu gyda gofal. Bydd yr asesiad yn ystyried sut mae gofalu yn effeithio ar eich bywyd, gan gynnwys eich anghenion corfforol, meddyliol ac emosiynol, ac a ydych yn gallu neu’n barod i barhau i ofalu.
Cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor/ymddiriedolaeth leol i gael asesiad gofalwr neu ewch i carersuk.org/assessment am ragor o wybodaeth.
Drigolion Caerdydd – cliciwch yma i edrych ar wefan y Cyngor i gael rhagor o wybodaeth.
3. Cysylltu â gofalwyr eraill
Gall gofalu fod yn ynysig. Pan fyddwn ni’n gofalu am rywun, nid yw bob amser yn hawdd dod o hyd i bobl sy’n gwybod yn iawn sut beth yw gofalu ac sy’n gallu rhoi help a dealltwriaeth i ni. Mae grwpiau cymorth i ofalwyr ledled y DU a all eich helpu i gwrdd â gofalwyr eraill, yn ogystal â chael gafael ar gyngor a chymorth lleol. Mae gan wefan Carers UK gyfeiriadur o wasanaethau lleol yn carersuk.org/localsupport
Mae llawer o ofalwyr hefyd yn teimlo bod fforymau ar-lein yn ffynhonnell enfawr o gymorth – man lle gallwch rannu’r hyn sydd ar eich meddwl, unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, gyda gofalwyr eraill sy’n deall yr hyn rydych yn mynd drwyddo. Dysgwch fwy am Fforwm Carers UK yn carersuk.org/help-and-advice/get-support/carersuk-forum
Fel Cyngor mae nifer o wasanaethau cymorth ar gael i chi. Mae’r rhain yn cynnwys ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr (Carefirst), y Gwasanaeth Cwnsela Cyflogeion, aelodaeth o Carers UK ac yn bwysicaf oll ein Rhwydwaith Gofalwyr.
Mae’r Rhwydwaith Gofalwyr yn grŵp annibynnol, sy’n ei drefnu ei hun ac sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr sy’n ofalwyr neu sydd wedi bod yn ofalwyr. Mae’r rhwydwaith yn darparu cymorth a lle diogel i rannu profiadau boed yn rhai da neu’n rhai drwg, i gydweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Os hoffech ymuno â’r rhwydwaith neu gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at rhwydwaithgofalwyr@caerdydd.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, ewch i carersuk.org/carersrightsday